Myfyrwyr PCYDDS yn Adeiladu Set o Safon Broffesiynol ar gyfer Cynhyrchiad Theatr Teithiol
Mae myfyrwyr Dylunio a Chynhyrchu Setiau o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cwblhau prosiect creu a phaentio set broffesiynol yn ddiweddar ar gyfer y cynhyrchiad teithiol sydd ar ddod, Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau, cyd- gynhyrchiad gan Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch.
Gan weithio i safonau a dyddiadau cau ar lefel diwydiant, dangosodd y myfyrwyr sgiliau rhagorol ym maes datrys problemau, cydweithredu ac ymarfer proffesiynol trwy gydol y prosiect. Darparodd y fenter brofiad amhrisiadwy yn y byd go iawn, gan adlewyrchu’n agos ddisgwyliadau a chyflymder amgylcheddau theatr proffesiynol, a hefyd gweithio o gynlluniau’r Cynllunydd Set, Cai Dyfan.
Croesewir o hyd gyfleoedd i weithio ar y lefel hon wrth astudio, gan eu bod nhw’n dod â manteision sylweddol i ddatblygiad technegol a hyder myfyrwyr. Yn yr achos hwn, roedd y prosiect yn arbennig o effeithiol, gan ddod â myfyrwyr blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd flwyddyn at ei gilydd i weithio gyda’i gilydd ar safon ddisgwyliedig nid yn unig yn y sector proffesiynol, ond hefyd ar lefel theatr genedlaethol.
Meddai’r fyfyrwraig Alice Pearson:
“Roedd hi’n gyfle gwych i ddefnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u datblygu’n fyfyriwr i brosiect proffesiynol, wrth i mi weithio hefyd gyda deunyddiau a defnyddio technegau ac offer nad oeddwn i wedi cael cyfle i’w harchwilio yn fy astudiaethau eto.”
Ar gyfer y myfyriwr Ashling Ryan:
“Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio ar ddarn lliwgar mor hwyliog. Mae cael y cyfle i weithio yn y ddwy rôl wedi bod yn wych gan fy mod i’n gallu gweld y set yn mynd o fflatiau di-baent yn y gweithdy i set orffenedig ar y llwyfan. Trwy weithio fel artist golygfeydd rydw i wedi ennill sgiliau newydd ac wedi adeiladu ar y rhai sydd gen i eisoes. Mae’r cyfle hwn hefyd wedi fy helpu i adeiladu fy mhortffolio.”
Meddai David Atkinson, Darlithydd Dylunio a Chynhyrchu Set yn PCYDDS:
“Mae rhoi cyfle i’n myfyrwyr weithio’n broffesiynol wrth astudio yn hanfodol i’w twf fel dylunwyr a gwneuthurwyr. Roedd y prosiect hwn yn galluogi myfyrwyr o bob blwyddyn i gydweithio, datrys problemau a chyflawni gwaith i ddyddiadau cau tynn, a’r cyfan wrth gynnal safon broffesiynol uchel. Mae Theatr Cymru yn cyflawni gwaith o ansawdd eithriadol yn gyson, ac mae ymddiriedaeth i gynnal y safonau hynny yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i’w dangos i’r diwydiant ehangach.”
Meddai Gareth Wyn Roberts, Pennaeth Cynhyrchu Theatr Cymru:
“Pleser pur oedd cydweithio â’r brifysgol ar adeiladu set ar gyfer Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau.
“Bu’n ysbrydoliaeth gweld y myfyrwyr yn rhoi’r sgiliau maen nhw wedi’u hennill ar y cwrs ar waith fel hyn. Cafodd manylion eu drilio gan y gweithdy nad oeddem ni fel tîm cynhyrchu wedi’u hystyried o bosib.
“Fe gymeron nhw nodiadau gofalus a mynd y tu hwnt i’r galw. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi cael hwyl ag ef. Roedd hi’n wir fel gweithio gyda gweithdy proffesiynol. Mae’r adran yn ased y dylai’r brifysgol fod yn falch ohono.”
Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch:
“Mae cal y myfyrwyr yn rhan o greu’r set yn gyffrous iawn. Rydym yn Arad Goch yn falch iawn o’r cydweithrediad a gweld y cyfan yn dod yn fyw. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn cyfarwyddo’r criw ar y set a dod ar gyfan yn fyw dros y misoedd nesa! “
Mae’r cydweithrediad yn atgyfnerthu ymrwymiad PCYDDS i ymgysylltu â’r diwydiant a dysgu ymarferol, gan sicrhau bod graddedigion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol yn y theatr ac mewn perfformiadau byw, wrth gyfrannu gwaith ystyrlon o ansawdd uchel i’r sector diwylliannol.
Ychwanegodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin:
“Yn Yr Egin a PCYDDS, rydyn ni’n credu ei bod hi’n hanfodol darparu lleoliadau ystyrlon yn y byd go iawn i’n myfyrwyr sy’n rhoi profiad ymarferol iddyn nhw yn y diwydiant. Trwy gyfleoedd i gyfrannu i brosiectau proffesiynol, maen nhw’n datblygu sgiliau gwerthfawr, yn meithrin cysylltiadau parhaol â chyflogwyr a chydweithwyr y dyfodol, ac yn graddio wedi’u paratoi’n well ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y theatr ac mewn perfformiadau byw. Mae Theatr Cymru yn denant pwysig yn Yr Egin, ac rydyn ni’n falch dros ben o gydweithio â nhw ar y cynhyrchiad hwn. Rydyn ni’n falch o roi ein myfyrwyr wrth galon y broses greadigol, lle maen nhw’n ennill profiad amhrisiadwy wrth wneud cyfraniad sylweddol i’r prosiect.”
Bydd Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau yn agor yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ar 6 Mehefin, cyn teithio ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth am y daith, cliciwch yma
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476