Myfyrwraig o PCYDDS yn ennill Bwrsariaeth Gelf Barbara E Thomas gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Lisa Page, myfyrwraig Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi ennill Bwrsariaeth Gelf Barbara E Thomas, a ddyfernir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi myfyrwyr israddedig sy’n astudio celf a meysydd cysylltiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r fwrsariaeth, gwerth £500, wedi’i sefydlu er mwyn helpu myfyrwyr i brynu deunyddiau ac adnoddau creadigol hanfodol i gefnogi eu gwaith ymarferol a’u datblygiad artistig yn ystod eu cwrs.
I Lisa, sydd wedi datblygu diddordeb arbennig mewn hanes, diwylliant a chwedlau Cymru drwy ei gwaith ffotograffig, mae’r cyfle yn un gwerthfawr iawn. Meddai:
“Roedd hi’n gyffrous iawn i glywed fy mod i wedi ennill y fwrsariaeth. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl, felly roedd yn sypreis neis i’w dderbyn, ac mi o’n i’n edrych ymlaen at allu prynu deunyddiau tuag at fy nghwrs,”
Defnyddiodd Lisa’r arian tuag at brynu camera Fujifilm X-E3, gan roi mwy o hyblygrwydd iddi ddatblygu ei gwaith ffotograffig.
Dewisodd Lisa astudio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS ar ôl cael ei denu gan safon y gwaith a welodd yn arddangosfeydd diwedd blwyddyn y Brifysgol. Roedd maint cymharol fach y blynyddoedd a’r cyfle i ddatblygu perthynas agos â darlithwyr hefyd yn apelio ati. Ychwanegodd:
“Mae’r cwrs yn andros o ymarferol ac mae’r darlithwyr yn arbennig am ddangos eu hangerdd am gelf, ac annog ni i fod yn greadigol iawn.”
Dywedodd Lisa hefyd fod y gefnogaeth academaidd a’r cyfleusterau sydd ar gael hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad ei gwaith. Mae wedi cael mynediad at gamerâu, cyfleusterau datblygu ffilm a mannau i dynnu lluniau, yn ogystal â chyngor ac adborth rheolaidd gan ei thiwtoriaid.
“Mae’r tiwtoriaid wedi siarad â mi yn eu hamser eu hunain i drafod fy ngwaith ac awgrymu syniadau. Dwi’n derbyn adborth andros o ddefnyddiol yn aml ganddyn nhw. Maen nhw hefyd yn awgrymu pethau defnyddiol fel galwadau agored, neu arddangosfeydd a fyddai’n helpu fi hefo fy ngwaith.”
Dewisiodd Lisa astudio yn PCYDDS hefyd, gan fod astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iddi. Mae’r cwrs yn ei galluogi i ysgrifennu rhan o’i gwaith yn Gymraeg a defnyddio themâu sy’n ymwneud â diwylliant Cymru yn ei ffotograffiaeth.
Er nad yw Lisa yn siŵr eto beth fydd ei cham nesaf ar ôl graddio, mae hi’n gobeithio parhau i weithio yn y celfyddydau ac aros yng Nghymru.
“Hoffwn arbrofi llawer gyda fy nghelf yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac efallai gwneith hyn fy arwain tuag at gael gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau.”
Ychwanegodd Gwenllian Beynon, Is - Gyfarwyddydd Academaidd Celf a’r Cyfryngau, a Chydlynydd y Gymraeg:
“Dyma’r flwyddyn gyntaf i fwrsari Gelf Barbara E Thomas cael ei dyfarnu, ac felly rydym yn gyffrous iawn ei fod wedi dod at un o’n myfyrwyr ni yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae Lisa yn angerddol dros iaith a diwylliant Cymru felly yn haeddiannol iawn o ennill y wobr hon. Llongyfarchiadau enfawr iddi hi ac edrychwn ymlaen at weld ei gwaith yn datblygu dros weddill ei gradd.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476