Myfyrwyr PCYDDS yn dathlu yng Ngwobrau Cenedlaethau’r Dyfodol Lletygarwch Cymru
Roedd myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ymhlith y rhai a gydnabuwyd mewn digwyddiad gwobrwyo mawreddog yn dathlu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau yng Nghymru.
Sefydliad Lletygarwch (IoH) Cymru sy’n trefnu Gwobrau Cenedlaethau’r Dyfodol, ac fe’u cynhaliwyd a’r digwyddiad rhwydweithio yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd, gan ddod â myfyrwyr, prentisiaid, academyddion a gweithwyr proffesiynol blaenllaw o’r diwydiant o bob cwr o Gymru ynghyd i ddathlu talent sy’n dod i’r amlwg yn y sector.
Denodd y digwyddiad fwy na 110 o westeion o’r diwydiannau lletygarwch, twristiaeth, addysg a digwyddiadau, gan dynnu sylw at gryfder a bywiogrwydd economi ymwelwyr a sector lletygarwch Cymru.
Gweithiodd PCYDDS mewn partneriaeth â’r Casgliad Celtaidd i ddarparu’r digwyddiad. Cefnogwyd y rhaglen wobrwyo gan bartneriaid addysgol gan gynnwys Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gwent. Gyda’i gilydd, dathlodd a chefnogodd y sefydliadau fyfyrwyr oedd yn derbyn cydnabyddiaeth am eu campau ar draws y sectorau lletygarwch, twristiaeth, digwyddiadau a’r economi ymwelwyr.
Cydnabod Talent PCYDDS
Derbyniodd nifer o fyfyrwyr rhagorol PCYDDS Wobrau Cenedlaethau’r Dyfodol Sefydliad Lletygarwch Cymru i gydnabod eu cyflawniadau, eu proffesiynoldeb a’u cyfraniadau i’w priod feysydd.
Gwobr Lletygarwch
Derbyniodd Arwen Garland gydnabyddiaeth am flwyddyn eithriadol o gyflawniadau. Enillodd Arwen wobr Gweinydd Cenedlaethol yn 2025 a Gwobr Fyd-eang Above and Beyond ym Mhencampwriaethau Gweinyddion Ifanc Cogyddion Ifanc Llundain yn 2026. Arweiniodd y cyflawniadau hyn at gyfleoedd lletygarwch o fri, gan gynnwys gweithio yn y Blwch Brenhinol yn Wimbledon a gwasanaethu’n Rheolwr Swper yn Nawns Palas Blenheim. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Arwen yn gweithio’n Rheolwr Dyletswydd yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe ac yn weinyddes bwyta cain ym Mwyty’r Beach House sydd â seren Michelin.
Gwobr Gastronomeg Ryngwladol
Cydnabuwyd Emily Keane am ei hymrwymiad a’i chyflawniadau ym maes gastronomeg ryngwladol.
Gwobr Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol
Cydnabuwyd Angelika Jasnos am ei harweinyddiaeth ragorol a’i phrofiad rhyngwladol. Yn Arweinydd Ifanc y Gymanwlad, gwahoddwyd Angelika i Gastell Windsor ar gyfer derbyniad gyda’i Fawrhydi’r Brenin. Mae hi wedi gweithio ar gynadleddau yn y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa a chwblhau interniaeth ryngwladol yn Shanghai, gan gefnogi digwyddiadau rhyngwladol pwysig. Yn ddiweddar, sicrhaodd rôl yn Gydlynydd Cynhadledd a Gweithiwr Proffesiynol Profiad Mynychwyr gyda chwmni rheoli cynadleddau rhyngwladol, gan weithio o fewn ei dîm digwyddiadau Ewropeaidd.
Gwobr y Tîm Digwyddiadau
Derbyniodd Tîm Digwyddiadau Myfyrwyr PCYDDS Wobr y Tîm Digwyddiadau am gynnal y Gynhadledd Future You fwyaf hyd yma yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe. Croesawodd y tîm fwy na 670 o gynrychiolwyr a denodd 55 o stondinau masnach diwydiant, gan greu un o ddigwyddiadau diwydiant mwyaf arwyddocaol y Brifysgol i’w harwain gan fyfyrwyr.
Roedd y tîm llwyddiannus yn cynnwys:
- Simon Canby, enillydd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Canolfan Ragoriaeth y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT).
- Carys Davies, a helpodd i gyflwyno gŵyl fwyd gyntaf y Brifysgol, gan ddenu mwy na 250 o fynychwyr, ac sydd ar hyn o bryd yn gweithio mewn digwyddiadau ar Gae Ras Ffos Las.
- Nia Moores, a ddechreuodd rôl newydd yn Gydlynydd Digwyddiadau yng Ngwesty’r Angel Caerdydd yn syth ar ôl y seremoni wobrwyo ac a oedd wedi cwblhau’n flaenorol leoliadau yn Disney World a Chyrchfan Universal Orlando yn Fflorida.
- Wiktoria Kukiarska, enillydd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Sefydliad Teithio a Thwristiaeth Bella Rangel Callen 2026.
- Elijah Thomas, a gwblhaodd ddiploma yn yr Ysgol Gweini Bar Ryngwladol ym Mallorca ac sydd bellach yn rheoli bar coctel yng Nghernyw.
- Charlie McDonald, sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â lleoliad rheoli mewn hyfforddiant gyda Marriott International yng Nghyrchfan Swan a Dolphin Disney yn Fflorida, yn dilyn lleoliad blaenorol yn Walt Disney World.
Myfyrwyr sy’n cefnogi diwydiant
Yn ogystal â derbyn gwobrau, chwaraeodd myfyrwyr PCYDDS rôl bwysig wrth gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r digwyddiad. Cynorthwyodd myfyrwyr gydag ystod o weithgareddau, o sefydlu ystafelloedd a steilio lleoliadau hyd at gefnogi’r cyflwyniadau gwobrau. Roedd y profiadau hyn yn darparu cyfleoedd dysgu ymarferol gwerthfawr, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu sgiliau diwydiant, eu proffesiynoldeb a’u galluoedd rheoli digwyddiadau mewn amgylchedd diwydiant byw.
Creodd y digwyddiad hefyd gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr, gan alluogi myfyrwyr i gysylltu ag uwch weithwyr proffesiynol lletygarwch, rheolwyr cyffredinol, academyddion a chyflogwyr o bob cwr o Gymru. Cryfhaodd y rhyngweithio hwn gysylltiadau rhwng addysg a diwydiant ymhellach wrth gefnogi datblygiad gyrfa yn y dyfodol.
Meddai’r Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd PCYDDS: “Roedd yn bleser gweld cymaint o’n myfyrwyr yn cael eu cydnabod am eu hymroddiad, eu talent a’u proffesiynoldeb yng Ngwobrau Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae eu cyflawniadau yn adlewyrchu nid yn unig eu hymrwymiad a’u huchelgais unigol, ond hefyd cryfder y partneriaethau rydyn ni wedi’u datblygu â diwydiant ledled Cymru a thu hwnt.
“Mae lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau yn ddiwydiannau sy’n canolbwyntio ar bobl, ac mae ein myfyrwyr yn parhau i ddangos y creadigrwydd, yr arweinyddiaeth a’r gwytnwch sydd eu hangen i ffynnu yn y sectorau hyn. Rydyn ni’n hynod falch o bopeth maen nhw wedi’i gyflawni ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith y cân nhw drwy gydol eu gyrfaoedd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071