Myfyrwyr yn Archwilio Treftadaeth Gerddorol Cymru gydag Angharad Jenkins
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr cwrs Technoleg Cerddoriaeth Greadigol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyfle i weithio gydag Angharad Jenkins, ffidlwr, cantores a chyfansoddwraig o Gymru, mewn gweithdy recordio arloesol yn archwilio croestoriad cerddoriaeth draddodiadol Cymru a thechnegau cynhyrchu modern.
Mae Angharad, un o sylfaenwyr y band gwerin Calan, yn cael ei chydnabod am ei gwaith ar draws meysydd perfformio, gwaith byrfyfyr, a chydweithio trawsddisgyblaethol. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio sut y gellir ail-ddehongli treftadaeth gerddorol Cymru mewn cyd-destunau modern, sy’n gwneud iddi ymddiddori’n benodol mewn arbrofi gydag offerynnau hanesyddol a thechnolegau creadigol newydd.
Yn ystod y sesiwn, gweithiodd y myfyrwyr gyda dau offeryn hanesyddol Cymreig, y Crwth a’r Pibgorn, gan archwilio sut i recordio, samplu ac ail-ddychmygu eu synau yn greadigol mewn cyd-destun cyfoes. Gan fod yr offerynnau hyn yn newydd i Angharad ei hun, meithrinodd y gweithdy ymagwedd archwiliadol iawn, gan annog arbrofi a chymryd risg greadigol.
Mae’r gweithdy gydag Angharad yn chwarae rhan bwysig wrth atgyfnerthu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig mewn lleoliad addysg greadigol gyfoes. Mae’r gwaith ar y cyd hefyd yn cyd-fynd â gweithgarwch ehangach y Coleg wrth ddathlu’r iaith Gymraeg, a diwylliant a chreadigrwydd Cymru. Wedi’i gynnal o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, rhoddodd gyfle i dynnu sylw at dreftadaeth Cymru mewn cyd-destun creadigol cyfoes, wrth ddod ag artist blaenllaw o Gymru i’r Coleg i weithio’n uniongyrchol â myfyrwyr.
Rhoddodd y sesiwn brofiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylcheddau recordio stiwdio, gan gefnogi deilliannau dysgu allweddol ar draws y cwrs Technoleg Cerddoriaeth Greadigol. Archwiliodd myfyrwyr dechnegau meicroffon, prosesau samplu, a dulliau cynhyrchu creadigol wrth ddatblygu deunydd gwreiddiol wedi’i wreiddio mewn ffynonellau sain traddodiadol.
Dywedodd Angharad:
“Mae’r crwth yn offeryn newydd i mi. Fel chwaraewr ffidil sy’n ymddiddori’n fawr mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, mae’n ddilyniant naturiol, ond doeddwn i ddim wedi dod yn gwbl gyfarwydd â’r offeryn – tan heddiw! Roedd hi’n brofiad hynod arbennig gallu archwilio’r crwth mewn stiwdio recordio, a gallu gwrando’n fanwl gywir ar y synau a’r gweadau mae’r offeryn yn eu cynnig. Yn hytrach na chwarae darn gosod, roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus i fyrfyfyrio’n rhydd. Roedd hi hyd yn oed yn fwy cyffrous i chwarae gyda Pete Williams, i gyfathrebu gyda a bownsio oddi ar ei chwarae piano. Cafwyd rhai eiliadau hynod brydferth ac annisgwyl, ac rwy’n falch iddynt gael eu dal. A phwy a wyr, efallai mai dyma un o recordiadau cyntaf crwth a phiano. Fedra’ i ddim aros i glywed beth mae’r myfyrwyr yn ei feddwl unwaith y byddan nhw’n cael eu dwylo ar y recordiadau a’u gwneud nhw’n rhai eu hunain.”
Dywedodd David Bird, Darlithydd Technoleg Cerddoriaeth Greadigol PCYDDS:
“Roedd gweithio gydag Angharad o fudd i’r holl fyfyrwyr ar y cwrs. Mae Angharad yn ymarferydd profiadol ac yn gerddor eithriadol ac mae gweithio gydag artist o’r safon hon mewn amgylchedd stiwdio yn brofiad amhrisiadwy. Rhoddodd fewnwelediad uniongyrchol i fyfyrwyr i arfer proffesiynol, cydweithio, a sut mae cerddorion lefel uchel yn ymdrin â sain a pherfformiad.
“Roedd y ffocws ar y crwth yn gwneud hon yn sesiwn arbennig o nodweddiadol. Fel y dysgon ni, ychydig iawn o chwaraewyr crwth sydd, ac mae’n beth prin gallu recordio un mewn lleoliad stiwdio broffesiynol. Rhoddodd hyn fynediad i fyfyrwyr at ffynhonnell sain hanesyddol arwyddocaol ac anarferol iawn y maent yn annhebygol o ddod ar ei thraws unman arall.”
Y tu hwnt i’w werth technegol, atgyfnerthodd y gweithdy hefyd bwysigrwydd dathlu diwylliant Cymru o fewn addysg greadigol gyfoes. Trwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag offerynnau traddodiadol fel ffynonellau sain byw ac addasadwy, anogwyd myfyrwyr i ystyried sut y gall treftadaeth ddiwylliannol fod yn sail i arfer creadigol arloesol.
Anogodd y gweithdy unigryw hwn fyfyrwyr i feddwl y tu hwnt i arferion stiwdio confensiynol, gan ddangos sut y gall offerynnau traddodiadol Cymreig ysbrydoli cyfeiriadau creadigol newydd o fewn maes cynhyrchu cerddoriaeth modern.
Meddai’r myfyriwr Kasia Sagatis:
“Daeth Angharad Jenkins i’n sesiwn stiwdio, ac roedd yn brofiad mor wych.
“Cyn gynted ag y dechreuodd chwarae’r crwth, roedd pawb wedi’u gwirioni. Nid yw’n rhywbeth rydych chi’n ei weld bob dydd, ac fe oleuodd yr ystafell gyda’i thalent. Daeth â’r hen offeryn hwn i leoliad modern a gwneud iddo weithio mor hawdd.”
I’r myfyriwr Morgan Matthews:
“Roedd y gweithdy gydag Angharad Jenkins yn gyfle gwych i archwilio hanes cerddoriaeth werin Cymru ac fe’n hanogodd i gael profiad uniongyrchol o weithio gyda’r Crwth. Roedd Angharad mor wybodus ac fel daliodd ein sylw wrth arddangos technegau traddodiadol a chyfoes. Mae caniatáu i fyfyrwyr ymgysylltu â’r rhannau pwysig hyn o dreftadaeth Cymru yn annog hunaniaeth genedlaethol o fewn cerddoriaeth ac yn hyrwyddo archwilio hanes a diwylliant Cymru.”
Ychwanegodd David Bird:
“Roedd hon yn sesiwn wirioneddol archwiliol. Mae Angharad yn gerddor eithriadol o ddawnus a medrus ac roedd cael y cyfle i weithio gyda rhywun o’i safon mewn amgylchedd stiwdio yn hynod werthfawr i’r myfyrwyr. Nid yw defnyddio’r crwth fel sail ar gyfer cyfansoddiadau cyfoes yn rhywbeth rydych chi’n dod ar ei draws yn aml, ac fe agorodd lawer o bosibiliadau creadigol. Fy ngobaith yw bod myfyrwyr yn gadael y profiad gyda’r hyder i arbrofi’n fwy rhydd, ac i weld y gellir trawsnewid hyd yn oed y ffynonellau sain mwyaf traddodiadol neu hanesyddol yn rhywbeth gwbl newydd.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476