Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Sant wedi cydweithio gyda chylchgrawn Y Selar i ddylunio a chreu tlysau arbennig ar gyfer Gwobrau’r Selar  a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn ddiweddar.

image of prizes on table

Yn flynyddol, mae myfyrwyr o’r brifysgol yn mynd ati i greu darn o gelf unigryw sy’n rhoi’r platfform iddynt ddangos ei gallu creadigol.  Eleni, Jake England, myfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs BA Dylunio Cynnyrch, a Ffion Williams, myfyrwraig trydedd flwyddyn ar y cwrs BA Dylunio Cynnyrch a Dodrefn sydd wedi creu’r gwobrau.

Er bod Ffion yn gwerthfawrogi ehangder ei chwrs, mae’n teimlo’n angerddol iawn am agweddau ymarferol dylunio. Iddi hi, gwneud modelau ac adeiladu gwrthrychau yw’r elfennau mwyaf gwerth chweil o’i hastudiaethau, gan ei galluogi i drawsnewid syniadau yn ganlyniadau pendant. Dywedodd: 

“Mae gweld cysyniad yn datblygu o frasluniau cychwynnol i ddarn wedi’i wireddu’n llawn yn foddhaol ac yn ysgogol.”

Gan ddefnyddio’r weithred gyfarwydd o yfed diod drwy welltyn fel ysbrydoliaeth, dyluniodd Ffion dlws sy’n cynrychioli’r ffordd rydym yn profi a defnyddio cynnwys cerddorol. Meddai: 

“Mae’r cwpan yn symboleiddio llestr o werth, gyda’r nodiadau cerddoriaeth y tu mewn yn cynrychioli’r hylif. Mae’r clustffonau’n gweithredu fel gwelltyn, gan adlewyrchu’r offer a ddefnyddiwn i gael mynediad at yr hyn sydd yn y cwpan a’i amsugno. Trwy’r trosiad hwn, mae’r dyluniad yn tynnu sylw at sut mae cerddoriaeth, fel bwyd neu ddiod, yn ein cynnal mewn ffyrdd ystyrlon. Yn y pen draw, mae’r tlws yn dathlu’r maeth diwylliannol ac emosiynol y mae cerddoriaeth yn ei ddarparu.”

Ed Holden - Life time achievement award at the awards ceremony - holding both trophies

Llun: Ed Holden (Mr Phormula) yn ennill Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar

Pan fo Jake yn dylunio, mae’n hoffi cyfuno technegau braslunio a modelu â llaw traddodiadol â dulliau dylunio a chynhyrchu digidol er mwyn dod â’i syniadau’n fyw. Dywedodd:

“Rwy’n gasglwr brwd o gerddoriaeth ym mhob ffurf y gallaf gael gafael arno, boed ar gasét, finyl neu CD. Pan gefais y dasg o ddylunio gwobr ar gyfer Gwobrau’r Selar 2025, neidiais ar y cyfle i cyfleu fy nghariad at gerddoriaeth drwy greu rhywbeth y gallai rhywun fod yn falch o’i berchnogi.”

Penderfynodd Jake greu model graddfa fychan o sbîcar maint llawn- gwrthrych naturiol iddo gan mai dyma’r ffordd mae’n gwrando ar gerddoriaeth. Ychwaengodd:

“Anelais at wneud i’r sbîcar edrych mor realistig a ffyddlon i’w dyluniad maint llawn ag oedd yn bosib, tra hefyd cynnig ymdeimlad unigryw i bob gwobr drwy amrywio’u lliwiau, fel bod pob enillydd yn teimlo bod ganddo rywbeth wirioneddol unigryw i’w gludo adref.”

Mae Gwenllian Beynon yn Gyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Celf a’r Cyfryngau ac yn gydlynydd y ddarpariaeth Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, ac fe nododd:

“ Rwyf yn hoff iawn o annog myfyrwyr i greu gwobrau ar gyfer Gwobrau’r Selar bob blwyddyn. Bwriad creu’r gwobrau, yn ogystal â dathlu enillwyr  ym myd cerddoriaeth yw i hefyd dathlu gwaith celf y myfyrwyr. Pan es i i’r noson wobrwyo, roedd yn wych i weld yr enillwyr mor hapus gyda’u gwobrau.”

Mae Gwobrau’r Selar yn seremoni wobrwyo a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n cael ei threfnu gan y cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg, Y Selar. Owain Schiavone yw trefnydd y digwyddiad. Dywedodd:

“Mae’n bleser unwaith eto i gyd-weithio gyda’r Brifysgol gan gynnig cyfle i ddau artist ifanc greu ein gwobrau. Roedd y gwaith celf yn unigryw iawn eleni, ac yn wahanol iawn i unrhywbeth rydyn ni wedi’i gael yn y gorffennol. Mae’r artistiaid bob amser wrth eu bodd i ennill, ond maen nhw hefyd wastad yn werthfawrogol iawn o’r tlysau unigryw maen nhw eu derbyn, a dwi’n sicr bydd rhain yn cael lle teilwng yng nghartrefi’r enillwyr.”

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Coleg Celf Abertawe, ewch i Coleg Celf Abertawe | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Am fwy o wybodaeth am Wobrau’r Selar, ewch i Gwobrau’r Selar – Y Selar


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon