Skip page header and navigation

Daeth myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ynghyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ddathlu cwblhau Academi Ysgol y Gyfraith Abertawe, rhaglen flwyddyn a gyflwynir mewn partneriaeth â’r Brifysgol a gynlluniwyd i roi profiad uniongyrchol i ddysgwyr am fywyd yn y brifysgol a gyrfaoedd yn y gwasanaeth cyhoeddus. 

a group shot of the students in their cap and gown

Roedd sesiwn olaf yr Academi yn adeilad IQ ar gampws Glannau SA1 Y Drindod Dewi Sant yn cynnwys cyflwyniadau myfyrwyr yn myfyrio ar eu dysgu, ac yna seremoni raddio lle cafodd myfyrwyr wisgo gwisg academaidd i dderbyn eu tystysgrifau i gydnabod eu cyflawniadau.

Mae’r Academi a gyflwynir mewn cydweithrediad â staff academaidd PCYDS a Thîm Recriwtio ac Allgymorth Myfyrwyr, yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar yrfaoedd ar draws y gyfraith, plismona, tân ac achub, a chyfiawnder troseddol.  Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol drwy weithgareddau trochol, megis cyfweliadau ymchwiliol, ysgrifennu adroddiadau, gwaith tîm a gwneud penderfyniadau, gan fagu hyder a deall y llwybrau sydd ar gael iddynt mewn addysg uwch. 

Dathlu Cyflawniad 

Roedd y cyflwyniadau terfynol yn garreg filltir bwysig i fyfyrwyr, gan gynnig cyfle iddynt ddangos sut roedd eu hyder a’u sgiliau wedi datblygu drwy gydol y rhaglen.  Roedd gweithgareddau a gwmpaswyd yn ystod yr Academi yn cynnwys cyfweliadau ymchwiliol ysgrifennu adroddiadau, gwaith tîm a gwneud penderfyniadau, pob un wedi’u cynllunio i adlewyrchu senarios gwasanaeth cyhoeddus go iawn. 

Roedd cyflwyno i gyfoedion, academyddion a hyfforddwyr wedi annog myfyrwyr i adfyfyrio ar eu cynnydd ac ystyried opsiynau academaidd a gyrfaoedd yn y dyfodol.  

Meddai Rebecca Mugford, un o academyddion Coleg Gŵyr Abertawe:                                                                           “Mae’r Academi yn caniatáu i’n dysgwyr yn yr ail flwyddyn brofi sut beth yw bywyd prifysgol yn PCYDDS.  Maen nhw’n cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys trosedd seiber, gwaith fforensig a dysgu yn yr ystafell drochi sy’n eu helpu i ddeall yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig. 

“Mae ein dysgwyr yn edrych ymlaen at y sesiynau pob wythnos ac yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr sy’n hanfodol ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae’r staff yn PCYDDS yn hynod groesawgar ac yn mynd y tu hwnt i’r galw i ddarparu profiad rhagorol. 

“Roedd llawer o ddysgwyr yr Academi a aeth ymlaen i astudio yn PCYDDS wedi teimlo’n hyderus wrth ymgeisio, ar ôl profi’r amgylchedd a chwrdd â staff ac academyddion yn barod.  Mae nifer bellach yn symud ymlaen yn eu rhaglenni gradd ac yn cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli gyda sefydliadau lleol.”

Mae’r Academi wedi cael effaith barhaol ar fyfyrwyr Ella a Grace: 

“Mae’r Academi wir wedi agor ein llygaid i sut beth yw astudio yn y brifysgol a’r cyfleoedd sydd ar gael.  Rydym wedi dysgu sut gymaint, nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth, ond hefyd drwy ymweliadau i lefydd fel y gwasanaeth tân.  Mae wedi bod yn brofiad gwych.”

Dysgu Trochol ar Waith

Amlygodd Tîm Trochol PCYDDS werth profiadau dysgu cydweithredol, yn y byd go iawn.   Meddai aelod o’r tîm: 

“Mae gweithio’n agos gyda’r tîm Recriwtio Myfyrwyr i gefnogi ysgolion lleol a grwpiau cymunedol wedi bod yn hynod werth chweil.  Rydym wir wedi mwynhau ymgysylltu â myfyrwyr ar gamau gwahanol eu haddysg a’u helpu i archwilio’r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y gyfraith, plismona, tân ac achub, a chyfiawnder troseddol. 

“Gan dynnu ar adborth myfyrwyr ac arfer proffesiynol, mae’r tîm wedi cefnogi Ysgol y Gyfraith Abertawe i ddatblygu gweithgareddau dysgu arloesol.  Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai trochol megis efelychiadau realiti rhithwyr ar gyfer ymchwiliadau personau coll (MISPER) a senarios amddiffyn seiber (TDD), sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau technegol a rhyngbersonol. 

“Mae clywed yn uniongyrchol gan fyfyrwyr am sut mae’r profiadau hyn wedi llywio eu dysgu yn hynod galonogol.  Mae llawer wedi siarad am gael eu herio i feddwl yn feirniadol, gwneud penderfyniadau o dan bwysau a gweithio ar y cyd, sy’n adlewyrchu effaith ymagwedd ymarferol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.”

Meddai Victoria Slade o Dîm Recriwtio ac Allgymorth Myfyrwyr:                                                                               “Mae’n wych gweld sut mae’r Academi yn dylanwadu ar ddewisiadau myfyrwyr yn y dyfodol. Mae llawer o gyfranogwyr y llynedd bellach yn astudio ar ein rhaglenni gradd gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys BA (Anrh) Arweinyddiaeth Tân ac Achub.  Mae wedi bod y hynod gwerth chweil i weld twf yn eu hyder, eu proffesiynoldeb a’u huchelgais.”

Ychwanegodd Aidan George, Rheolwr Recriwtio ac Allgymorth Myfyrwyr yn PCYDDS:                                     “Mae codi dyheadau a helpu pobl ifanc i weld yr hyn sy’n bosibl wrth wraidd ein gwaith allgymorth.  Mae rhaglenni fel yr Academi yn amlwg yn helpu myfyrwyr i adeiladu hyder, cyfeiriad ac uchelgais ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Laura Knight, Darlithydd Rhaglen yn Ysgol y Gyfraith Abertawe: 

“Rydym wedi nodi diwedd ein taith Academi gyda dysgwyr Coleg Gŵyr; lle gwnaeth y myfyrwyr gyflwyniad adfyfyriol ar eu taith drwy’r Academi. Mae clywed bod y prosiect wedi profi’n brofiad mor gadarnhaol a gwerthfawr i’r dysgwyr wedi fy ngadael yn hynod ostyngedig. Un o uchafbwyntiau penodol yr Academi eleni oedd y cyfle i ddod â myfyrwyr presennol PCYDDS a gymerodd ran o brosiect yr Academi yn flaenorol i mewn i arddangos eu llwyddiant. Darparodd hyn dystiolaeth i fynd i’r afael â’r rhwystrau diriaethol ac effeithiolrwydd uwch i gymryd y rhwystrau amlwg i fynd i’r afael ag effeithiolrwydd addysg uwch. y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i bob dysgwr ar gyfer y dyfodol ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld rhai ohonoch ym mis Medi.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon