Myfyriwr PCYDDS yn dod o hyd i gartref greadigol mewn hen siop adrannol wedi’i thrawsnewid yn Abertawe
Mae myfyrwraig Dylunio Crefftau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ymhlith yr artistiaid sydd bellach yn dod â bywyd newydd i hen siop adrannol boblogaidd yn Abertawe, sydd wedi’i thrawsnewid yn ganolfan gelfyddydau newydd ffyniannus.
Mae Talia Giles, 26 yn un o’r artistiaid sy’n gweithio o stiwdio yn hen adeilad JT Morgan ar Belle Vue Way, sydd wedi’i ailddatblygu gan fenter gymdeithasol Elysium Gallery and Studios sydd wedi’i lleoli yn Abertawe.
Mae’r prosiect £3.2 miliwn wedi trawsnewid y siop adrannol sydd wedi bod yn wag ers peth amser i ofod celfyddydol pwrpasol sy’n cynnwys 63 o stiwdios artistiaid, caffi, gofod addysg ac ystafell swyddogaethau. Mae’r stiwdios eisoes yn llawn, gyda rhestr aros, tra bod yr oriel a’r caffi wedi croesawu mwy na 400 o ymwelwyr ers iddo agor ym mis Mehefin.
I Talia, mae cael ei gweithdy ei hun wedi’i helpu i wneud ei huchelgais o weithio fel artist deimlo’n llawer mwy cyraeddadwy.
“Meddyliais: “Mae hyn yn rhywbeth sy’n gallu digwydd go iawn’,” meddai. “Mae’n deimlad rhyfedd.”
Mae cwrs Talia yn cwmpasu gwaith gof arian, cerameg, a gwydr, ar ôl arbenigo mewn peintio yn y gorffennol ar gwrs sylfaen blwyddyn. Er ei bod hi’n disgwyl i beintio barhau i bod yn brif ffocws iddi, mae wedi cael ei denu’n benodol at wydr.
“Yn annisgwyl, mae’n well gen i wydr – mae mor ddiddorol,” meddai.
Dywedodd fod cael ei hamgylchynu gan artistiaid eraill wedi gwneud yr amgylchedd stiwdio’n arbennig hefyd.
“Dydych chi byth yn cerdded heibio i unrhyw un heb i rywun ddweud ‘helo’,” meddai. “Ac mae rhywbeth yn digwydd bob amser.”
Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd, Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS, fod y datblygiad wedi darparu cyswllt pwysig rhwng addysg greadigol y Brifysgol a’r gymuned gelfyddydol ehangach yn Abertawe.
“Mae cael myfyrwyr fel Talia sy’n gallu datblygu eu harfer mewn amgylchedd creadigol proffesiynol ochr yn ochr ag artistiaid sefydledig yn hynod werthfawr,” meddai. “Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr weld sut olwg y gall fod ar yrfa yn y diwydiannau creadigol y tu hwnt i stiwdio y brifysgol, wrth ddod yn rhan o gymuned artistig fywiog yn y ddinas ar yr un pryd.
“Mae’n wych gweld adeilad sydd â chymaint o hanes yn Abertawe yn cael pwrpas newydd a chreu gofod i artistiaid, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach. Mae datblygiadau fel hyn yn bwysig i ddyfodol sector creadigol Abertawe ac yn ategu’r gwaith mae PCYDDS yn ei wneud i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr creadigol.”
Caeodd hen siop JT Morgan yn 2008 ar ôl degawdau o fod yn enw cyfarwydd ar stryd fawr Abertawe. Mae’r trawsnewidiad wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad o £3.2 miliwn, gan gynnwys cefnogaeth gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, Cyngor Celfyddydau Cymru, cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a hen gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Bydd yr oriel yn cynnwys rhaglen newidiol o arddangosfeydd bob chwe wythnos, gan gynnwys arddangosfeydd cenedlaethol, rhyngwladol yn ogystal ag arddangosfeydd preswylfa myfyrwyr. Yn ogystal, mae’r adeilad wedi’i ddewis yn un o bum lleoliad yn Abertawe ar gyfer y Sioe Gelf Brydeinig deithiol fis Chwefror nesaf.
Mae Oriel Elysium a’r caffi ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn, 11am i 5pm. Yn ogystal mae Elysium wedi cadw 26 stiwdio artistiaid eraill ar ei safleoedd ar Stryd y Coleg a Stryd Mansel.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071