Skip page header and navigation

Mae pedwar myfyriwr Rheolaeth AdeiladuPeirianneg Sifil o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi’u henwi’n enillwyr Her Arweinwyr y Dyfodol i Fyfyrwyr 2025/26, a drefnwyd gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB).

A group of smiling students standing proudly against a branded background.

Cafodd Nia Alm, Rhys Cosker, Keiran Rees a Samual Chen eu cydnabod yn ffurfiol am eu cyflawniadau, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant ac arweinwyr ar draws y sector adeiladu, yng Nghynhadledd y CIOB yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe ar Fawrth 17.

Esblygodd y CIOB ei gystadleuaeth myfyrwyr, Her Arweinwyr y Dyfodol i Fyfyrwyr, sydd wedi’i chynnal ers sawl blwyddyn bellach i fenter fwy lleol a rhanbarthol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r her yn gwahodd myfyrwyr o brifysgolion a cholegau sy’n astudio rhaglenni HND, HNC, Bagloriaeth a Meistr i weithio mewn timau i fynd i’r afael â phroblemau adeiladu yn y byd go iawn drwy amgylchedd prosiect wedi’i efelychu, gyda phwyslais cryf ar gynaliadwyedd, proffesiynoldeb modern ac arloesi yn yr amgylchedd adeiledig. 

Creodd tîm PCYDDS argraff ar y beirniaid gyda chynnig creadigol a ganolbwyntiodd ar yr amgylchedd er mwyn datblygu ffrâm concrit aml-lawr a gynlluniwyd i wella bioamrywiaeth.  Roedd eu cysyniad yn cynnwys defnyddio cregyn cocos o fewn y strwythur i wella perfformiad amgylcheddol a chynhigiodd leoli’r datblygiad o fewn safle chwarel, lle byddai gwlypdiroedd a fflora wedi’i blannu’n cefnogi adfywio ecolegol.  Yn ogystal, roedd y dyluniad wedi ymgorffori toeon gwyrdd a systemau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys paneli solar a thyrbinau gwynt. 

Meddai Rhian Jenkins, Cyfarwyddwr Academaidd Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd: “Mae’n wych gweld ein myfyrwyr blwyddyn cyntaf weithio mor effeithlon gyda’i gilydd i gynhyrchu’r dyluniad arloesol buddugol hwn.  Maen nhw’n angerddol iawn am y diwydiant Adeiladu ac yn archwilio ffyrdd y gall datblygiadau leihau eu heffaith amgylcheddol.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae eu syniadau’n datblygu wrth iddynt barhau eu taith academaidd gyda ni.” 

Meddai Rhys Cosker, sy’n astudio ar gyfer HNC mewn Rheolaeth Adeiladu ar hyn o bryd yn PCYDDS, fod y gystadleuaeth wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i ddatrys problemau ar y cyd yn y diwydiant. 

“Roedd y pedwar ohonom wedi gweithio ar adrannau gwahanol megis y dyluniad, amserlen y gwaith a syniadau ar sut y gallem wneud yr adeilad yn gynaliadwy.  Roedd yn bleserus iawn trafod syniadau fel tîm a gweithio ar sut i oresgyn diffygion ar gyfer yr adeilad penodol hwn.”

Datblygodd Rhys ei ddiddordeb mewn adeiladu drwy Lefel 3 BTEC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig cyn ymgymryd â chynllun prentisiaeth a rennir gyda Cyfle, lle enillodd brofiad yn y diwydiant gyda Premier Forecourts & Construction a datblygu sgiliau gan ddefnyddio meddalwedd fel CAD a Procore.  Mae’n dweud bod y profiad o gystadlu wedi lledaenu ei ddealltwriaeth o’r hyn sy’n bosibl mewn adeiladu modern. 

“Rwy’n hapus iawn ein bod wedi ennill yr her gan ei bod wedi agor fy llygaid yn llawer mwy i’r hyn sy’n bosibl o fewn y diwydiant adeiladu.”

Dywedodd y cyd-enillydd Nia Alm fod yr her yn gyfle i wthio ei hun a datblygu hyder yn ei llwybr gyrfa yn y dyfodol. 

“Roedd cymryd rhan yn yr her CIOB yn gyffrous achos roeddwn i’n gwybod y byddai’n fy ngwthio.  Roedd rhaid i ni weithio’n agos fel tîm, yn datblygu syniadau, yn datrys problemau ac yn gwneud yn siŵr bod ein dyluniad yn ymarferol ac yn gynaliadwy.  Mae ennill yr her yn teimlo’n wirioneddol werth chweil ac wedi cryfhau fy hyder ynglŷn â dilyn gyrfa mewn rheolaeth adeiladu.”

Dechreuodd Nia ei thaith mewn adeiladu drwy gwrs Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.  Mae’n dweud bod ymweliad â’r ysgol gan gwmni adeiladu Morgan Sindall wedi chwarae rôl bwysig wrth lunio ei huchelgeisiau gyrfa. 

“Mae gweld menywod yn ffynnu mewn adeilad wedi gwneud i mi deimlo mai hon yn yrfa roeddwn i’n gallu ei dilyn mewn gwirionedd.  Fe wnaeth y profiad hwnnw fy ysbrydoli i barhau â’m hastudiaethau a dewis PCYDDS lle rwyf wedi gallu dyfnhau fy nealltwriaeth o reoli adeiladu a pharatoi ar gyfer prentisiaeth yn y diwydiant yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon