Skip page header and navigation

Bydd rhaglen BA Perfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod â’r ddrama glodwiw, Merch Merthyr, gan y dramodydd, Lisa Parry i’r llwyfan. 

Promotional Poster for Merthyr Stigmatist

Cynhelir perfformiadau yn Theatr Stiwdio, Tŷ Haywood, Caerdydd ar 26 a 27 Mawrth, gyda’r sioe’n dechrau am 12.30pm a 7.00pm.

Mae Merch Merthyr, sydd wedi’i leoli mewn ystafell ddosbarth uwchradd Gatholig ym Merthyr Tudful, yn dilyn Carys. Mae Carys yn un ar bymtheg oed ac yn honni ei bod wedi derbyn y stigmata:  Clwyfau Crist o’r Groes.  A yw ei chlwyfau’n arwydd gan Dduw? Mae Carys yn meddwl felly – mae hi eisiau dweud wrth y byd ac yn mynnu cael ei chlywed.  Nid yw Siân ei hathrawes mor siŵr, ac yn meddwl y bydd gadw Carys yn dawel yn ei chadw’n ddiogel. Ond a yw hi’n gallu gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd i’w disgybl?   Mae’r ddrama yn archwilio’r tensiwn rhwng cred ac awdurdod, gan godi cwestiynau brys am ffydd, y gwir a lleisiau pwy sy’n cael eu clywed yn ein cymdeithas gyfoes. 

Roedd Merch Merthyr a ysgrifennwyd gan Lisa Parry, ar restr fer Gwobr Ysgrifennu Dramâu Gwleidyddol gyntaf Theatre Uncut  a pherfformiwyd yn gyntaf yn 2021 fel cyd-gynhyrchiad wedi’i lwyfannu’n llawn rhwng Theatr y Sherman Caerdydd a Theatre Uncut. Ers hynny, mae wedi’i chydnabod fel drama Gymreig gyfoes arwyddocaol sy’n ymgysylltu â dadleuon gwleidyddol, cymdeithasol a moesegol. 

Wrth sôn am ei drama gyntaf, meddai Lisa Parry:

“O’r drafft gyntaf, roedd yn teimlo i mi fod y ddrama hon yn sgrech i’w chlywed, gan gynnig safbwynt gwahanol i’r sgwrs wleidyddol brif ffrwd, llais menywod ifanc, sy’n teimlo’n fwyfwy angenrheidiol a pherthnasol.” 

Llwyfannir y cynhyrchiad gan fyfyrwyr o gwrs BA Perfformio PCYDDS ac mae’r ddrama yn cynnig rolau heriol a themâu cymhleth sy’n atseinio’n gryf gyda pherfformwyr ifanc.  

Fel rhan o’r broses, mae’r myfyrwyr wedi cael y cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol ag awdur y ddrama ac archwilio cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol y gwaith. 

Meddai’r myfyrwyr Martha ac Elin:  

“Rydyn ni wedi mwynhau’r cyfnod o weithio ar Merch Merthyr, er ein bod wedi wynebu rhai heriau, mae’r tîm wedi gwneud yn siŵr bod y profiad yn un gwerthfawr.  Yn ogystal, mae’r ymarferion wedi’u gwneud yn hwyl ac yn ddifyr.”

Meddai Angharad Lee, Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs BA Perfformio:  

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn llwyfannu’r sioe.  Rwy’n methu aros i weld ffrwyth gwaith y myfyrwyr.”

Cynhelir perfformiadau yn Theatr y Stiwdio, Tŷ Haywood, Caerdydd ar 26 a 27 Mawrth, gyda sioeau am 12.30pm a 7.00pm. Mae tocynnau ar gael drwy docynnau digwyddiadau PCYDDS ar TicketSource gyda thocynnau rhad ac am ddim ar gael i ysgolion.  Anelir perfformiadau matinée at ysgolion a cholegau  a fydd yn cynnwys sesiynau cwestiwn ac ateb ar ôl y sioe gyda’r cast a’r tîm creadigol.  

Lisa Parry with students

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon