Myfyrwyr a staff PCYDDS yn Helpu i Sefydlu Pedair Record Brydeinig gyda Beic Modur Trydan Arc Fector Vector Prin ar Draeth Pentywyn
Mae myfyrwyr a staff o’r rhaglen Peirianneg Beiciau Modur ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi helpu i sicrhau pedair record Brydeinig newydd yn y digwyddiad Straightliners a gynhaliwyd ar Draeth Pentywyn ar 2 a 3 Mai, gan ddefnyddio beic modur trydan cynhyrchu a ddatblygwyd gan un o gyn-fyfyrwyr PCYDDS Mark Truman.
Gan ddefnyddio’r Arc Vector, beic modur trydan perfformiad uchel iawn y mae galw mawr amdano, sefydlodd y tîm record cenedlaethol newydd ar gyfer beic modur trydan cynhyrchu ar dywod yn y categorïau canlynol:
- Cychwyn stond chwarter milltir – 107.782 milltir yr awr
- Cychwyn stond hanner milltir – 115.985 milltir yr awr
- Cychwyn stond 500 metr – 106.680 milltir yr awr
- Cychwyn stond Cilomedr– 111.009 milltir yr awr
Cyflawnwyd y record ar gyfer 500 metr a chilomedr ar 3 Mai, dan amodau traeth arbennig o wlyb, a’r rhediadau pellter hirach, o’r herwydd, yn fwy heriol fyth.
Arc, y cwmni beiciau modur trydan arloesol a sefydlwyd gan un o’n graddedigion Mark Truman yn dilyn ei astudiaethau yn PCYDDS, a greodd y peiriant a sefydlodd y recordiau.
Mae Arc wedi denu sylw rhyngwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys canmoliaeth gan yr actor yn Hollywood, Ryan Reynolds, a ddywedodd mai’r Arc Vector oedd “y beic mwyaf cŵl” iddo ei yrru erioed. Symbylodd postiadau Reynolds ar y cyfryngau cymdeithasol am y beic modur ddiddordeb byd-eang sylweddol yn y cwmni ac amlygodd yr arloesedd y tu ôl i’r peiriant trydan a adeiladwyd ym Mhrydain.
Mae’r gamp yn tynnu sylw at gysylltiadau diwydiant cryf y brifysgol a’i hymrwymiad i ddarparu profiad peirianneg ymarferol i fyfyrwyr ar flaen y gad o ran arloesi chwaraeon moduro a thechnoleg cerbydau trydan.
Meddai Ian Henshaw, technegydd PCYDDS, a oedd yn rhan o dîm Traeth Pentywyn:
“Roedd hwn yn brosiect hynod bwysig i’r brifysgol fod yn rhan ohono. Mae gweithio gyda thechnoleg cerbydau trydan arloesol a helpu i gyflawni pedair record Brydeinig yn gyfle gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Mae profiadau fel hyn yn rhoi gwybodaeth ymarferol amhrisiadwy i’n myfyrwyr, gan eu galluogi nhw i ddefnyddio’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i amgylchedd peirianneg perfformiad uchel go iawn.
“Mae hefyd yn dangos cryfder y perthnasoedd rydyn ni’n eu hadeiladu â’n graddedigion a’n partneriaid yn y diwydiant. Mae gweld cyn-fyfyrwyr fel Mark yn dychwelyd ac yn cydweithio â’r brifysgol yn ysbrydoliaeth fawr i fyfyrwyr presennol ac yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy angerdd, arloesedd a phenderfyniad.”
Mae’r prosiect yn galluogi myfyrwyr i brofi gofynion cyflym datblygu cerbydau uwch yn uniongyrchol.
Dywedodd y myfyriwr Neil Sandilands: “Roedd gweithio gydag Arc yn gwneud i’m traethawd hir deimlo fel prosiect peirianneg go iawn. Rhoddodd y cyfle i mi ddefnyddio’r sgiliau roeddwn i wedi’u datblygu yn ystod fy ngradd mewn her dylunio beiciau modur go iawn, wrth ddysgu’n fwy am realiti ymarferol y broses ddylunio.
“Ces i gyfle i werthfawrogi’n llawer gwell sut mae’n rhaid ystyried perfformiad, pecynnu, cost a dilysu gyda’i gilydd, a thrwy’r cydweithredu ces i ymdeimlad go iawn o bwrpas yn y prosiect.”
Ychwanegodd ei gyd-fyfyriwr Harry Rogers: “Roedd gweithio gydag Ian Henshaw i ddarparu cymorth technegol yn ystod rhaglen Arc ym Mhentywyn yn brofiad cyffrous a threiddgar. Mae’r Vector yn beiriant mor unigryw o’i gymharu ag unrhyw beth arall sydd ar yr heol, a rhoddodd y prosiect brofiad ymarferol gwerthfawr i mi gyda thechnoleg cerbydau trydan.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i Arc am y cyfle i gymryd rhan.”
Mae Mark Truman yn parhau i gynnal cysylltiadau agos â PCYDDS. Ar hyn o bryd mae’r myfyrwyr Peirianneg Beiciau Modur o dan Dr Owen Williams a’r myfyrwyr Dylunio Modurol o dan Sergio Fontanarosa yn gweithio ar brosiectau cydweithredol gydag Arc gan gynnwys datblygu modelau newydd. Mae Mark hefyd yn dychwelyd yn rheolaidd i siarad â myfyrwyr a rhannu canfyddiadau o’i daith yrfa, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr ac arloeswyr. Mae ei stori lwyddiant yn adlewyrchu pwyslais y brifysgol ar ddysgu ymarferol ac addysg sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
Wrth ddisgrifio ei amser yn PCYDDS yn un “defnyddiol ac atgyfnerthol dros ben,” meddai Mark:
“Mae’r pethau a ddysgais i o ran moeseg gwaith wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydw i wedi mynd â nhw gyda mi drwy gydol fy ngyrfa.
“Y peth gwych am y brifysgol hon, yn bennaf, yw’r profiad uniongyrchol, ymarferol go iawn y mae’n ei roi i bobl. Roeddwn i wedi edrych ar gyrsiau mwy damcaniaethol ar y pryd, a dydw i ddim yn credu y byddai’r un ohonyn nhw wedi tanio cymaint o angerdd ynof â chyffwrdd â cherbydau, arbrofi, gwneud addasiadau a mynd â nhw ar y trac i weld sut maen nhw’n perfformio. Dyna rywbeth y mae’r brifysgol hon yn ei wneud yn dda iawn.”
Wrth siarad am y recordiau newydd, meddai: “Mae gosod nifer o recordiau Prydeinig ar Draeth Pentywyn yn arwydd pwerus o’r hyn y mae’r Arc Vector yn gallu ei wneud dan rai o’r amodau mwyaf heriol yn y byd go iawn. Mae tywod, yn benodol, yn creu her unigryw i unrhyw feic modur perfformiad uchel, yn enwedig o ran tyniant, sefydlogrwydd, a chyflenwi pŵer yn gyson, felly mae cyflawni’r canlyniadau hyn yn dyst i’r beirianneg y tu ôl i’r beic.
“Rydyn ni’n falch o fod wedi cydweithio â PCYDDS ar y prosiect hwn, nid yn unig i arddangos perfformiad y Vector, ond hefyd i gefnogi datblygiad y to nesaf o beirianwyr. Mae partneriaethau fel hyn yn hynod bwysig i ni, gan ein galluogi ni i wthio ffiniau wrth roi profiad ystyrlon, ymarferol i fyfyrwyr ym maes technoleg cerbydau trydan arloesol.
“Efallai, yn rhan o ddatblygu’r model newydd, y down ni’n ôl y flwyddyn nesaf a gwella ar y record. Gallai hwn fod yn brawf diddorol iawn i’r technolegau newydd rydyn ni’n gweithio arnynt.”
Gan gynnig cyngor i fyfyrwyr presennol, ychwanegodd:
“Peidiwch ag ofni cymryd risgiau, peidiwch â rhoi’r gorau iddi, a gwnewch yn fawr o beth sydd gennych chi. Os daliwch chi ati, fe lwyddwch chi yn y pen draw.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071