Skip page header and navigation

Ymwelodd myfyrwyr Lefel 6 BA Addysg Gorfforol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ag Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn Nhre-Ioan, lle buont yn archwilio prosiect gardd arobryn yr ysgol ac ymgysylltu’n uniongyrchol â disgyblion a staff sydd wedi cyd-greu’r gofod dysgu awyr agored ffyniannus hwn.

an image of Q E High Garden

Cynhaliwyd yr ymweliad gan Annalise Williams, Mentor Addysgu a Dysgu ac Athrawes Fwyd, a gyflwynodd y myfyrwyr i esblygiad y prosiect ac i’r dulliau cwricwlwm arloesol sydd wedi’u hymgorffori ynddo. Gan weithio gyda disgyblion Blwyddyn 8, mae Annalise a’i chydweithwyr wedi datblygu cymysgedd cyfoethog o ddulliau dysgu seiliedig ar brosiectau a seiliedig ar broblemau sy’n cysylltu cynaliadwyedd, systemau bwyd, cyfrifoldeb amgylcheddol, a sawl cysylltiad trawsgwricwlaidd.

Un o brif bwrpasau’r ymweliad oedd gwahodd myfyrwyr PCYDDS i ddysgu mewn cyd-destun; i arsylwi sut mae dysgu drwy brofiadau’n cael ei weithredu mewn ysgolion ar hyn o bryd, ac i adfyfyrio ar eu hunaniaethau proffesiynol sy’n dod i’r amlwg. I lawer, roedd yr ardd yn enghraifft ysbrydoledig o sut y gall prosiectau addysg awyr agored arloesol feithrin nid yn unig darganfod gwybodaeth a sgiliau ymarferol, ond hefyd gwaith tîm, gwytnwch, cymhelliant a llesiant.

Gwelodd y myfyrwyr drostyn nhw eu hunain sut roedd y disgyblion wedi cyd-ddylunio gwelyau’r ardd, ymchwilio i opsiynau cnydau, datblygu bwydlenni, a chreu atebion i heriau fel milltiroedd bwyd, ynni cynaliadwy, a pharatoi bwyd brys. Dywedodd un o fyfyrwyr PCYDDS:

“Mae’n ddiddorol sut y gwnaethon nhw ddefnyddio pwnc bywyd go iawn (rhybuddion tywydd coch) i strwythuro gwersi. Rhywbeth gwahanol nad wyf wedi’i weld o’r blaen”. 

Yn ystod yr ymweliad, rhannodd disgyblion yr ysgol uwchradd adfyfyrdodau gonest a threiddgar ar eu profiad dysgu, gan son am sut mae gweithio yn yr ardd wedi cryfhau eu perthnasoedd, cefnogi eu datblygiad cymdeithasol-emosiynol, a chysylltu gweithgarwch corfforol â thasgau ystyrlon yn y byd go iawn fel cloddio, adeiladu a datrys problemau. Fe wnaethant hefyd rannu eu diddordebau, eu heriau a’u breuddwydion mewn perthynas â’u cyd-destunau dysgu, gan amlygu bod yn well ganddynt gyfuniad o dasgau a wneir yn yr ystafell ddosbarth a chyfleoedd awyr agored. Dywedodd un o fyfyrwyr yr ysgol uwchradd: 

“Mae’r prosiect wedi caniatáu inni ddeall sut mae llysiau’n cael eu tyfu a rhoi profiad dysgu dilys i ni nad ydym wedi’i gael o’r blaen.”

Roedd y sgyrsiau hyn yn werthfawr iawn i fyfyrwyr PCYDDS, a fu’n cymryd rhan mewn deialog am arfer cynhwysol, cymhelliant, rôl addysgwyr yn y Cwricwlwm i Gymru, a sut y gall addysg gorfforol ddatblygu i gefnogi sgiliau bywyd ehangach. 

Cyn gadael, aeth y myfyrwyr addysg gorfforol ar daith o amgylch gardd yr ysgol, Gardd Hiraeth, gyda Gareth Evans, Arweinydd yr Ardd o dîm Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ac adfyfyrio ar sut mae prosiectau fel hyn yn herio ffiniau ystafelloedd dosbarth confensiynol. Trafodwyd cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngbroffesiynol a’r potensial ar gyfer dysgu awyr agored a thrwy brofiadau i gyfoethogi Addysg Gorfforol, meithrin ymreolaeth, a chynyddu ymgysylltiad. Dywedodd Ryan Roberts, un o’r myfyrwyr BA Addysg Gorfforol:

“Roedd yr ymweliad yn werthfawr iawn am iddynt arddangos eu prosiect gardd a’r holl bethau cadarnhaol y mae’r ardd yn eu rhoi i’r ysgol, y disgyblion a’r ffordd maen nhw wedi defnyddio’r ardd ar draws gwahanol feysydd o’r cwricwlwm.”

Mae ymweliadau safle fel hyn yn elfen hanfodol o ddysgu proffesiynol yn PCYDDS. Trwy ymgysylltu ag ysgolion lleol a phrosiectau cymunedol, mae myfyrwyr yn cael dealltwriaeth ddilys o’r amgylcheddau y byddant yn gweithio ynddynt fel addysgwyr. Maent yn gweld sut y gall cydweithredu ar draws pynciau, adrannau a sefydliadau ddarparu profiadau dysgu pwerus a chyfannol i blant a phobl ifanc.  Dywedodd Mache Treviño, darlithydd Addysg Awyr Agored ac Antur PCYDDS:

 “Mae ein rôl fel addysgwyr yn esblygu’n gyson, ac roedd y prosiect hwn yn enghraifft ysbrydoledig o sut y gall gwahanol feysydd gwybodaeth weithio gyda’i gilydd i sbarduno dysgu ystyrlon ac effeithiol.” 

Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i ddysgu o’r prosiect llwyddiannus hwn ac yn gobeithio parhau â’n gwaith ar y cyd, gan gefnogi amcanion a rennir ynghylch cynaliadwyedd, llesiant ac arloesi addysgol. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon