Skip page header and navigation

Mae Brody Crockford, myfyriwr Peirianneg Beiciau Modur, wedi sicrhau swydd fawr ei bri fel Peiriannydd Data ar gyfer PHR Performance Triumph yn y dosbarth newydd World Sportbike newydd – a hynny oll wrth gwblhau blwyddyn olaf ei radd BEng. Mae ei benodiad yn ei osod o fewn tîm a gefnogir gan ffatri sy’n cystadlu ar lwyfan y byd ochr yn ochr â Phencampwriaeth Superbike y Byd.

Two students in branded clothing talking against a racing background.

Dechreuodd taith Brody, sy’n 20 oed, i beirianneg ymhell cyn ei astudiaethau prifysgol.

“Treuliais y rhan fwyaf o’m mhlentyndod yn rasio beiciau modur ac yn gobeithio gallu cystadlu’n broffesiynol,” esboniodd. “Ond roeddwn i’n ymddiddori llawn gymaint mewn sut roedd pethau’n gweithio hefyd, ac roeddwn yn aml yn helpu fy nhad yn y garej. Pan ddaeth yn amlwg nad oeddwn i’n mynd i fod yn rasiwr proffesiynol, dod yn beiriannydd oedd y dilyniant naturiol. Ar ôl i ni weld y cwrs peirianneg beiciau modur, a’r cyfleusterau a’r posibiliadau cysylltiedig, ar y diwrnod agored yma yn PCYDDS, roedd y dewis yn amlwg.”

Wedi’i ddenu ar y cychwyn gan ddylunio rhannau, darganfu Brody, sy’n wreiddiol o Southampton, ond sydd bellach yn byw yn Abertawe, angerdd am yr agweddau technegol dyfnach ar berfformiad.

“Pan ddechreuais y radd, roeddwn i eisiau mynd i mewn i faes dylunio rhannau, ond gwnaeth dysgu mwy am ddeinameg a’r effaith ar y beiciwr, yn enwedig o ystyried fy nghefndir rasio, wirioneddol ddal fy llygad. O ganlyniad, dilynais lwybr hollol wahanol, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi data, modelu cyfrifiadurol, ac efelychu. Mae’r cwrs wedi rhoi sylfaen gref i mi yn y meysydd hynny a’r hyder i’w cymhwyso mewn amgylchedd rasio.”

Ochr yn ochr â’i astudiaethau, mae Brody eisoes wedi ennill profiad ymarferol helaeth mewn padogau rasio proffesiynol. Ymunodd â Moto Rapido Ducati gyntaf ym mhencampwriaethau Superbike a Supersport Prydain yn Beiriannydd Perfformiad cyn symud ymlaen i fod yn Bennaeth Criw yn y Bencampwriaeth Sportbike Genedlaethol, lle cefnogodd feicwyr oedd yn brwydro am y teitl.

“Mae’r rhain wedi bod yn brofiadau dysgu anhygoel ac maent wedi cyflymu fy natblygiad fel peiriannydd,” meddai.

Mae ei benodiad diweddaraf gyda PHR Performance Triumph yn nodi cam sylweddol i’r arena ryngwladol.

“Mae gwneud y cam i mewn i dîm pencampwriaeth y byd a gefnogir gan ffatri yn anhygoel, ond mae hefyd yn her enfawr,” ychwanegodd Brody. “Byddaf yn gweithio gyda dau feiciwr cystadleuol iawn, yn gofalu am ddadansoddiad eu data, gosodiad eu beiciau a strategaethau electroneg – a hynny oll wrth gwblhau blwyddyn olaf fy ngradd BEng.”

Dywedodd yr uwch ddarlithydd, Owen Williams: “Mae llwyddiant Brody yn adlewyrchu ei benderfyniad personol a chryfder rhaglen Peirianneg Beiciau Modur PCYDDS, sy’n parhau i gynhyrchu graddedigion sy’n symud ymlaen i rolau uwch ym maes chwaraeon moduro byd-eang.

“Hoffem longyfarch Brody ar y cyflawniad rhagorol hwn ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi wrth iddo gydbwyso cyfrifoldebau peirianneg ar lefel fyd-eang â’i flwyddyn olaf o astudio academaidd.”

Pennawd llun: Brody yn trafod gyda’r beiciwr o UWTSD, Ian Henshaw, mewn prawf preifat yng Nghylchdaith Pen-bre.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon