Myfyrwyr PCYDDS yn dod â The Sound of Music yn fyw gyda dyluniadau set ysblennydd
Mae myfyrwyr a staff y cwrs BA Set, Dylunio a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymuno ag Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch (CDYO) i’w cynorthwyo ar eu cynhyrchiad diweddaraf, The Sound of Music.
Bydd CDYO yn perfformio The Sound of Music yn Theatr enwog y Lyric, Caerfyrddin rhwng 18 a 21 Chwefror. Cysylltodd y cwmni â thîm Dylunio a Chynhyrchu Set y Brifysgol i greu elfennau llwyfan dychmygus, gan gynnwys y bont garreg eiconig, gasebo gardd, a choed golygfaol, gan helpu i gludo cynulleidfaoedd i leoliad y sioe gerdd yn yr Alpau.
Mae’r bartneriaeth barhaus hon rhwng PCYDDS a CDYO wedi dod yn gonglfaen i brofiad dysgu myfyrwyr. Mae cydweithrediadau blaenorol ar gynyrchiadau megis Shrek the Musical, Our House, a Charlie and the Chocolate Factory, ynghyd â The Sound of Music eleni, yn dangos maint, uchelgais a phroffesiynoldeb y gwaith y mae myfyrwyr yn ei gyfrannu.
Mae’r cydweithrediad yn cyd-fynd â modwl Prosiect Cynhyrchu Byw’r myfyrwyr, lle maen nhw’n yn cael y dasg o ymateb i friff creadigol yn y byd go iawn a chyflwyno gwaith ar gyfer amgylchedd perfformio byw.
Meddai Dave Atkinson, Darlithydd BA Dylunio Setiau a Chynhyrchu PCYDDS:
“Mae’r cydweithrediad hwn yn cynnig cyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr ddylunio a chreu ar gyfer cleient go iawn. Mae gweithio’n uniongyrchol gyda thîm creadigol Opera Ieuenctid Caerfyrddin yn rhoi profiad ymarferol iddyn nhw gyda disgwyliadau proffesiynol, dyddiadau cau, a datrys problemau artistig. Mae’n gyflwyniad dilys i ymarfer theatrig, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau ym maes adeiladu setiau, celf olygfaol, propiau, a chyfathrebu dylunio mewn amgylchedd cynhyrchu byw.
“Mae’r berthynas rhwng y cwrs ac Opera Ieuenctid Caerfyrddin yn wirioneddol symbiotig. Er bod myfyrwyr yn ennill profiad hanfodol yn y diwydiant a deunydd portffolio trawiadol, mae’r cwmni’n elwa o syniadau ffres, egni creadigol, a gwaith cynhyrchu o ansawdd uchel. Gyda’i gilydd, mae’r ddau sefydliad yn parhau i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddylunwyr a gwneuthurwyr theatr.”
Mae’r prosiect wedi rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i fyfyrwyr, gan eu helpu nhw i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r hyder sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.
Mae’r Brifysgol hefyd yn falch iawn bod dau o raddedigion y cwrs hefyd yn gweithio ar y cynhyrchiad yn broffesiynol. Mae Ashley Phillips yn dechnegydd mewnol i Theatrau Sir Gaerfyrddin, a Taylor Dyderski yw’r Dirprwy Reolwr Llwyfan.
Meddai Mike Rogers, Cadeirydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin:
“Fel Cadeirydd yr Opera Ieuenctid, rwy’n falch iawn mai hon yw’r drydedd flwyddyn y byddwn yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae myfyrwyr yn ail flwyddyn y cwrs gradd BA Dylunio Set a Chynhyrchu wedi cael briff gan Dan, ein Cyfarwyddwr Artistig, i ddylunio ac adeiladu elfennau o’r golygfeydd i wella’r profiad ar ac oddi ar y llwyfan.
Mae’r bartneriaeth o fudd i’r naill ochr a’r llall, a’r Opera Ieuenctid yn elwa o’r dull arloesol, brwdfrydedd a chreadigrwydd y myfyrwyr, a hwythau, yn eu tro, yn cael y cyfle i ddangos a goresgyn heriau amgylchedd gwaith theatr go iawn.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau, ewch i: Dylunio a Chynhyrchu Set (Amser Llawn) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Am docynnau i’r cynhyrchiad, ewch i: The Sound of Music - Theatrau Sir Gâr
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476