Myfyriwr Peirianneg PCYDDS yn Symud ei Yrfa yn ei Blaen gyda Rôl Fformiwla Un Aston Martin Cyn Graddio
Mae myfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi sicrhau rôl nodedig gyda Thîm Fformiwla Un Martin Aramco cyn cwblhau ei radd.
Mae Nathan Evans 21, o Ben-y-bont ar Ogwr, ar fin dechrau ei yrfa mewn peirianneg chwaraeon moduro elitaidd ar ôl graddio o raglen Peirianneg Chwaraeon Moduro PCYDDS. Mae ei benodiad yn nodi carreg filltir arwyddocaol mewn taith a yrrwyd gan angerdd am beirianneg, chwaraeon moduro a gwaith mecanyddol ymarferol.
Yn ystod ei astudiaethau, cyfunodd Nathan ddysgu academaidd â phrofiad ymarferol, gan ddatblygu arbenigedd mewn peirianneg cerbydau, gweithgynhyrchu, profi, ac efelychu. Canolbwyntiodd ei draethawd hir blwyddyn olaf ar ddylunio, gweithgynhyrchu a dilysu tiwbiau cyfansawdd ffibr carbon ar gyfer cymwysiadau siasi chwaraeon moduro, gan ddod ag ymchwil deunyddiau uwch, profi a dadansoddi peirianneg ynghyd.
Ochr yn ochr â’i astudiaethau, chwaraeodd Nathan rôl allweddol yn nhîm rali’r Brifysgol, gan helpu i baratoi car rali BMW 130i i reoliadau Motorsport UK, yn ogystal, cafodd brofiad gwerthfawr yn y diwydiant gydag Innovate Composites a chwmni peirianneg chwaraeon moduro MST yng Ngogledd Cymru.
Cafodd cyflawniadau Nathan eu cydnabod ymhellach pan dderbyniodd Wobr Prosiect y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), gan ddathlu ei berfformiad academaidd, ei allu peirianyddol a’i gyflawniadau wrth gwblhau prosiect ymchwil a datblygu rhagorol mewn Peirianneg Fecanyddol.
Meddai Nathan: “Rwy’n hynod falch fy mod wedi sicrhau rôl gyda Thîm Fformiwla Un Aston Martin. Pan ddechreuais fy ngradd, roedd gweithio yn Fformiwla Un yn uchelgais, ond dros amser, daeth fy ffocws ar fod y peiriannydd gorau y gallwn fod. Rhoddodd y cwrs y cyfle i mi adeiladu’r wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol a oedd eu hangen er mwyn cymryd y cam nesaf hwn.”
“Un o’r rhannau mwyaf gwerth chweil fy ngradd oedd gweld sut mae’r gwahanol feysydd peirianneg yn dod at ei gilydd mewn prosiectau go iawn. O weithgynhyrchu cydrannau cyfansawdd a dadansoddi data profion i weithio ar geir rali a phrosiectau chwaraeon moduro, mae pob profiad wedi helpu i adeiladu’r sgiliau a’r hyder yr oeddwn eu hangen i ddilyn gyrfa gyda Fformiwla Un.”
Dywedodd Nathan ei fod wedi dewis PCYDDS oherwydd ei phwyslais cryf ar beirianneg ymarferol a’i chymhwysiad yn y byd go iawn. Mae’n cydnabod bod y cwrs wedi ei helpu i ddatblygu’r hyder, y sgiliau technegol a’r gallu datrys problemau sydd eu hangen i lwyddo mewn diwydiant cystadleuol iawn.
Ychwanegodd, “byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn chwaraeon moduro neu beirianneg i gymryd pob cyfle sydd ar gael iddyn nhw. Roedd cymryd rhan mewn prosiectau ymarferol, profiad gwaith a gweithgareddau allgyrsiol wedi dysgu cymaint i mi â’r sesiynau yn yr ystafell ddosbarth ac wedi fy helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen i weithio mewn amgylchedd peirianneg proffesiynol.”
Bellach, mae Nathan yn gyffrous i ddechrau yn ei rôl newydd a pharhau i ddatblygu ei yrfa ym maes chwaraeon moduro a pheirianneg foduro berfformiad uchel.
Meddai, “rwy’n edrych ymlaen at gael fy nysgu gan beirianwyr profiadol, gan gymhwyso’r sgiliau rwyf wedi’u datblygu yn ystod fy ngradd a pharhau i dyfu yn y diwydiant.”
Meddai Dr Kerry Tudor, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Foduro a Chwaraeon Moduro, “mae cyflawniad Nathan yn enghraifft ardderchog o sut y gall cyfuno dysgu academaidd â phrofiad ymarferol ac ymgysylltu trawsgwricwlaidd gynhyrchu peirianwyr sy’n barod i weithio yn y diwydiant. Trwy gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a gafwyd yn y darlithoedd, mewn lleoliadau gweithdai a phrosiectau, datblygodd y sgiliau a oedd eu hangen i gyflwyno prosiect blwyddyn olaf o ansawdd uchel a gafodd ei gydnabod gyda Gwobr Prosiect IMechE. Mae’r datblygiad cyflawn hwn wedi’i alluogi yn y pen draw i sicrhau rôl raddedig ragorol ym maes Fformiwla Un.”
Capsiwn y llun: Mae Nathan (chwith) i’w weld yn derbyn Gwobr Prosiect Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) gan Dr Mark Cocks, Deon Sefydliad Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn Y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071