Skip page header and navigation

Pan gofrestrodd Vicki Hayman-Teear ar raglen MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, roedd hi eisoes weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gofal iechyd, a oedd wedi gweld drosti’i hun y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector. Heddiw, fel Pennaeth Sgiliau a Gallu Digidol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), mae’n helpu i lunio sut mae staff GIG Cymru yn datblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i weithio mewn byd cynyddol ddigidol.

Fel aelod o garfan gyntaf y rhaglen, cwblhaodd Vicki Ddiploma Ôl-raddedig yn 2025, ac mae hi’n credu bod ei hastudiaethau wedi chwarae rhan sylweddol wrth ei helpu i gymryd y cam nesaf yn ei gyrfa.

Vicki Hayman-Teear, Head of Digital Skills and Capability at HEIW and graduate of UWTSD's Digital Transformation for the Health and Care Professions programme

Adeiladu ar brofiad clinigol

Gyda chefndir fel Nyrs Ardal gofrestredig, treuliodd Vicki 15 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan ddatblygu ei gyrfa drwy amrywiaeth o rolau mewn gwasanaethau gofal iechyd cymunedol cyn dod yn Uwch Nyrs. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth yn fwyfwy rhan o fentrau gwella gwasanaethau a gwelodd y potensial oedd gan dechnoleg ddigidol i wella gofal, rhyddhau amser staff a helpu gwasanaethau i weithio’n fwy effeithiol. Fodd bynnag, sylweddolodd yn gyflym nad oedd cyflwyno technoleg ar ei ben ei hun yn ddigon.

“Roeddwn i’n gallu gweld mai dim ond un rhan o’r darlun oedd cyflwyno technoleg. Os nad oedd gan staff yr hyder, y gallu, yr amser, yr arweinyddiaeth na’r gefnogaeth ymarferol i’w ddefnyddio, ni fyddai’r manteision byth yn cael eu gwireddu’n llawn.”

A hithau eisiau deall yn well sut y gallai trawsnewid digidol greu newid ystyrlon a pharhaol, cofrestrodd ar raglen MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal PCYDDS.

Astudio trawsnewid digidol

I Victoria, un o gryfderau mwyaf y rhaglen oedd ei ffocws ar realiti iechyd a gofal.

“Doeddwn i ddim eisiau cymhwyster technoleg generig, ac nid oeddwn yn dymuno dod yn arbenigwr TG. Roeddwn i eisiau dod yn arweinydd clinigol cryfach a allai bontio’r bwlch rhwng technoleg, y gweithlu a realiti darparu gofal.”

Roedd hyblygrwydd y rhaglen yn caniatáu iddi barhau mewn rôl arwain heriol yn y GIG wrth gymhwyso syniadau a dulliau newydd i’w gwaith o ddydd i ddydd ar unwaith.

Wrth i’w hastudiaethau fynd yn eu blaen, datblygodd Victoria ddealltwriaeth ddyfnach o ddatblygu’r gweithlu, strategaeth ddigidol, a thrawsnewid gwasanaethau. Yn ystod ei hastudiaethau, aeth ati i ymchwilio i brosiect a ddatblygodd ei hun yn canolbwyntio ar lythrennedd digidol ymhlith y gweithlu nyrsio cymunedol, gan gyfuno syniadau o’r rhaglen â’i phrofiad clinigol helaeth.

“Daeth hyn â’m cefndir clinigol a fy niddordeb cynyddol yn sut rydym yn paratoi a chefnogi staff ar gyfer gofal wedi’i alluogi’n ddigidol ynghyd. Mae’r thema honno bellach wedi dod yn llinyn canolog sy’n rhedeg trwy fy ngwaith cenedlaethol.”

Newidiodd y rhaglen y ffordd yr oedd Vicki yn meddwl am drawsnewid digidol, gan ei helpu i sylweddoli bod sicrhau newid llwyddiannus yn dibynnu cymaint ar bobl ag y mae ar dechnoleg.

Llunio dyfodol GIG Cymru

Heddiw, mae Victoria yn arwain y Rhaglen Trawsnewid Gweithlu wedi’i Alluogi’n Ddigidol genedlaethol yn HEIW, gan helpu i sicrhau bod gan staff GIG Cymru y gallu, yr hyder a’r gefnogaeth sydd eu hangen i ddarparu gofal wedi’i alluogi’n ddigidol.

Mae hi’n rhoi clod i’r rhaglen am roi iddi’r wybodaeth, yr hyder a’r persbectif strategol i ehangu ei heffaith y tu hwnt i ddarparu gwasanaethau lleol.

“Rhoddodd y rhaglen y sylfaen academaidd, y persbectif strategol a’r hyder i mi i symud o arwain gwasanaethau yn lleol i rôl genedlaethol.”

Nid yw Victoria yn gweld ei swydd bresennol fel symudiad i ffwrdd oddi wrth nyrsio. Yn hytrach, mae’n ei gweld fel cyfle i gymhwyso ei phrofiad clinigol mewn ffordd wahanol, gan helpu i ddylanwadu ar drawsnewid y gweithlu ledled Cymru a chefnogi miloedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Ysbrydoli arweinwyr y dyfodol

Yn ddiweddar, dychwelodd Vicki i’r rhaglen fel siaradwr wadd yn ystod y penwythnos preswyl. Fel aelod o garfan gyntaf y rhaglen, mae ei hymwneud parhaus yn rhoi cyfle i fyfyrwyr presennol glywed gan gyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad sylweddol i’r sector iechyd a gofal.

I’r rhai sy’n ystyried astudio ymhellach, mae ei phrofiad yn dangos sut y gall datblygu gwybodaeth a sgiliau newydd agor cyfleoedd annisgwyl wrth adeiladu ar yrfa bresennol.

Wrth adfyfyrio ar ei thaith ei hun, mae’n glir am yr effaith y mae’r rhaglen wedi’i chael.

“I mi, fe newidiodd y rhaglen y ffordd roeddwn i’n meddwl am drawsnewid digidol ac fe luniodd cyfeiriad fy ngyrfa yn uniongyrchol. O ddifrif, ni fyddwn yn gwneud y gwaith rydw i’n ei wneud nawr heb y profiad hwnnw.”

Vicki Hayman-Teear, Head of Digital Skills and Capability at HEIW and graduate of UWTSD's Digital Transformation for the Health and Care Professions programme at launch of UWTSD's School of Health & Social Care

Wedi'ch ysbrydoli gan stori Vicki?

Darganfyddwch sut y gall MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, ymestyn eich dylanwad a symud eich gyrfa yn ei blaen.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch ag Edward Conley, Rheolwr y Rhaglen, ar e.conley@uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon