Skip page header and navigation

Mae un o fyfyrwyr PCYDDS, Sarah Stanley, yn paratoi i gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ar ôl cael ei dewis ar gyfer carfan merched Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref ym Mecsico.

Headshot of Sarah Stanley wearing Wales football top

I Sarah, sydd ar fin dechrau ei thrydedd flwyddyn yn astudio Addysg Sylfaen ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae’r cyfle yn golygu llawer mwy na phêl-droed.

Mae’n dangos pa mor bell mae hi wedi dod.

“Pan ddysges i fy mod i wedi cael fy newis, ces i fy syfrdanu,” meddai Sarah. “Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi sylweddoli’n iawn ar y dechrau beth roeddwn i wedi’i gyflawni. Roeddwn i’n teimlo’n falch, yn emosiynol ac ychydig yn frawychus fy mod i’n mynd i gael y cyfle i gynrychioli Cymru mewn rhywbeth mor anhygoel â Chwpan y Byd Digartref.

“Pan fydda i’n edrych yn ôl ar ble rydw i wedi bod yn fy mywyd, mae cael gwybod fy mod i wedi cael fy newis i gynrychioli fy ngwlad yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi dychmygu y byddai’n digwydd i mi. Mae’n golygu cymaint yn fwy na chael fy newis ar gyfer tîm pêl-droed.”

Dechreuodd Sarah ymwneud â Phêl-droed Stryd Cymru trwy ei chariad at bêl-droed, ond darganfu’n gyflym fod bod yn rhan o’r tîm yn cynnig llawer mwy na’r cyfle i chwarae.

“Mae wedi rhoi cymaint yn fwy na phêl-droed i mi,” meddai. “Mae wedi rhoi ymdeimlad o berthyn, cyfeillgarwch, hyder a rhywbeth i weithio tuag ato.

“Mae’r bobl oedd yn rhan o hyn wedi creu amgylchedd lle gallwch chi fod yn chi’ch hun a lle nad eich gorffennol chi sy’n eich diffinio chi. Mae bod yn rhan o’r tîm wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n gallu gwneud mwy nag yr ydw i’n credu weithiau.”

Ni fu taith Sarah yn un syml o hyd. Mae hi wedi cael cyfnodau anodd yn ei bywyd ac amseroedd pan oedd hi’n ansicr ynglŷn â beth allai fod yn y dyfodol. Mae ailadeiladu ei hyder a chredu ynddi ei hun eto wedi cymryd amser, ymdrech a gwytnwch.

“Mae adegau pan rydw i wedi teimlo fy mod i’n dechrau o’r newydd o ddim,” meddai. “Byddai hi wedi bod yn hawdd i mi ganiatáu i’r profiadau hynny fy niffinio i’n hawdd, ond yn y diwedd, dyma fi’n dechrau sylweddoli nad oedd yn rhaid i’m gorffennol i benderfynu fy nyfodol i.

“Rydw i wedi gorfod gweithio’n galed i ailadeiladu fy hyder a chredu ynof fi fy hun unwaith eto. Bu anawsterau ar hyd y ffordd, ond rydw i wedi parhau i geisio symud ymlaen.

“Mae edrych ar ble rydw i arni ar hyn o bryd, yn astudio yn y brifysgol ac yn paratoi i gynrychioli Cymru mewn Cwpan Byd rhyngwladol, yn gwneud i mi sylweddoli pa mor bell rydw i wedi dod mewn gwirionedd.”

Mae pêl-droed wedi chwarae rhan bwysig ar y daith honno, gan roi rhywbeth cadarnhaol i Sarah ganolbwyntio arno a’i hamgylchynu hi â phobl a oedd yn credu yn ei photensial.

Mae Pêl-droed Stryd Cymru wedi bod yn rhan arbennig o bwysig o’i thaith, gan roi ymdeimlad o berthyn iddi a’r cyfle i ddarganfod beth gallai hi ei gyflawni.

Roedd penderfyniad Sarah i ddod i’r brifysgol yn gam pwysig arall.

Ar ôl gweithio’n Gynorthwyydd Cymorth Dysgu, roedd hi wedi datblygu angerdd am helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc. Roedd y profiad hwnnw’n hwb iddi ddilyn gyrfa mewn addysg.

“Roedd dod i’r brifysgol yn benderfyniad mawr i mi oherwydd doeddwn i ddim o reidrwydd yn fy ngweld fy hun yn rhywun a fyddai’n mynd i’r brifysgol,” meddai.

“Rwy bob amser wedi mwynhau helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc, ac rydw i wedi gweithio’n Gynorthwyydd Cymorth Dysgu. Gwnaeth y profiad hwnnw i mi sylweddoli bod addysg yn rhywbeth roeddwn i’n poeni amdano’n wirioneddol ac am adeiladu gyrfa ynddo.

“Roeddwn i am fy herio fy hun a phrofi i mi fy hun fy mod i’n gallu ei wneud. Roedd dechrau yn y brifysgol braidd yn frawychus, ond rydw i mor falch fy mod i wedi cymryd y cam hwnnw.”

Mae Sarah yn dweud bod y cymorth a’r ystyriaeth y mae hi wedi’u cael yn PCYDDS wedi chwarae rhan bwysig yn ei chynnydd.

“Mae PCYDDS wedi rhoi cyfle i mi gredu bod y brifysgol yn rhywbeth y galla i lwyddo ynddo,” meddai. “Mae’r cymorth a’r ystyriaeth rydw i wedi’u derbyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, yn enwedig pan roedd llawer yn digwydd y tu allan i’m hastudiaethau.

“Mae aelodau o’r staff sydd wedi fy annog i a’m hatgoffa i fy mod i’n gallu gwneud, hyd yn oed ar adegau pan rydw i wedi amau fy hun.

“Rwy’n credu bod y cymorth hwnnw’n bwysig iawn oherwydd weithiau mae angen rhywun ar bobl i gredu ynddyn nhw a rhoi’r hwb bach yna iddyn nhw ddal i fynd.”

Mae Sue Ainsworth, Uwch Ddarlithydd yn PCYDDS, wedi gweld Sarah yn tyfu mewn hyder yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol.

“Mae taith Sarah yn un hynod ysbrydoledig, ac mae wedi bod yn wych ei gweld hi’n tyfu mewn hyder ac yn cydnabod ei photensial ei hun yn ystod ei chyfnod yn PCYDDS.

“Mae Sarah wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad aruthrol. Mae hi wedi cofleidio’r cyfleoedd y mae’r brifysgol wedi’u rhoi iddi ac wedi gweithio’n galed i symud ymlaen yn academaidd ac yn bersonol.

“Mae cael ei dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref yn gamp arbennig ac yn dyst i’w hymrwymiad, ei chymeriad a’i chred ynddi hi ei hun. Mae pawb yn hynod falch o Sarah a byddwn ni’n dilyn ei thaith ym Mecsico gyda chyffro mawr.

“Mae Sarah yn enghraifft ardderchog o sut y gall addysg, ochr yn ochr â’r cymorth a’r anogaeth gywir, helpu pobl i weld beth maen nhw’n gallu ei gyflawni. Rwy’n gobeithio y bydd ei stori hi’n ysbrydoli eraill i gymryd y cam cyntaf hwnnw a chredu nad oes rhaid i’w hamgylchiadau nhw ddiffinio eu dyfodol.”

Ers dechrau yn PCYDDS, mae Sarah yn dweud ei bod hi wedi dod yn llawer mwy hyderus ynddi ei hun ac yn barotach i herio’r amheuon a fyddai wedi ei dal hi yn ôl unwaith.

“Pan ddechreuais i gyntaf, mae’n debyg na fyddwn i wedi dychmygu fy hun lle rydw i nawr,” meddai.

“Mae’r Brifysgol wedi fy ngwthio i y tu allan i’m lle diogel ac wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n gallu cyflawni pethau roeddwn i’n arfer meddwl eu bod nhw allan o’m cyrraedd i.

“Rwy’n dal i ddysgu ac rwy’n dal i gael eiliadau lle rwy’n fy amau fy hun, ond rwy’n barotach o lawer i herio’r meddyliau hynny nawr yn hytrach na gadael iddyn nhw fy atal i.”

Mae ei hastudiaethau a phêl-droed hefyd wedi ategu ei gilydd, a’r naill a’r llall yn ei dysgu hi am wydnwch, ymrwymiad a dyfalbarhad.

“Rwy hefyd yn astudio rhywbeth sy’n ymwneud â chefnogi a deall eraill, ac sy’n cysylltu’n agos â’r hyn yw Pêl-droed Stryd Cymru,” esboniodd Sarah.

“Mae pêl-droed wedi rhoi hyder i mi ac wedi fy helpu i reoli pwysau bywyd bob dydd, ac mae’r brifysgol wedi rhoi rhywbeth i mi weithio tuag ato ar gyfer fy nyfodol.”

Mae Sarah yn edrych ymlaen eisoes hefyd at barhau â’i haddysg yn PCYDDS. Mae hi’n gobeithio cofrestru ar y radd ategol BA Addysg Gynhwysol y flwyddyn nesaf, a fyddai’n caniatáu iddi adeiladu ar ei gradd Addysg Sylfaen a graddio gyda BA (Anrh).

Nawr mae Sarah yn edrych ymlaen at deithio i Fecsico a gwisgo crys Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at bopeth, ond yn enwedig gwisgo crys Cymru a chamu i’r cae gan wybod fy mod i’n cynrychioli fy ngwlad i,” meddai.

“Rydw i hefyd yn gyffrous am gwrdd â phobl o bob cwr o’r byd a chlywed eu straeon. Nid pêl-droed yw unig ffocws Cwpan y Byd Digartref. Mae’n ymwneud â phobl, eu teithiau a’r cyfleoedd y gall chwaraeon eu creu.

“Ac, wrth gwrs, rwy’n gyffrous iawn am fynd i Fecsico! Bydd yn brofiad y bydda i’n ei gofio am weddill fy oes.”

I Sarah, cael ei dewis i gynrychioli Cymru yw’r bennod ddiweddaraf mewn taith bersonol lawer mwy.

“Mae’n fy ngwneud i’n emosiynol, oherwydd mae yna adegau yn fy mywyd pan nad oeddwn erioed wedi meddwl y byddwn i yn y sefyllfa hon,” meddai.

“Rwy’n falch ohonof fi fy hun. Dydw i ddim yn dweud hynny bob amser, ond mae’n wir.

“Am amser hir, rwy’n credu fy mod i wedi canolbwyntio’n fwy ar y pethau oedd wedi mynd o chwith yn fy mywyd na’r pethau roeddwn i wedi’u cyflawni. Nawr rwy’n dysgu edrych yn ôl a chydnabod faint o gryfder mae wedi’i gymryd i gyrraedd y fan hon.

“Mae dechrau fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol wrth baratoi i gynrychioli Cymru mewn Cwpan Byd yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi’i ddychmygu pan oeddwn i’n mynd trwy rai o fy nghyfnodau anoddaf.”

Ac mae Sarah yn gobeithio, trwy rannu ei stori, y gall hi annog eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau anodd eu hunain.

“Byddwn i’n dweud wrthyn nhw am beidio â chredu mai eu sefyllfa bresennol nhw yw lle mae’n rhaid i’w stori nhw ddod i ben,” meddai.

“Roedd adegau pan nad oeddwn i’n gallu gweld ffordd ymlaen, ac yn sicr allwn ni ddim bod wedi dychmygu y byddwn i’n astudio yn y brifysgol ac yn cynrychioli Cymru un diwrnod.

“Does dim rhaid i chi newid popeth dros nos. Weithiau mae’n golygu cymryd un cam bach, wedyn un arall.

“Peidiwch â gadael i’ch gorffennol benderfynu beth rydych chi’n gallu ei gyflawni. Gall eich amgylchiadau newid, a gallwch chi newid hefyd.

“Yn bwysicach na dim, peidiwch â rhoi’r ffidl yn y to. Efallai y bydd adegau pan na allwch chi weld ble rydych chi’n mynd, ond dyw hynny ddim yn golygu nad oes rhywle gwell yn disgwyl amdanoch chi.”

Mae Sarah yn dweud ei bod hi’n hynod ddiolchgar i Bêl-droed Stryd Cymru am roi’r cyfle iddi gynrychioli ei gwlad ac i PCYDDS am gefnogi ei haddysg.

I fyfyrwraig a oedd unwaith yn cwestiynu a oedd prifysgol yn rhywbeth y gallai hi lwyddo ynddo, bellach mae Sarah yn symud i drydedd flwyddyn ei gradd wrth baratoi i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd.

Ac, efallai’n bwysicach na dim, mae hi’n edrych ymlaen yn hyderus.

“Rwy’n gyffrous am beth sy’n dod nesaf,” meddai. “Ac am y tro cyntaf ers tro, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy nyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon