Myfyrwyr PCYDDS yn Ennill Gwobrau Pwysig o Fyd Diwydiant yn Arddangosfa’r New Designers yn Llundain
Mae myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ennill gwobrau o fri a chanmoliaeth gan y diwydiant ym mhrif arddangosfa’r DU ar gyfer egin dalent dylunio, y New Designers.
Mae’r arddangosfa flynyddol yn Llundain yn denu brandiau a chyflogwyr blaenllaw o bob rhan o’r diwydiannau creadigol, gyda myfyrwyr PCYDDS yn sicrhau anrhydeddau pwysig, cyfleoedd proffesiynol, a chydnabyddiaeth gan y diwydiant.
Enillodd Lauren Stokes, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Wobr Romo am Arloesi mewn Dylunio a Lliw, sy’n cydnabod creadigrwydd eithriadol, defnydd soffistigedig o liw ac ymagwedd arloesol at ddylunio tecstilau. Mae’r wobr hefyd yn cynnwys lleoliad chwe mis gyda Romo. Daeth Lauren hefyd yn agos i’r brig yng Ngwobr The Clothworkers.
Sicrhaodd Robyn Thorpe, un o fyfyrwyr eraill y rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau, interniaeth gyda stiwdio decstilau Centro Sourcing, a chafodd ei chydnabod â’r ganmoliaeth “Premier Digital Textiles Loves”.
Derbyniodd y myfyrwyr Sophie Drew, Sarah Davies, Blossom Evans, a Samantha McGrath gydnabyddiaeth sylweddol gan y diwydiant hefyd. Enillodd Sophie y ganmoliaeth “Laura Ashley Loves Your Work” ac, ochr yn ochr â Blossom Evans a Samantha McGrath, cynigiwyd y cyfle iddi arddangos yn Green Grads Manceinion yr hydref hwn.
Derbyniodd Sarah Davies y ganmoliaeth “Sanderson Loves” a chafodd ei chydnabod hefyd gan yr Ashley Wilde Group a Hovia, yn ogystal â chael ei henwi yn y 10 Gorau i’w Gwylio yn Academi AVA yn 2026.
Meddai Sarah: “Roedd derbyn cydnabyddiaeth gan Sanderson ar gyfer fy nghasgliad yn uchafbwynt go iawn i mi yn y New Designers. Mae’n fraint enfawr derbyn cydnabyddiaeth o’r fath gan frand addurniadau mewnol sy’n uchel ei barch yn rhyngwladol, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y caredigrwydd a’r anogaeth a ddangoswyd gan y tîm.”
Yn ogystal derbyniodd Blossom Evans “Hovia Love Token” a’r ganmoliaeth “IVO Textiles Loves”, gan gydnabod cryfder ei gwaith ymhellach.
Cafodd y myfyriwr Dylunio Graffig Svitlana Ulianych ganmoliaeth uchel gan Creative Review.
Meddai Lauren Stokes: “Mae wedi bod yn sioc ond yn anrhydedd o’r mwyaf cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith fel hyn, yn enwedig gan gwmni rydw i wedi ei edmygu ers blynyddoedd lawer. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i weithio yn eu stiwdio Zinc ac ni allaf aros i ddechrau.”
Mae’r rhain ymhlith myfyrwyr o BA Crefftau Dylunio, BA Celfyddyd Gain, BA Dylunio Graffig, BA Darlunio, BA Ffotograffiaeth, BA Dylunio Cynnyrch a Dodrefn a BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau a oedd yn arddangos yn y New Designers yn y Ganolfan Dylunio Busnes tan 4 Gorffennaf.
Mae myfyrwyr Celf Gain a Ffotograffiaeth hefyd wedi arddangos eu gwaith yn Llundain, gan gynnwys yn Oriel Copeland.
Yn ddiweddar, derbyniodd Tilly Lewis o Faesteg, myfyriwr Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun, Wobr Hayden John James i israddedigion i gydnabod ei gwaith eithriadol.
Meddai Tilly: “Mae arddangos yn Llundain yn teimlo fel cyfle anhygoel i gyflwyno fy arfer i gynulleidfaoedd newydd a phrofi beth mae’n ei olygu i ddangos gwaith mewn lleoliad proffesiynol. Mae’r cwrs wedi fy helpu i sylweddoli bod gyrfa mewn celf yn llwybr realistig ac wedi rhoi’r hyder i mi ddilyn gyrfa yn y maes.”
Meddai’r myfyriwr Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, Carys Bristowe-Davies, o Abertawe, a dderbyniodd Wobr Sarah Tierney yn ddiweddar: “Mae cael y cyfle i arddangos yn Llundain yn gyffrous iawn. Mae’n gyfle i rannu’r gwaith rydw i wedi’i ddatblygu dros y tair blynedd diwethaf gyda chynulleidfa ehangach a chysylltu ag artistiaid eraill a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.”
Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru, PCYDDS: “Mae llwyddiant ein myfyrwyr yn arddangosfa’r New Designers yn dyst i’w talent, eu creadigrwydd a’u proffesiynoldeb. Mae derbyn cydnabyddiaeth gan enwau blaenllaw yn y diwydiannau creadigol, ochr yn ochr â chyfleoedd fel lleoliadau graddedigion, yn dangos safon eithriadol y gwaith a gynhyrchir yng Ngholeg Celf Abertawe.
“Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu nid yn unig ymroddiad ein myfyrwyr ond hefyd gryfder yr amgylchedd dysgu creadigol sy’n eu paratoi i ffynnu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yng Ngholeg Celf Abertawe: “Mae gweld cynifer o’n myfyrwyr yn cael eu cydnabod gan y diwydiant yn y New Designers bob blwyddyn yn gyflawniad gwych ac yn rhywbeth y mae’r Brifysgol yn hynod falch ohono.
“Mae gwobrau, canmoliaeth a chyfleoedd proffesiynol gan frandiau a sefydliadau a gydnabyddir yn genedlaethol yn gymeradwyaeth bwerus o’u creadigrwydd, eu huchelgais a’u gwaith caled.
“Mae’r llwyddiannau hyn yn tynnu sylw at ansawdd y dalent sy’n deillio o Goleg Celf Abertawe ac yn rhoi llwyfan rhagorol i’n graddedigion wrth iddynt ddechrau ar gam nesaf eu gyrfaoedd creadigol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071