Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cryfhau eu sgiliau, eu hyder a’u cyflogadwyedd trwy Raglen Datblygiad Proffesiynol sydd wedi’i chynllunio er mwyn ymateb i anghenion y diwydiant antur awyr agored. 

Students coasteering and swimming in the sea - landscape

Cynigiodd y Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Addysg Antur Awyr Agored ddewis blynyddol o gyrsiau datblygiad proffesiynol pum diwrnod i fyfyrwyr, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol a gweithio tuag at wobrau ac asesiadau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB) ochr yn ochr â’u hastudiaethau academaidd. 

Un o’r cyrsiau a gyflwynwyd fel rhan o’r rhaglen oedd wythnos hyfforddi arforgampau pum diwrnod, gan gynnwys dau ddiwrnod o hyfforddiant Siarter Arforgampau Cenedlaethol (NCC). 

Mae arforgampau’n weithgaredd awyr agored sy’n dod yn fwyfwy poblogrwydd. Mae’n digwydd ar hyd arfordiroedd ar draws y DU, ac yn gynyddol, ar draws y byd. Gan gyfuno archwilio arfordiroedd gyda heriau fel nofio, sgrialu, dringo a neidio, mae’n darparu cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau gwneud penderfyniadau technegol ac arwain mewn amgylchedd naturiol deinamig. 

Roedd y myfyrwyr yn cwrdd bob bore yng Nghynefin yn ystod yr wythnos i ddadansoddi rhagolygon a dewis lleoliadau addas ar y cyd ar gyfer y diwrnod. Archwiliodd y grŵp ystod o leoliadau ar draws De a Gorllewin Cymru, Rhosili, Ystangbwll, Santes Non, Abereiddi ac Abercastell. 

Rhoddodd y profiad y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau arforgampau ymarferol wrth weithio ochr yn ochr â myfyrwyr o flynyddoedd gwahanol y cwrs. 

Student jumping into the sea whilst coasteering

Meddai’r myfyriwr BA (Anrh) Addysgu Antur Awyr Agored, Tom Lake:

 “Rhoddodd yr wythnos hyfforddi NCC gyfle i mi ddod i adnabod aelodau o flynyddoedd eraill ar fy nghwrs a’m cyd-breswylwyr. Bydd yr hyfforddiant hwn yn gwella fy nghyflogadwyedd yn sylweddol, gan ganiatáu i mi brofi fy nghymhwysedd i gyflogwyr yn y dyfodol.”

Ar gyfer cyd-fyfyriwr Lucas Seers, darparodd yr hyfforddiant gyfle i ddatblygu ei hyder a’i gymhwysedd fel arweinydd arforgampau posibl. 

 “Roedd y cwrs arforgampau wythnos yn fuddiol iawn i fy mhrofiad myfyriwr. Trwy gwblhau’r hyfforddiant hwn, rwyf wedi dysgu sut i arwain sesiwn arforgampau a rhoi’r profiad cychwynnol sydd ei angen i allu mynd â grŵp allan yn ddiogel ac yn broffesiynol. 

 “Cyn y cwrs hwn, roeddwn i’n hyderus i wneud arforgampau fy hun neu gael fy arwain gan arweinydd arall o ganlyniad i ddarlithoedd yn y  brifysgol, ond mae’r cwrs wedi rhoi mwy o hyder a chymhwysedd i mi arwain sesiwn fy hun. 

 “Yn bendant, mae’r wythnos ddiwethaf wedi gwella fy nghyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol oherwydd ei fod yn gwrs cyffredinol cydnabyddedig a thrwy ei roi ar fy CV, mae’n dweud wrth gyflogwyr bod gen i rywfaint o gymhwysedd yn y dŵr.” 

Yn ogystal, tynnodd sylw’r fyfyrwraig Ellen Jenkins at werth ennill profiad ymarferol ychwanegol. 

“Mae wedi bod o fudd i fy mhrofiad myfyriwr trwy roi profiad ychwanegol gyda phersbectif gwahanol. Mae wedi fy helpu i wella fy nghyflogadwyedd yn y dyfodol gan fod gennyf yr hyfforddiant i allu gwneud fy asesiad arforgampau i ddod yn arweinydd arforgampau, neu hyd yn oed arweinydd cynorthwyol gyda’r hyfforddiant rwyf bellach wedi’i gael.”

Datblygodd y rhaglen ei hun yn dilyn ymgynghori â chyflogwyr yn y diwydiant i nodi’r gwobrau NGB a’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol maent yn gosod gwerth iddynt wrth recriwtio staff. 

Meddai Tom Moore, Uwch Dechnegydd a Thiwtor ar gyfer y cwrs BA (Anrh) Addysg Antur Awyr Agored: 

 “Rydym yn gyffrous iawn i allu cynnig ein myfyrwyr sy’n dychwelyd y cyfle i gymryd rhan yn y Rhaglen Datblygiad Proffesiynol hon. 

 “Nod y rhaglen hon yw gwella profiad y myfyrwyr o fywyd yn PCYDDS trwy gynnig profiadau iddynt sy’n cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u meysydd astudio, ochr yn ochr â gwella eu cyflogadwyedd dros y gwyliau haf ac ar gyfer eu bywydau proffesiynol ar ôl graddio. 

”Trwy gyfweld â chyflogwyr yn y diwydiannau lleol, rydym wedi gallu creu a theilwra’r rhaglen hon i’w gofynion, gan greu llwybrau uniongyrchol i gyflogaeth i’n myfyrwyr. 

 “Rydym wedi cael cyfradd wych o gyfranogiad, gyda dros 60% o’r garfan Addysg Awyr Agored yn manteisio ar gymryd rhan yn y rhaglen hon. Mae myfyrwyr eisoes wedi derbyn cynigion i gael cyfweliadau am swyddi ar gyfer yr haf nesaf o ganlyniad i hynny.”

Students coasteering standing on the edge ready to jump into the sea

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon