Skip page header and navigation

Cafodd myfyrwyr BA ac MA Darlunio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyfle amhrisiadwy i fynychu cyflwyniad gan y dylunydd a’r awdur Karl James Mountford. Astudiodd Karl yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) rhwng 2008 a 2013, gan gwblhau ei BA a’i MA mewn Darlunio, a gwasanaethodd fel Artist Preswyl yn ystod ei flwyddyn olaf.

A packed lecture room of students listening to an artist sitting at the front of the room.

Mae Karl yn gweithio ar draws y cyfryngau traddodiadol a digidol ac mae wedi creu gwaith celf ar gyfer teitlau fel The Uncommoners gan Jennifer Bell (Penguin Random House, 2017) a The Peculiars gan Kieran Larwood (Chicken House, 2018). Mae’n arbenigo mewn dylunio cloriau llyfrau a darlunio penodau ac mae hefyd wedi cynhyrchu llyfrau lluniau, gan gynnwys Maurice the Unbeastly gan Amy Dixon (Sterling Children’s Books, 2017) a The Curious Case of the Missing Mammoth gan Ellie Hattie (Little Tiger Press, 2017).

Yn 2022, cyhoeddodd Karl ei lyfr cyntaf fel awdur a darlunydd, sef Circles in the Sky, i ganmoliaeth feirniadol.

Tynnodd yr ymweliad sylw at ymrwymiad PCYDDS i ddarparu profiadau sy’n berthnasol i’r diwydiant i fyfyrwyr. Dywedodd y darlithydd Ian Simmons: “Roedd yn wych cwrdd â Karl eto. Mae bob amser wedi bod yn awyddus i drosglwyddo ei brofiad yn y diwydiant i’n myfyrwyr presennol. Bydd hefyd yn dod yn ôl yn yr haf i roi adolygiadau portffolio a chyngor i’n myfyrwyr trydedd flwyddyn. 

“Rydym bob amser yn cadw mewn cysylltiad â’n cyn-fyfyrwyr ac yn dilyn eu gyrfaoedd, ac yn aml yn cynnig help a chyngor lle bo angen. Cafodd y myfyrwyr gyflwyniad gwych a sesiwn holi ac ateb gydag un o ddarlunwyr llyfrau gorau’r byd, ac ychwanegodd y ffaith bod Karl yn un o raddedigion Coleg Celf Abertawe at y cyffro a’r disgwyliad.”

Ychwanegodd Karl: “Roedd yn wych dod yn ôl i Goleg Celf Abertawe. Roeddwn i wrth fy modd â’m hamser ar y cwrs, ac roedd yn wych cwrdd â’r myfyrwyr presennol a dal i fyny gyda’r staff.”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae cysylltiad parhaus Karl â’r brifysgol yn amhrisiadwy, ac mae ei haelioni wrth rannu ei fewnwelediad proffesiynol yn enghraifft ysbrydoledig i’n myfyrwyr. Mae cyflawniadau Karl yn dangos yr effaith y gall ein graddedigion ei chael o fewn y diwydiannau creadigol, ac atgyfnerthodd ei ymweliad bwysigrwydd meithrin y perthnasoedd parhaus hynny. Rydym yn hynod falch o’i lwyddiant ac yn ddiolchgar am yr amser y mae’n parhau i fuddsoddi yn ein cymuned.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon