Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr MSc Seicoleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn mynd i fod yn gweithio ochr yn ochr â Springfield Advisory ar brosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar y gymuned sy’n archwilio anghenion iechyd meddwl a llesiant rhieni yn Nyffryn Afan.

A man hosting a lecture in an immersive room with graphics on the walls.

Gyda chymorth cyllid o Gronfa Ficro Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, bydd y prosiect yn ymchwilio i’r angen am fwy o gymorth llesiant a chymorth iechyd meddwl personol i rieni yn yr ardal. Nod yr ymchwil yw meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu a helpu i nodi’r mathau o gefnogaeth a allai fod o’r budd mwyaf i gymunedau lleol.

Bydd y fenter yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ar raglen MSc Seicoleg Gymhwysol PCYDDS gymhwyso eu dysgu academaidd i brosiect byw gyda sefydliad allanol.Gan weithio ochr yn ochr â Springfield Advisory, bydd myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth am seicoleg a dulliau ymchwil i archwilio mater sydd â pherthnasedd uniongyrchol i lesiant y gymuned.

Yn ogystal â chyfrannu at ymchwil ystyrlon, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o weithio gyda phartner allanol, ymateb i friff prosiect, ac archwilio sut y gall tystiolaeth seicolegol lywio penderfyniadau a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae’r prosiect cydweithredol yn adlewyrchu ymrwymiad PCYDDS i ddarparu cyfleoedd dysgu yn y byd go iawn i fyfyrwyr sy’n cysylltu astudiaeth academaidd â phrofiad ymarferol. Drwy ymgysylltu â sefydliadau allanol, gall myfyrwyr feithrin sgiliau proffesiynol, datblygu hyder, a chael mewnwelediadau i ddulliau cymhwyso seicoleg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Meddai Dr Ceri Phelps, Arweinydd Rhaglen a Seicolegydd Iechyd Siartredig yn PCYDDS: “Mae cyfleoedd fel hyn yn caniatáu i fyfyrwyr fynd â’r hyn y maent wedi’i ddysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac ymgysylltu â heriau yn y byd go iawn. 

“Mae gweithio ar brosiect cymunedol byw yn eu galluogi i gymhwyso theori seicolegol mewn ffordd ystyrlon wrth ddatblygu’r cymwyseddau proffesiynol a moesegol sy’n ganolog i arfer seicoleg gymhwysol. 

“Mae’n brofiad amhrisiadwy sy’n helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol tra’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”

Bydd y prosiect yn archwilio’r ystod o ffactorau a all ddylanwadu ar iechyd meddwl a llesiant rhieni, gan gydnabod bod amgylchiadau a phrofiadau pob teulu yn wahanol. Bydd y canfyddiadau’n helpu i gynyddu dealltwriaeth o sut y gallai dulliau mwy personol o ddarparu cymorth ddiwallu anghenion rhieni a theuluoedd yn Nyffryn Afan yn well.

I Springfield Advisory, mae’r bartneriaeth yn dod â phersbectif newydd i fenter gymunedol bwysig tra’n dod â myfyrwyr i gysylltiad ag ymchwil sy’n cael effaith ymarferol y tu hwnt i’r amgylchedd academaidd.

Meddai Martyn Wagstaff o Springfield Advisory: “Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda myfyrwyr MSc Seicoleg Gymhwysol PCYDDS ar y prosiect pwysig hwn. Bydd eu cyfranogiad nid yn unig yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr iddynt i brofiadau cymunedau lleol ond hefyd yn dod â meddwl ffres a dimensiwn newydd cyffrous i’r gwaith yr ydym yn ei gyflawni yn Springfield Advisory. 

“Edrychwn ymlaen at weld y cyfraniad y gallant ei wneud i ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion llesiant rhieni yn Nyffryn Afan.”

Yn ogystal â gwella eu sgiliau ymchwil, bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd i ddatblygu arbenigedd ym maes cyfathrebu, gwaith tîm, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd eu gwaith yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth gynyddol yn ymwneud â llesiant rhieni ac yn helpu i lywio syniadau ar gyfer y dyfodol ynghylch cefnogaeth i deuluoedd o fewn y gymuned.

Mae’r prosiect yn tynnu sylw at werth cydweithio rhwng prifysgolion a sefydliadau allanol, gan greu manteision i fyfyrwyr, partneriaid, a chymunedau lleol fel ei gilydd tra’n helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes seicoleg.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon