Skip page header and navigation

Bydd Ishrat, 43, yn graddio o gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Birmingham heddiw ar ôl goresgyn heriau personol a dychwelyd i addysg i weithredu ar ei hangerdd am iechyd a gofal cymdeithasol.

A smiling and proud graduate dressed in her cap and gown.

Yn fam Bacistanaidd Brydeinig i ddau fyfyriwr prifysgol, cafodd Ishrat ei geni a’i magu yn Birmingham a dewisodd astudio ar gampws Sparkhill PCYDDS oherwydd ei chysylltiad cryf â’r gymuned leol.

“Roedd bod mewn ardal roeddwn i’n ei hadnabod yn dda yn rhoi hyder i mi,” meddai. “Roeddwn i wedi clywed gan ffrindiau am awyrgylch cynhwysol a chroesawgar y Brifysgol, a rhoddodd hynny sicrwydd i mi ar ôl seibiant mor hir o astudio.”

Gydag anogaeth ei gŵr a’i merched, cofrestrodd Ishrat ar radd BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fe’i denwyd i’r cwrs gan ei botensial i greu newid cadarnhaol i bobl agored i niwed a gwella deilliannau iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy gydol ei hastudiaethau, datblygodd ddealltwriaeth ddyfnach o’r heriau sy’n wynebu’r sector, gan gynnwys pwysau ar y GIG, y galw cynyddol am wasanaethau a phwysigrwydd iechyd meddwl a diogelu.

Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd ei thraethawd hir, a oedd yn archwilio’r ffactorau sy’n cyfrannu i iechyd meddwl gwael ymhlith pobl ifanc mewn sefydliadau troseddu ieuenctid. Archwiliodd ei hymchwil effaith trawma plentyndod, allgau cymdeithasol, a mynediad cyfyngedig at gymorth iechyd meddwl.

Ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth arbenigol, cryfhaodd Ishrat ei sgiliau ymchwil, cyfathrebu a meddwl beirniadol.

Roedd cydbwyso bywyd teuluol, problemau iechyd, ac ymrwymiadau academaidd yn creu heriau, ond mae hi’n diolch i gymorth staff y brifysgol am ei helpu hi i lwyddo.

“Roedd y cymorth gan ddarlithwyr a staff yn amhrisiadwy,” meddai. “Bu rhannu fy ngwaith yn dasgau llai, haws eu rheoli, yn help i mi gadw ffocws a chwblhau fy ngradd. Mae’r cwrs hwn wedi gwella fy hyder ac wedi dangos i mi y gallaf oresgyn heriau a chyflawni nodau a oedd unwaith yn teimlo y tu hwnt i’m cyrraedd i.”

A hithau bellach yn parhau â’i hastudiaethau gyda gradd meistr mewn iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol, mae Ishrat yn gobeithio defnyddio ei gwybodaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.

“Os bydda i o help i ddim ond un person, bydd yr holl astudio, aberth a heriau wedi bod yn werth chweil,” meddai.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon