Skip page header and navigation

I Charlotte Tead, mae graddio heddiw o Brifysgol Cymru, mae Trinity Saint David (UWTSD) wedi cyflawni uchelgais gyfrinachol o ddod yn athrawes.

Charlotte Teed PGCE Secondary

Mae Charlotte, sy’n dod o Lambed, yn graddio o’r cwrs TAR Uwchradd mewn Dylunio a Thechnoleg gyda Statws Athro Cymwysedig y Seremoni Raddio Gaeaf Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  a gynhaliwyd yn Neuad Brangwyn, Abertawe.

Ar ôl gadael ysgol yn 16 oed i weithio yn y sectorau manwerthu, gofal ac adeiladu, roedd Charlotte hefyd yn magu teulu cyn iddi gael cyfle i hyfforddi fel Cynorthwyydd Addysgu mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd tra hefyd yn cwblhau NVQ Lefel 3. Arweiniodd ei phrofiad a’i chymhwyster hi at y BA Addysg Gynhwysol ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

Cafodd y cwrs ei argymell i Charlotte gan gydweithiwr oedd hefyd yn astudio’r cwrs. 

Dywedodd: “Clywais am y cwrs rhan-amser mewn Addysg Gynhwysol yn y Drindod Dewi Sant, sydd â’r nod o alluogi Cynorthwywyr Addysgu i astudio cymhwyster gradd. Roedd natur rhan-amser fy ngradd yn amhrisiadwy imi gael fy nghymhwyster tra’n dal i gael cyflog. Ar ôl 3 blynedd, roeddwn wedi ennill Gradd Sylfaen gyda theilyngdod ac yna blwyddyn ychwanegol i ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth1af gyda, i gyd tra oeddwn yn dal i weithio ac yn magu fy merch sydd bellach yn 14 oed”.

Mae hi’n llawn canmoliaeth am y gefnogaeth a gafodd wrth astudio, yn enwedig pan ddaeth yn fyfyrwraig amser llawn i gwblhau’r rhaglen TAR. Er nad oedd astudio heb ei heriau, teimlai ei bod wedi derbyn cefnogaeth ragorol gan y Brifysgol. Mae hi’n esbonio: 

“Roedd y darlithwyr mor gefnogol. Pan newidiais i’n fyfyriwr llawn amser yn lle rhan-amser, roedd y gefnogaeth gan y Gwasanaethau Myfyrwyr, tîm yr Hwb Myfyrwyr a’r darlithwyr yn wych.”

“Teimlais fy mod wedi’m llethu yn ystod y modiwl ymchwil a chysylltais â chymorth myfyrwyr a oedd eisoes wedi fy ychwanegu at eu rhestr. Cefais rywfaint o gwnsela amserol ac estyniad i’r aseiniad.”

Mae hi hefyd yn canmol y profiadau a gafodd, gan gynnwys teithiau ac ymweliadau astudio a’i galluogodd i ehangu ei safbwyntiau a dyfnhau ei gwybodaeth am ei phwnc. Mantais ychwanegol oedd y cyfle i wneud ffrindiau, y mae hi’n dweud y byddant yn ffrindiau iddi am oes.

Mae Charlotte yn dweud ei bod wedi ennill cymaint o’i thaith addysgol ac yn mwynhau ei rôl yn Ysgol Gyfun Penyrheol, ar ôl cyflawni ei huchelgais.

Mae hi’n dod i’r casgliad: “Mae fy ffordd o feddwl a’m golwg ar y byd wedi ehangu ac rwyf bellach hefyd yn gwneud y swydd yr wyf wedi breuddwydio amdani!”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon