Myfyrwraig darlunio yn gwirfoddoli yn Fiji
Perrine Roch, myfyrwraig BA Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, yw un o’r llu o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi elwa o’r cyfle i deithio i wledydd eraill fel rhan o’i hastudiaethau.
Teithiodd Perrine, o Ddinas Powys, i Fiji i wirfoddoli yn rhan o Raglen Ymdrochol Pentref Think Pacific Fiji, a ariannwyd drwy fenter Taith Llywodraeth Cymru.
Cynhelir y rhaglen mewn partneriaeth â Llywodraeth Fiji a chyrff anllywodraethol, ac mae’n canolbwyntio ar alluogi cysylltiad moesegol â’r gymuned, twf personol ei chyfranogwyr a datblygu eu sgiliau meddal byd-eang.
Yn ystod y cyfnewid diwylliannol 14 diwrnod, roedd Perrine yn byw gyda theulu traddodiadol o Fiji mewn pentref anghysbell gwledig lle profodd eu bywyd bob dydd gan gynnwys y coginio lleol wedi’i baratoi mewn poptai pridd tanddaearol, a chymerodd ran mewn seremonïau traddodiadol.
Wrth ganmol ei phrofiad, meddai Perrine: “Roedd y rhyngweithio â chymunedau lleol yn anhygoel! Ces i gymaint o groeso ac roeddwn i wrth fy modd ac yn emosiynol iawn wrth adael y pentref”.
“Roedd yr agwedd ddiwylliannol a chymdeithasol ar y cyfle hwn yn anhygoel o werthfawr i mi. Ces i amser anhygoel a dysgais i gymaint, a chwrdd â chymaint o bobl anhygoel ar hyd y ffordd! Y caredigrwydd oedd yn sefyll allan fwyaf, dwi’n meddwl, yn ogystal â’r bobl wnes i eu cyfarfod”
Yn ystod ei hymweliad dysgodd Perrine dechnegau gwehyddu a choginio traddodiadol, a gwella ei gwybodaeth am ddiwylliant Fiji yn ogystal â siarad am ei diwylliant ei hun trwy sgyrsiau â’r pentrefwyr a’r gwirfoddolwyr eraill.
Meddai: “Fe wnes i elwa o’r profiad hwn, yn bendant, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Mae gen i well dealltwriaeth o ba mor wahanol y gall pob un ohonom ni fyw, a hynny o ddewis hefyd!”
Mae ei phrofiadau hefyd wedi dylanwadu ar ei hymarfer celf yn enwedig o safbwynt ffeministaidd, gan wneud iddi werthfawrogi’r rhyddid a gaiff gan ei diwylliant ei hun.
Meddai: “Mae’n ffordd ‘draddodiadol’ iawn o fyw o ran rolau teuluol a rhywedd. Gwnaeth hyn fi’n llawer mwy diolchgar am y cyfleoedd sydd gen i fel menyw yn Ewrop. Mae fy ngwaith celf yn archwilio ffeministiaeth ac mae iddo agenda ffeministaidd, ac rwy’n credu bod y daith hon, yn anfwriadol, wedi tanio hynny ac wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfle ac i wneud rhagor o hyd. Rhoddodd ysgogiad i mi a’m gwneud i’n ddiolchgar am fy mywyd, wrth barhau’n oddefgar o’r ffordd y mae diwylliannau eraill yn dewis byw”.
Er nad oedd y profiad heb ei heriau. Eglura Perrine: “Cawsom ni lawer o law yn y pen draw, gan gynnwys llifogydd - doedd y plant ddim hyd yn oed yn gallu mynd i’r ysgol - a chafodd hynny effaith ar ein gweithgareddau.
Meddai: “Yn bendant nid profiad i bawb yw hwn ond rydw i mor falch fy mod i wedi gwthio fy hun allan o’m lle diogel a chymryd rhan yn hyn.
“Bydd hiraeth am byth arna i am fy nheulu yn Fiji”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790
Nodiadau i’r Golygydd
Taith yw rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol Cymru, sy’n darparu cyllid a chyfleoedd i fyfyrwyr a staff mewn addysg uwch astudio, hyfforddi a chydweithio dramor. Gyda chymorth buddsoddiad o £65 miliwn gan Lywodraeth Cymru, lansiwyd Taith yn 2022 i ddisodli cyfleoedd symudedd byd-eang yn dilyn ymadawiad y DU o Erasmus+.
Mae Taith yn ariannu cynlluniau cyfnewid ffisegol a rhithwir. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr a staff prifysgol o Gymru fynd dramor i ddysgu, addysgu neu ar leoliadau, ac mae’n cefnogi myfyrwyr ac addysgwyr rhyngwladol sy’n dod i mewn i Gymru. Mae’n cynnwys cymorth ariannol ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig, unigolion anabl, a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.