Myfyriwr 88 oed yn y Drindod Dewi Sant yn cyflawni uchelgais oes trwy ennill gradd meistr
Yn sgil ei gariad gydol oes at ddysgu a phenderfyniad i gyflawni uchelgais hirsefydlog, mae Glyn Conway, 88 oed, wedi graddio â gradd meistr mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Dathlodd Glyn ei gamp gyda’r Brifysgol yn Seremoni Raddio’r Gaeaf yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar 24 Tachwedd, gan ymuno â chyd-raddedigion i nodi penllanw taith academaidd ryfeddol.
Yn wreiddiol o’r Rhyl, dechreuodd taith Glyn i addysg uwch ddegawdau lawer yn ôl. Wrth dyfu i fyny mewn teulu dosbarth gweithiol, lle disgwylid yn gyffredinol i bobl ifanc ddysgu crefft ac aros yn agos at gartref, Glyn oedd y cyntaf yn ei deulu i ddilyn addysg bellach ac adeiladu bywyd y tu hwnt i’w dref enedigol.
Er na basiodd yr arholiad 11+ ac er iddo golli’r cyfle i fynd i’r ysgol ramadeg, helpodd athrawon ysbrydoledig i feithrin ei chwilfrydedd a’i uchelgais.
“Roeddwn yn benderfynol o beidio â chael fy nghyfyngu gan y disgwyliadau o’m cwmpas, ac ymhen amser fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r coleg a chreu bywyd y tu allan i’m tref enedigol,” meddai.
Ar ôl gweithio i ddechrau fel cynorthwyydd clercyddol yn Llys Ynadon y Rhyl, yn ddiweddarach teimlodd Glyn alwad i’r offeiriadaeth.Yn benderfynol o ddilyn y llwybr hwn, astudiodd yn breifat yn ei ugeiniau i ennill y cymwysterau oedd eu hangen i fynd i goleg diwinyddol, ac yn y pen draw aeth i Goleg Diwinyddol Sant Mihangel yn Llandaf, lle enillodd Ddiploma mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.
Parhaodd ei ffocws ar ddiwinyddiaeth a’i awydd i barhau i ddysgu drwy gydol ei oes. Yn 2021, tra roedd yn byw yn Aberystwyth, darganfu Glyn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig grantiau i bobl dros 60 oed i ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig.
“Rwy wastad wedi bod â meddwl chwilfrydig a chariad at ddysgu,” meddai. “Roedd yn teimlo fel cyfle rhy dda i’w golli ac fe roddodd yr hwb oedd ei angen arnaf i ymgymryd â her newydd.”
Nid oedd dychwelyd i’r brifysgol yn ei wythdegau heb ei heriau.I ddechrau, cafodd Glyn hi’n anodd cyfarwyddo â gofynion astudio ôl-raddedig ac addasu i ysgrifennu academaidd, gan gyfaddef ei fod hyd yn oed wedi ystyried gadael y cwrs yn ystod y camau cynnar.
“Cedwais fy astudiaethau’n weddol breifat ar y dechrau, oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr sut y byddwn i’n dod ymlaen,” esboniodd.”Yn ffodus, rhoddodd fy nghanlyniadau’r hyder i mi barhau. Wrth imi symud ymlaen drwy’r cwrs, cefais fy hun yn ei fwynhau fwyfwy.”
Yn ystod ei astudiaethau, wynebodd Glyn heriau iechyd sylweddol hefyd. Ac yntau wedi dioddef strôc fawr yn flaenorol, roedd weithiau’n gweld y llwyth gwaith academaidd yn heriol. Ym mis Medi 2022, datblygodd sepsis a chafodd lawdriniaeth fawr, gan ei orfodi i gymryd seibiant o’i astudiaethau am fwy na blwyddyn.
Gan bryderu y gallai’r toriad i’w astudiaethau ddod â’i daith academaidd i ben, cafodd ei galonogi’n fawr gan ddealltwriaeth a hyblygrwydd y Brifysgol, a’i galluogodd i ddychwelyd a chwblhau ei radd. Fe wnaeth darlithoedd wedi’u recordio a chefnogaeth staff academaidd hefyd chwarae rhan bwysig wrth ei helpu i barhau.
Meddai Glyn: “Roeddwn yn poeni y gallai toriad mor hir ddod â’m taith academaidd i ben, ond rhoddodd dealltwriaeth a hyblygrwydd y Brifysgol yr hyder i mi ddychwelyd a chwblhau’r cwrs.”
Yn ei astudiaethau Meistr archwiliodd amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ysbrydolrwydd, crefydd a chymdeithas y Celtiaid, a’r heriau a wynebwyd gan wahanol gymunedau drwy gydol hanes. Archwiliodd ei draethawd hir sut y gallai gwahanol draddodiadau Cristnogol weithio’n agosach gyda’i gilydd, yn enwedig yr eglwysi Anglicanaidd a Chatholig.
Un o’r agweddau mwyaf buddiol oedd y cyfle i gyfnewid syniadau a dadlau â myfyrwyr o wahanol wledydd, cefndiroedd a chredoau.
“Mae’r profiad cyfan wedi bod yn ysgogol yn ddeallusol ac yn werthfawr yn bersonol,” meddai. “Un o bleserau annisgwyl y cwrs oedd cymysgu â myfyrwyr eraill.
“Roedden nhw bob amser yn groesawgar ac yn barchus, er fy mod i’n amau bod rhai ohonyn nhw’n tybio mai aelod o staff oeddwn i yn hytrach na chyd-fyfyriwr!”
Roedd Glyn hefyd yn gallu manteisio ar ei brofiad helaeth o’r weinidogaeth yn y Deyrnas Unedig a thramor i ddod â phersbectif gwahanol i’w astudiaethau. Canmolodd gefnogaeth ac anogaeth darlithwyr y Brifysgol, yn ogystal â chefnogaeth ei wraig, Dr Janet Conway, drwy gydol ei daith academaidd.
Dywedodd Dr Angus Slater, goruchwyliwr traethawd hir Glyn yn PCYDDS:”Mae camp Glyn yn rhyfeddol ac yn dyst i’w benderfyniad, ei chwilfrydedd a’i angerdd dros ddysgu. Mae dychwelyd i ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig ar oedran pan fyddai llawer o bobl yn teimlo bod eu taith academaidd y tu ôl iddynt yn gofyn am ddewrder ac ymrwymiad gwirioneddol.
“Drwy gydol ei astudiaethau, dangosodd Glyn frwdfrydedd gwirioneddol dros archwilio syniadau newydd, ystyried gwahanol safbwyntiau a chyfrannu at drafodaethau academaidd. Daeth ei brofiad bywyd â dimensiwn gwerthfawr i’w astudiaethau, ac fe groesawodd y cyfle i ddysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd.
“Mae wedi bod yn bleser gweld Glyn yn dyfalbarhau drwy’r heriau a wynebodd ac yn cyflawni canlyniad mor ardderchog. Mae ei lwyddiant wrth raddio yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy benderfyniad a pharodrwydd i barhau i ddysgu. Dylai fod yn hynod falch o bopeth y mae wedi’i gyflawni.”
Mae camp Glyn hefyd wedi bod yn ffynhonnell balchder aruthrol i’w deulu, sydd wedi ei gefnogi drwy gydol ei astudiaethau.
Meddai ei ferch, Rachel Toal: “Mae fy nhad wastad wedi bod yn hynod benderfynol ac nid yw erioed wedi rhoi’r gorau i fod yn chwilfrydig am y byd o’i gwmpas. Rydyn ni i gyd mor falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Byddai cwblhau gradd meistr yn 88 oed yn rhyfeddol i unrhyw un, ond mae gwybod yr heriau y mae wedi’u goresgyn ar hyd y ffordd yn ei wneud hyd yn oed yn fwy ystyrlon.
“Mae fy chwaer Charlotte, fy llysfam Janet a minnau wedi gweld â’n llygaid ein hunain yr ymroddiad y mae wedi’i ddangos drwy gydol ei astudiaethau. Gwyddom fod adegau pan nad oedd y daith yn hawdd, sy’n golygu bod ei weld yn graddio hyd yn oed yn fwy arbennig. Mae’n gamp rhagorol, ac yn un yr ydym yn hynod falch o’i ddathlu gydag ef.”
Dyfarnwyd gradd meistr gyda Theilyngdod i Glyn, cyflawniad y mae’n ei ddisgrifio fel un o brofiadau mwyaf boddhaus ei fywyd. Mae hyd yn oed yn ystyried mynd â’i daith academaidd gam ymhellach drwy ddilyn astudiaeth ddoethurol.
Wrth fyfyrio ar yr hyn y mae dychwelyd i addysg wedi’i olygu iddo, dywedodd Glyn: “Dewis astudio am radd meistr oedd un o’r penderfyniadau gorau rwy erioed wedi’u gwneud. Byddwn yn annog unrhyw un, beth bynnag fo’u hoedran, i ystyried dychwelyd i addysg. Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu rhywbeth newydd, a gall y gwobrau fod yn llawer mwy nag yr ydych chi’n ei ddisgwyl.”
Yn 88 oed, mae llwyddiant Glyn wrth raddio nid yn unig yn cynrychioli cyflawni cymhwyster academaidd ond hefyd uchelgais gydol oes, ac yn ein hatgoffa nad oes rhaid i’r cyfle i ddysgu, tyfu a chyflawni rhywbeth newydd byth ddod i ben.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076