Skip page header and navigation

Roedd yn bleser gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu criw o fyfyrwyr ac athrawes o Batagonia i gampws Caerfyrddin ar y 4ydd o Fehefin. Trefnwyd yr ymweliad gan Llinos Howells ac Ariela Gibbon, athrawes yn Ysgol Gerdd y Gaiman a chyn-bennaeth Ysgol Gymraeg y Gaiman.

Image of students from Patagonia visiting the Carmarthen Campus

Daeth breuddwyd 4 disgybl o Goleg Camwy, y Wladfa yn fyw fis diwethaf wrth iddynt deithio i Gymru am y tro cyntaf. Cyrhaeddodd y criw ar yr 21ain o Fai ac maent wedi bod yn brysur yn ymweld â’r Eisteddfod, Glan-llyn, Aberystwyth a nifer o leoliadau arall, cyn cyrraedd Caerfyrddin.

Mae Coleg Camwy yn ysgol 11-17 oed ac wedi’i lleoli yn y Gaiman, talaith Chubut, Patagonia. Dechreuodd y myfyrwyr ar eu taith Gymraeg yn Ysgol Gymraeg y Gaiman yn 4 oed, ac mae Coleg Camwy yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i ddysgu’r iaith Gymraeg, datblygu eu hyder i’w defnyddio a hyrwyddo diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru.

Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia’n ddwfn ac yn hanesyddol gan ddechrau nôl yn 1865 pan hwyliodd long y Mimosa i Dde America ac i dalaith Chubut yn benodol. Erbyn heddiw, mae’r cysylltiadau yr un mor gryf ag erioed. Mae nifer o staff o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol wedi manteisio ar y cyfle i weithio ym Mhatagonia yn y gorffennol fel athrawon neu fel Swyddogion Datblygu’r Gymraeg.

Students from Patagonia with the Welsh Language Services Centre

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth wrth ysgolion y Wladfa tra’n creu eu hadnodd newydd ‘Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia.’  Mae’r unedau’n cynnwys clipiau o ddysgwyr Y Wladfa yn siarad Sbaeneg ynghyd â chyfarwyddiadau o ran sut i ddysgu un o ddawnsfeydd traddodiadol y wlad. 

Meddai Eluned Grandis, Darlithydd a Chydlynydd Prosiectau o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol:

“Nid dyma’r tro cyntaf I’r Brifysgol groesawu criw o Batagonia i’r campws a chyda phlant ac ymarferwyr Ysgol y Cwm, yr Andes wedi cyfrannu tuag at brosiect Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia, mae’n hyfryd gweld y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth.”

Yn ystod eu hymweliad â champws Caerfyrddin,  cafodd y criw o’r Wladfa gyfle i ymweld â’r ystafell drochi. Dangoswyd y math o weithgareddau mae’r Ganolfan yn eu gwneud yn ystod ymweliadau ysgolion a darlithoedd gyda myfyrwyr, gan rannu fideos o’r adnodd ‘Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia’. 

Patagonia students in the immersive room

Yn ystod y prynhawn, perfformiodd y criw o’r Wladfa o flaen staff a myfyrwyr y brifysgol yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Perfformiwyd dwy ddawns, La Chacarera a’r Samba, a dangoswyd eu sgiliau clocsio newydd gyda dawns i gyd-fynd gyda’r gân ‘Patagonia’ a enillodd ‘Cân i Gymru’ yn 2023. 

Dywedodd Ariela Gibbon:

“Dw i mor hapus bod pobl ifanc o Batagonia sydd wedi dysgu Cymraeg ers yn blant bach ac sydd wedi cadw’r traddodiadau Cymreig yno yn Ne America wedi gallu dod yma a chael profiadau arbennig yng Nghymru.  Dan ni’n hapus dros ben ac mae’r bobl ifanc isho dod nôl yn fuan!  Diolch am y croeso cynnes yng Nghaerfyrddin a diolch i bawb sy wedi’n helpu ni ar y daith yma.”

Hoffai’r Ganolfan a’r Brifysgol ddiolch o galon i’r criw am roi o’u hamser i ddod i’r campws. Roedd yn hyfryd cael cyfle i sgwrsio, trafod adnoddau a datblygiadau’r cwricwlwm a’r iaith Gymraeg. Pob dymuniad da i’r criw wrth iddynt fynd i brifysgolion yn fuan ac  edrychwn ymlaen at groesawu grŵp arall o’r Wladfa’r flwyddyn nesaf. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon