Myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol o gynaliadwyedd drwy archwiliad amgylcheddol
Mae myfyrwyr sy’n astudio Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ennill profiad ymarferol gwerthfawr drwy gymryd rhan mewn archwiliad System Rheoli Amgylcheddol (EMS) go iawn ochr yn ochr â Thîm Cynaliadwyedd y Brifysgol.
Cynlluniwyd y gweithgaredd, a oedd yn rhan o fodiwl a addysgir, i roi cipolwg i fyfyrwyr ar sut mae systemau rheoli amgylcheddol yn gweithredu’n ymarferol ar draws ystâd y Brifysgol. Drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â staff a myfyrwyr, archwiliodd y cyfranogwyr y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu mentrau cynaliadwyedd o fewn lleoliad sefydliadol cymhleth.
Fel rhan o’r ymarfer, cynhaliodd myfyrwyr weithgareddau archwilio mewnol, gan gasglu tystiolaeth ac adborth cyn dadansoddi eu canfyddiadau a datblygu argymhellion. Yna cyflwynont eu casgliadau’n uniongyrchol i’r Tîm Cynaliadwyedd, y mae ei waith parhaus yn cael ei arwain gan y broses gwella barhaus sydd wrth wraidd System Rheoli Amgylcheddol y Brifysgol.
Nid yn unig y cyfrannodd y prosiect at waith cwrs a aseswyd y myfyrwyr ond fe’u galluogodd hefyd i gymhwyso dysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn amgylchedd ymarferol, gan helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad proffesiynol y mae cyflogwyr ar draws y sector cynaliadwyedd yn chwilio amdanynt.
Dywedodd Dan Priddy, Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn Y Drindod Dewi Sant:
“Mae rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â’n gweithgareddau cynaliadwyedd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd ac ymarfer proffesiynol. Drwy gymryd rhan ym mhroses archwilio’r System Rheoli Amgylcheddol, cafodd myfyrwyr brofiad uniongyrchol o sut mae rheolaeth amgylcheddol yn cael ei gweithredu ar draws sefydliad mawr gan gyfrannu safbwyntiau ac argymhellion gwerthfawr. Mae eu gwaith yn cefnogi ein hymrwymiad i welliant parhaus ac yn dangos y rôl bwysig y gall myfyrwyr ei chwarae wrth hyrwyddo cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol.”
Disgrifiodd y myfyrwyr a gymerodd ran y profiad fel un addysgiadol a gwerth chweil, gan werthfawrogi’n arbennig y cyfle i ymgysylltu ag aelodau staff a chael cipolwg ar sut mae archwiliadau amgylcheddol yn cael eu cynnal yn ymarferol.
Dywedodd Catherine Parnaby, a gymerodd ran yn yr archwiliad fel rhan o’i hastudiaethau Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd:
“Rhoddodd cymryd rhan yn yr archwiliad ddealltwriaeth llawer dyfnach i mi o sut mae cynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol yn gweithio mewn lleoliad byd go iawn. Roedd yn ddiddorol siarad â staff, archwilio gwahanol agweddau ar weithrediadau’r Brifysgol, a gweld sut mae’r egwyddorion rydyn ni wedi’u dysgu yn y dosbarth yn cael eu cymhwyso’n ymarferol. Gwnaeth gwybod y gallai ein canfyddiadau a’n hargymhellion helpu i gefnogi gwelliannau yn y dyfodol y profiad yn arbennig o werth chweil.”
Ychwanegodd Ioan Jeffries, hefyd o’r cwrs Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd:
“Roedd y cyfle i gynnal archwiliad mewnol o adeiladau’r brifysgol yn ddiddorol iawn ac fe helpodd fi i gael gwell dealltwriaeth o’r broses o gynnal archwiliad. Fe helpodd hefyd fy hyder i ofyn cwestiynau i ddarganfod mwy am y prosesau o fewn y brifysgol nad yw myfyrwyr yn aml yn cael eu gweld.”
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076