Myfyrwyr PCYDDS yn Adeiladu Sgiliau Treftadaeth ac Asedau Bioamrywiaeth yn Ystod Wythnos Ymarferol yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr
Mae myfyrwyr o raglenni Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd (PAA) wedi cymryd rhan mewn “Wythnos Sgiliau Treftadaeth” yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr, gan ennill profiad ymarferol mewn dulliau adeiladu traddodiadol a monitro ecolegol yn ogystal â chyfrannu at welliannau go iawn ar y safle.
Roedd y staff yn meddwl bod yr wythnos yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr yn gyfle i drochi myfyrwyr mewn prosiect byw, a oedd o fudd i’r gymuned . Y canlyniad oedd amgylchedd dysgu cydweithredol iawn lle’r oedd y myfyrwyr yn gallu dewis unrhyw dasg a oedd o ddiddordeb iddyn nhw, gan ffurfio grwpiau disgyblaeth cymysg a weithiodd yn ddi-dor gyda’i gilydd.
Erbyn diwedd yr wythnos, roedd y myfyrwyr wedi cyflawni’r canlynol:
- Adeiladu cuddfan wylio adar newydd gyda ffrâm bren, ar wahân i’r cladin terfynol a gafodd ei dylunio gyda chasetiau ar yr ochrau ar gyfer gwestai chwilod. Bydd y rhain yn cael eu llenwi gan blant ysgol lleol fel rhan o sesiynau ecoleg a llesiant y Ganolfan.
- Creu sawl metr o waliau carreg sych newydd, gan ddisodli strwythur cynnal plastig o gwmpas gwely blodau uchel sy’n gwella cymeriad treftadaeth y safle.
- Creu gosodiad plethwaith a dwb, gyda myfyrwyr yn cwblhau bron wal gyfan yn yr arddangosfa awyr agored.
- Datblygu giliau maes ecolegol, gyda dysgwyr yn adnabod mamaliaid bach ar y safle yn annibynnol drwy ddefnyddio technegau monitro.
Mae adborth gan y myfyrwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Roedd llawer wedi tynnu sylw at werth profiadau yn y byd go iawn sydd o fudd uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol. Yn ogystal, roedden nhw wedi mwynhau’r cyfle i “faeddu dwylo” yn llythrennol, drwy dasgau megis lefelu a diogelu strwythurau pren neu lunio wal garreg sych gadarn, sy’n hardd i’r llygaid.
Meddai’r Uwch Ddarlithydd Alisdair Cunningham: “Taflodd y myfyrwyr eu hunain i bob tasg ac maen nhw wedi cynhyrchu gwaith y dylen nhw fod yn wirioneddol falch ohono. Roedd yr wythnos hon yn ymwneud â rhoi sgiliau ymarferol iddyn nhw sydd wedi’u gwreiddio mewn cynaliadwyedd a threftadaeth, a Chanolfan Dreftadaeth Gŵyr oedd yr amgylchedd perffaith ar gyfer y dysgu ymarferol hwnnw.”
Meddai Roy Church, Ymddiriedolwr yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr: “mae wedi bod yn wych croesawu myfyrwyr PCYDDS i’r Ganolfan yr wythnos hon. Mae eu brwdfrydedd, eu gwaith tîm a’u parodrwydd i weithio wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’r safle. Bydd y strwythurau newydd a’r gwelliannau maen nhw wedi’u creu yn cael eu defnyddio gan grwpiau ysgol, ymwelwyr a’r gymuned leol am flynyddoedd i ddod. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu gwaith caled ac yn gobeithio adeiladu ar y bartneriaeth hon yn y dyfodol.”
Bydd y cydweithrediad rhwng PCYDDS a Chanolfan Dreftadaeth Gŵyr yn parhau, gyda chynlluniau i ddatblygu mwy o gyfleoedd i’r myfyrwyr ymgysylltu â chadwraeth dreftadaeth, monitro amgylcheddol, a phrosiectau adeiladu sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071