Myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS yn Dychwelyd o Alldaith Sgiliau’r Gaeaf i Ucheldiroedd yr Alban
Mae myfyrwyr o raglen Addysg Awyr Agored Prifysgol Cymru Y Drindod Dewis Sant wedi dychwelyd yn ddiweddar o’u Halldaith Sgiliau’r Gaeaf ym Mharc Cenedlaethol y Cairngorms, parc cenedlaethol mwyaf y DU, sy’n cwmpasu dros 4,500 o gilomedrau sgwâr yn Ucheldiroedd yr Alban.
Mae’r alldaith yn un o dair taith flynyddol a gynigir fel rhan o’r cwrs, gan roi dewis o alldeithiau gweithgareddau awyr agored ac anturus i fyfyrwyr. Mae’r cyfleoedd allgyrsiol hyn yn rhoi profiadau amhrisiadwy i fyfyrwyr a’r cyfle i ddatblygu sgiliau technegol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau awyr agored.
Yn ystod yr alldaith, cymerodd y myfyrwyr ran mewn rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau mynyddig y gaeaf, gan gynnwys sgiliau cerdded yn y gaeaf, technegau haearn dringo a bwyell iâ, dadansoddi’r tywydd a phecynnau eira, copaon mawr a lluosog Munro, a phrofiadau dros nos mewn cysgodfa a thyllau eira.
Gall mynydda yn yr Alban ddarparu rhai o’r diwrnodau gorau ar fynydd yn unrhyw le yn y byd. Profodd y myfyrwyr dirwedd arw, heriol, teimlo’r aer mynydd glân ar eu hwynebau, a golygfeydd crisial clir ar draws tirweddau ysblennydd a orchuddiwyd ag eira o dan awyr las. Yn ogystal, daethant ar draws yr ochr fwy heriol o amodau gaeaf yr Alban, gan gynnwys gwyntoedd sy’n ddigon cryf i’w bwrw oddi ar eu traed, eira, mân a deimlai ei fod yn eu tagu, ac amodau gwael gydag chawodydd eira a chymylau trwchus, tarthog yn tarfu ar eu gwelededd.
Ochr yn ochr â’r elfennau ymarferol, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau dysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy gydol yr alldaith. Roedd hyn ynn cynnwys datblygu eu gallu i ddarllen a dadansoddi rhagolygon eira ac afalansiau, mabwysiadau asesiadau risg mewn amgylcheddau deinameg, a rheoli penderfyniadau mewn amodau heriol a chyfnewidiol.
Teimlodd y myfyrwyr a aeth ar yr alldaith fod y profiad yn fuddiol i’w datblygiad.
Meddai’r myfyriwr Sam Chamberlain:
“Mae’r alldaith i’r Alban wedi effeithio’n gadarnhaol ar fy hyder mewn amgylcheddau gaeafol ac mae wedi dangos i mi sut y gallaf barhau i ddatblygu fy sgiliau mewn amgylcheddau allanol.”
Ychwanegodd Will Jones sydd hefyd yn fyfyriwr Addysg Antur Agored:
“Roedd y profiad yn wirioneddol ysbrydoledig, o dirweddau’r Cairngorms i’r wybodaeth a gefais am fynydda yn y gaeaf. Roedd y profiad o gael fy ymgolli yn yr amgylchedd hwnnw wedi rhoi synnwyr cliriach i mi o sut mae’r theori a ddysgwyd gennym yn yr ystafell ddosbarth yn cysylltu ag arfer yn y byd go iawn, ac mae’n atgyfnerthu pam ydw i mor ymroddedig i’r maes hwn.
“Mae’r daith wedi dechrau llunio’r ffordd rwyf yn mynd ati i astudio. Rwyf wedi dychwelyd gyda synnwyr cryfach o bwrpas, a chymhelliant dyfnach i wthio fy hun yn academaidd. Mae wedi fy helpu hefyd i feddwl yn gliriach am y math o addysgwr rwyf am fod a sut byddaf yn mynd ati i gael cyflogaeth yn y dyfodol. Mae’r alldaith wedi dangos sut y gellir defnyddio profiad yn y byd go iawn i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl a sut y gallaf gael effaith ystyrlon ar bawb.”
Meddai’r myfyriwr Steven Jones:
“Rwy’n llawn ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch o fod wedi rhannu’r profiad gyda fy nheulu antur newydd.
Mae Addysg Antur Agored yn ymwneud cymaint â’r paratoi a’r manylion sy’n gysylltiedig â byw mewn amgylcheddau critigol. Rwyf wedi paratoi fy hun a chyfarparu fy hun yn well nag yr oeddwn wedi’i wneud o’r blaen, a dyma’r diben mewn gwirionedd i mi fod ar y cwrs Addysg Antur Agored yn y lle cyntaf.
Ychwanegodd y myfyriwr Rhein Mikaelson:
“Rhoddodd yr alldaith y cyfle i mi adeiladu ar fy sgiliau presennol wrth ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o amgylcheddau’r mynyddoedd yn y gaeaf; o symud ar eira ac iâ, i wneud penderfyniadau, ymwybyddiaeth o’r tywydd ac ystyriaethau ynghylch afalansiau. Mae gallu ymarfer a mireinio’r sgiliau hyn mewn amodau gaeaf go iawn, ochr yn ochr â grŵp mor gefnogol wedi bod yn hynod werthfawr i fy natblygiad mewn addysg awyr agored.”
Meddai Tom Moore, Uwch Dechnegydd a Thiwtor ar gyfer y cwrs BA Addysgu Awyr Agored:
“Mae staff Addysg Antur Agored wrth ein boddau yn cynnal ein detholiad blynyddol o alldeithiau. Maen nhw’n ffordd berffaith o ychwanegu gwerth i brofiad prifysgol y myfyrwyr drwy eu galluogi i gaffael ystod eang o sgiliau galwedigaethol a thechnegol, sydd yn eu tro yn cefnogi ac yn cynorthwyo datblygiad pellach gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o’u rhaglen astudio. “
I ddysgu rhagor am gyrsiau Addysg Awyr Agored yn PCYDDS, cysylltwch â Tom Moore t.moore@uwtsd.ac.uk
Lluniau: Lucy Rose Davies, myfyrwraig sydd wedi graddio o’r gwrs Gwneud Ffilmiau Antur yn PCYDDS
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476