Skip page header and navigation

Mae House Party, digwyddiad cerddoriaeth fyw blaenllaw Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe sy’n dathlu egin ddoniau Cymru, yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn ar 21 Chwefror 2026, gyda myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) unwaith eto yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal y digwyddiad.

Three students with their backs to the camera walking down a dimly lit corridor in an arena style building.

Yn gydweithrediad rhwng yr Arena, PCYDDS, a lleoliadau lleol gan gynnwys The Bunkhouse, Elysium, Hangar 18 Music Venue, Hippos, a Sin City, mae The House Party yn cynnig profiad ymarferol yn y diwydiant i fyfyrwyr wrth arddangos doniau cerddorol Gymru ar lawr gwlad.

James Morgan, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, oedd creawdwr y prosiect sydd wedi’i wreiddio mewn cefnogi lleoliadau ar lawr gwlad a chreu mannau mynediad go iawn i egin artistiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Trwy ddarparu mynediad i amgylcheddau perfformio proffesiynol, mae’r fenter yn helpu artistiaid i fagu hyder, mireinio eu crefft, a chynnydd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Meddai James: “Lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yw ffynhonnell bywyd y byd cerddoriaeth. Hebddyn nhw, does unman gan berfformwyr, technegwyr a hyrwyddwyr i ddechrau eu taith. Mae House Party yn cydnabod eu pwysigrwydd ac yn cefnogi’r llwybrau maen nhw’n eu creu, nid yn unig i artistiaid ar y llwyfan, ond i bawb y tu ôl i’r llenni.

“Mae’r ethos hwn wedi ei adlewyrchu yn ein partneriaeth â PCYDDS, lle mae myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â’n tîm yn Arena Abertawe, gan ennill profiad hanfodol yn y byd go iawn a dysgu’n uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.”

Mae myfyrwyr yn gweithio ar draws pob maes sy’n rhan o gynnal digwyddiadau, gan gynnwys cynllunio, cyswllt ag artistiaid, marchnata a chyfathrebu, gweithrediadau blaen tŷ, lletygarwch, darparu technegol, a rheoli diogelwch, gan gymryd cyfrifoldebau ystyrlon sy’n cyfrannu i lwyddiant y digwyddiad. Enillodd y dull hwn gydnabyddiaeth genedlaethol House Party, gan ennill gwobr y Digwyddiad Myfyrwyr Gorau yng Ngwobrau NOEA 2024.

Meddai Nealah Griffiths, myfyrwraig blwyddyn gyntaf: “Mae bod yn rhan o House Party wedi newid yn llwyr fy ngolwg i ar y diwydiant digwyddiadau. Nid dim ond arsylwi ydyn ni, rydyn ni’n gwneud y gwaith. Mae wedi rhoi hyder i mi, profiad go iawn, a syniad clir o’r yrfa rydw i eisiau ei dilyn.”

I fyfyrwyr Twristiaeth a Rheolaeth Digwyddiadau Lefel 4 PCYDDS, mae’r digwyddiad yn benllanw blwyddyn yn astudio gweithrediadau arena. Trwy sesiynau wythnosol dan arweiniad tîm rheoli Arena Abertawe, mae myfyrwyr yn archwilio rolau adrannol, systemau gweithredol, seilwaith digwyddiadau byw, a pholisïau, ochr yn ochr â phrofiad ymarferol ar draws ystod o ddigwyddiadau byw.

Meddai Deborah Jenkins, Darlithydd mewn BA Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau: “Mae House Party yn darparu amgylchedd dysgu eithriadol. Mae gweld ein myfyrwyr yn ffynnu mewn rolau gweithredol yn Arena Abertawe yn hynod werth chweil. Mae’r bartneriaeth hon yn pontio theori ac ymarfer, gan roi i fyfyrwyr y sgiliau a’r hyder y mae eu hangen arnyn nhw ar gyfer y diwydiannau digwyddiadau a thwristiaeth.”

Trwy gyfuno dysgu academaidd, arbenigedd yn y diwydiant, a chyfleoedd i egin artistiaid, mae House Party yn parhau i gryfhau ecosystem greadigol Cymru. Adlewyrchiad arall o’i lwyddiant yw cydnabyddiaeth barhaus gan Gymdeithas Genedlaethol Digwyddiadau Awyr Agored, a PCYDDS wedi ei henwi’n Gwrs Digwyddiadau Gorau yn 2024 a 2025.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen arobryn hon ym mis Medi gysylltu â Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen, yn Jacqui.jones@pcydds.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon