Mia Harries yn troi angerdd yn yrfa greadigol
I Mia Harries, sy’n astudio BA Dylunio Gemau Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae’r Brifysgol wedi bod yn fwy na lle i astudio. Mae wedi bod yn fan i dyfu mewn hyder, creadigrwydd a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Dewisodd Mia ddod i PCYDDS oherwydd presenoldeb y Gymraeg ar ei champysau.
“Mae o hyd pobl yma yn siarad Cymraeg i gymharu â rhywle yn Lloegr. Roeddwn i dal eisiau cadw siarad a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed os oeddwn i oddi cartref.”
Ar ôl ymweld â diwrnod agored y brifysgol, roedd yn glir iddi fod yr amgylchedd dysgu, gyda’i bwyslais ar waith ymarferol a pharatoi ar gyfer y byd gwaith, yn teimlo’n iawn iddi o’r dechrau.
Un o’r pethau mae Mia’n ei werthfawrogi fwyaf am y cwrs yw’r amrywiaeth o sgiliau a chyfryngau y mae’n ei dysgu.
“Mae’r gwaith i gyd yn ymarferol sydd nid yn unig yn hwyl, ond mae hefyd wedi fy helpu i ddeall yn well ble mae fy niddordebau a fy nghryfderau o fewn y diwydiant gemau.”
Yn ystod ei hastudiaethau, mae Mia wedi elwa’n fawr o’r cysylltiadau cryf â’r diwydiant, gyda gweithwyr proffesiynol yn ymweld yn rheolaidd â’r myfyrwyr i rannu eu profiadau, a theithiau i leoliadau fel Yr Egin yn agor drysau newydd iddi.
“Mae siarad gyda arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes wedi fy helpu i baratoi o ran beth i’w ddisgwyl pan yn chwilio am swyddi, sut i ddod o hyd i gyfleoedd o fewn y maes, canolbwyntio ar gysylltiadau ac yn y pen draw, sut i gael swydd y gallwch fod yn falch ohono.”
Mae cysylltiad Mia gyda’r Egin wedi bod yn rhan allweddol o’i thaith. Daeth Mia i’r Egin ar brofiad gwaith pan roedd hi’n astudio Lefel A Busnes. Ar ôl i Mia fynegu’i diddordeb mewn gemau ac animeiddio, cafodd ei chyflogi yno’n rhan-amser gyda’r tîm yna yn awyddus iawn i’w chefnogi a chynnig cyfleon gwerthfawr iddi.
“Dros y dair blynedd ddiwethaf, dwi wedi bod yn arwain gweithdai animeiddio a sgrin werdd i blant, yn rhedeg y sinema, ac yn datblygu fy sgiliau technegol yn ogystal â fy sgiliau creadigol. Rydw i hefyd wedi bod yn gweithio yn y caffi ers tua blwyddyn, sydd wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn codi hyder, ac i roi’r cyfle i mi gwrdd â nifer o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant sy’n gweithio yn Yr Egin yn amlach.”
Mae’r holl brofiadau uchod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ddatblygiad Mia. Maent wedi roi’r hyder iddi gredu ei gallu, a’i pharatoi ar gyfer y byd gwaith wedi graddio.
Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:
“Mae’r Egin yn bont allweddol rhwng myfyrwyr PCYDDS â diwydiant, mae darparu cysylltiadau a chodi ymwybyddiaeth o’r llwybrau gyrfa posibl i raddedigion yn ganolog i’n gwaith yn ogystal â darparu cyfleon i fyfyrwyr siarad Cymraeg
Mae wedi bod yn bleser gweld Mia yn datblygu yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae hi wedi gwneud yn fawr o bob cyfle yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig, boed hynny yn darparu gweithdy ar ran Yr Egin yn y gymuned neu gweithio yma bob dydd Mawrth gan ddatblygu nid yn unig gallu a dealltwriaeth academaidd ond hefyd sgiliau meddal hanfodol.”
Mae Mia ar hyn o bryd yn gweithio ar ei thraethawd hir, ac mae’n canmol ei darlithwyr am fod mor gefnogol. Ychwanegodd:
“Yn bersonol, mae pob un o fy narlithwyr wedi bod yn agored ac yn gymwynasgar iawn wrth ofyn am unrhyw gefnogaeth neu gymorth o ran deall aseiniadau neu gynnwys darlithoedd.”
Dywedodd Adam Head, Darlithydd Cyfrifiadura yn PCYDDS:
“Wrth iddi baratoi i raddio eleni, mae taith Mia dros y tair blynedd diwethaf ar y cwrs BA Dylunio Gemau yn Y Drindod Dewi Sant yn tynnu sylw at ei thwf trawiadol fel dylunydd gemau ac artist. Mae hi wedi datblygu o archwilio syniadau gweledol cynnar i gynhyrchu celf gemau hyderus, caboledig sy’n gwella’r profiad chwarae a phrofiad cyffredinol y chwaraewr. Mae Mia yn mynd ati i’w gwaith gyda chreadigrwydd, ymroddiad, ac yn agored i adborth, gan ddangos aeddfedrwydd a balchder gwirioneddol yn ei chrefft. Mae ei datblygiad dros y cwrs yn adlewyrchu talent angerddol a galluog sy’n dod i’r amlwg mewn dylunio gemau.”
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Mia yn gobeithio cael swydd lefel mynediad mewn stiwdio gemau yng Nghymru, gan adeiladu profiad a chysylltiadau gwerthfawr. Yn y cyfamser, mae’n bwriadu parhau i weithio’n llawrydd wrth barhau â’i rôl yn Yr Egin.
Meddai:
“Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gemau. Dw i wedi gwneud ffrindiau am oes, wedi dysgu cymaint o sgiliau gwerthfawr, ac alla i ddim diolch y staff ddigon am eu cefnogaeth. Mae’n gallu bod yn heriol ar adegau, ond os oes gennych uchelgais ac awydd i ddysgu, mae’n brofiad anhygoel.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476