Myfyriwr Pensaernïaeth yn ennill gwobr Starki fawreddog
Mae Dylan Longman yn graddio eleni gyda gradd mewn Pensaernïaeth ac mae hefyd yn enillydd balch Gwobr Pensaernïaeth Starki am y model ymchwil dechnegol gorau.
Dechreuodd Dylan, sy’n byw yng Nghastell-nedd, ei daith academaidd yn y Drindod Dewi Sant pan wnaeth gais am le ar y cwrs BSc Pensaernïaeth i ddilyn ei angerdd am ddylunio, adfywio cymunedol, a chreu mannau sy’n gwella lleoedd i bobl a chymunedau.
Dair blynedd yn ddiweddarach mae’n graddio ac yn dathlu ei wobr am y model adeiladu 1:1 ar raddfa lawn orau fel rhan o’r prosiect dylunio ym mlwyddyn olaf y cwrs. Mae’r model yn archwilio wal cyflawn yr adeilad a ddefnyddiwyd yn ei gynnig pensaernïol, gan ganiatáu iddo ymchwilio i sut mae deunyddiau unigol a systemau adeiladu yn dod at ei gilydd mewn adeilad go iawn.
Meddai Dylan: “Roedd derbyn Gwobr Starki yn anrhydedd enfawr, yn enwedig yn y Sioe Ddiwedd Blwyddyn lle mae gwaith myfyrwyr o bob rhan o’r cwrs yn cael ei arddangos. Mae’r model yn caniatáu i mi bontio’r bwlch rhwng dylunio ac adeiladu, gan roi profiad ymarferol i mi o sut mae adeiladau’n cael eu cydosod yn y byd go iawn. Dysgodd ei adeiladu â llaw lawer i mi am dechnegau adeiladu, dewis deunyddiau, a manylion technegol, ac roedd yn hynod werthfawr gweld y gwaith hwnnw’n cael ei gydnabod trwy’r wobr. Hoffwn hefyd ddiolch i Huw Llewelyn a thîm Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) am eu harweiniad a’u cefnogaeth drwy gydol y prosiect, a chwaraeodd ran allweddol wrth fy helpu i ddod â’r model yn fyw.”
Dywed Dylan ei fod wedi mwynhau’r cyfle i fynd â syniad o gysyniad syml i ddyluniad wedi’i ddatblygu’n llawn fel rhan o’r cwrs. Mae’n esbonio: “Fe wnes i fwynhau’r cyfuniad o greadigrwydd a datrys problemau technegol sy’n rhan annatod o bensaernïaeth. Mae prosiectau stiwdio yn ein hannog i feddwl yn feirniadol am sut mae adeiladau yn effeithio ar bobl a chymunedau, tra hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol sy’n uniongyrchol berthnasol i ymarfer proffesiynol. Roedd gweld prosiectau’n esblygu dros amser yn hynod werth chweil.
Ar ôl datblygu ei ddiddordeb mewn dylunio yn ifanc, astudiodd Dylan adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yng Ngholeg Castell-nedd cyn symud ymlaen i Bensaernïaeth yn y Drindod Dewi Sant.
Er bod Dylan yn gwybod ei fod eisiau gyrfa o fewn yr amgylchedd adeiledig, nid oedd yn siŵr i ddechrau ai prifysgol oedd y cam nesaf cywir ar ôl cwblhau ei Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Addeiledig yng Ngholeg Castell-nedd.
“Roedd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gysylltiedig ag adeiladu, a roddodd ddealltwriaeth eang i mi o’r diwydiant ond hefyd yn ei gwneud hi’n anodd penderfynu pa lwybr gyrfa roeddwn i eisiau ei ddilyn,” meddai. “Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr fy mod i eisiau mynd yn syth yn ôl i addysg, felly fe wnes i oedi cyn gwneud unrhyw geisiadau i brifysgolion.”
Ar ôl trafodaethau gyda’r teulu a myfyrio ar y pynciau yr oedd wedi eu mwynhau fwyaf yn y coleg, sylweddolodd Dylan mai pensaernïaeth a dylunio oedd y meysydd sydd o ddiddordeb iddo fwyaf. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd y cyfnod ymgeisio prifysgol arferol wedi mynd heibio, gan ei arwain i archwilio’r broses Clirio.
“Fe wnes i gais trwy Clirio a chael y profiad cyfan yn llawer haws ac yn fwy syml nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl,” meddai Dylan. “Ar ôl cyflwyno fy nghais, fe ges i fy rhoi mewn cysylltiad yn gyflym ag aelod o staff oedd yn goruchwylio’r broses. Ar ôl sgwrs fer, trosglwyddwyd fy manylion i Ian Standen o’r cwrs Pensaernïaeth, a wahoddodd fi i fynychu diwrnod agored yn hwyrach yr wythnos honno. O’r pwynt hwnnw ymlaen syrthiodd popeth i’w le ac mae’r gweddill yn atgof.”
“Roedd y tîm derbyn yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn hawdd i ymwneud â nhw trwy gydol y broses. Fe wnaethon nhw esbonio pob cam yn glir ac ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i, gan wneud y trawsnewidiad i’r brifysgol yn syml ac yn dawel. Rhoddodd y gefnogaeth a gefais hyder i mi fy mod wedi gwneud y dewis cywir, ac o’m cysysylltiad cyntaf â’r brifysgol roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy nghroesawu a’m gwerthfawrogi fel myfyriwr”.
Mae Dylan yn credu bod y profiad yn dangos pa mor hygyrch y gall Clirio fod i fyfyrwyr a allai fod yn ansicr am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol neu sydd wedi colli dyddiadau cau ymgeisio traddodiadol.
“Byddwn yn argymell Clirio yn llwyr i unrhyw un sy’n cael eu hunain mewn sefyllfa debyg. P’un a ydych chi wedi gadael eich cais yn hwyr oherwydd eich bod chi’n dal i benderfynu beth rydych chi am ei wneud, fel yr oeddwn i, neu eich bod wedi colli’r dyddiad cau, mae’r broses yno i helpu. Roedd fy mhrofiad yn syml, yn gefnogol ac yn ddi-straen, ac yn y pen draw arweiniodd fi at gwrs a llwybr gyrfa rydw i’n wirioneddol ei garu.”
“Mae’r cwrs Pensaernïaeth wedi cynnig cyfle i mi ddatblygu sgiliau technegol a dylunio wrth weithio ar brosiectau go iawn. Roedd y dosbarthiadau llai hefyd yn apelio ataf, gan eu bod yn caniatáu mwy o gefnogaeth unigol a pherthnasoedd agosach â darlithwyr. Roedd gallu astudio’n agos at adref tra’n dal i dderbyn addysg o ansawdd uchel yn gwneud y Drindod Dewi Sant yn ddewis perffaith”.
Mae’n dweud bod ei benderfyniad i ymuno â’r Drindod Dewi Sant wedi rhoi cyfle iddo dyfu nid yn unig yn academaidd ond hefyd yn bersonol. Fel llawer o fyfyrwyr, roedd cydbwyso dyddiadau cau academaidd ag ymrwymiadau personol weithiau’n heriol ond datblygodd ei sgiliau trefnu a rheoli amser trwy gynllunio prosiectau yn ofalus, a defnyddio cymorth gan ddarlithwyr a chyfoedion pan oedd ei angen.
“Mae’r darlithwyr cefnogol, y gymuned groesawgar, a’r dull ymarferol o ddysgu wedi creu amgylchedd lle gallwn ddatblygu hyder a chyflawni fy nodau”, eglura Dylan. “Roedd y cwrs yn darparu profiad gwerthfawr yn y byd go iawn ac yn fy mharatoi’n dda ar gyfer cam nesaf fy ngyrfa. Byddwn yn argymell y Drindod Dewi Sant yn fawr i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad prifysgol cefnogol ac addysg o ansawdd uchel.
“Fy hoff beth am astudio yn Abertawe oedd yr awyrgylch. Roedd y campws bob amser yn teimlo’n groesawgar a chefnogol ac roedd bod yn agos at ganol y ddinas a’r glannau yn creu amgylchedd gwych i astudio a chymdeithasu. Roedd diwylliant y stiwdio yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn annog cydweithio, creadigrwydd, a rhannu syniadau rhwng myfyrwyr o wahanol grwpiau blwyddyn. Roedd y darlithwyr yn hygyrch ac yn wirioneddol fuddsoddi mewn helpu myfyrwyr i lwyddo, a wnaeth y profiad hyd yn oed yn fwy pleserus”.
Dywedodd Ian Standen, Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Pensaernïaeth: “Rwy’n falch iawn bod Dylan wedi dod o hyd i’w lwybr i bensaernïaeth. Mae wedi bod yn fyfyriwr enghreifftiol gyda’i sgiliau trefnu, ei agwedd at y gwaith, ei benderfyniad a’i ddiddordeb brwdfrydig mewn dylunio a gwneud. Rwy’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol.”
Y tu allan i’w astudiaethau, mae Dylan yn mwynhau archwilio pensaernïaeth a dylunio, boed hynny trwy ymweld â lleoedd newydd, ymchwilio i adeiladau, neu ddod o hyd i ysbrydoliaeth gan ffilmiau, celf a cherddoriaeth. Mae’r diddordebau hyn, meddai, wedi ei helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith academaidd a bywyd personol trwy gydol ei radd.
Mae bellach yn edrych ymlaen at ddod yn bensaer cymwys a gweithio at brosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau. “Hoffwn gyfrannu at greu lleoedd gwell i bobl fyw, gweithio a chymdeithasu”, meddai. “Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn dylunio mannau sy’n gynaliadwy, cynhwysol ac yn fuddiol i gymunedau lleol”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790