Skip page header and navigation

Mae cyfres newydd o bodlediadau fideo a recordiwyd yn Ystafell Drochi PCYDDS yn dod ag academyddion, myfyrwyr ac arbenigwyr diwydiant ynghyd o bob rhan o’r Brifysgol i greu adnoddau dysgu ysgogol y gellir eu rhannu ar draws cyfadrannau. 

Four people seated in an immersive room with recording equipment in the foreground.

Nod y fenter yw adeiladu casgliad cynyddol o adnoddau dysgu digidol y gall darlithwyr o unrhyw faes pwnc eu hymgorffori yn eu haddysgu.  Bydd y fideos a gynhelir ar blatfform canolog yn creu banc a rennir o fewnwelediadau arbenigwyr, gan ei gwneud yn haws i staff academaidd gael mynediad at gynnwys a’i ailddefnyddio wrth annog cydweithio ar draws campysau. 

Roedd y recordiadau cyntaf yn cynnwys y darlithwyr Dr Ceri Phelps a Dr Julie Thomas o’r meysydd pwnc Seicoleg a Busnes, ochr yn ochr â phanel o westeion allanol, gan gynnwys Simon Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol Philtronics Ltd a Chadeirydd Manufacturing Wales, Mark Stevenson, Prif Swyddog Pobl yn Heddlu De Powys, Kevin Mort, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Priory a Martin Wagstaff, perchennog Springfield Advisory Ltd. 

Gyda llesiant wrth wraidd y drafodaeth, archwiliodd y panel bynciau gan gynnwys arweinyddiaeth, diwylliant sefydliadol, anghenion dynol sylfaenol, hunanofal, iechyd meddwl dynion ac arfer proffesiynol, gan roi cipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr ar sut mae llesiant yn dylanwadu ar unigolion, gweithleoedd, a chymunedau.

Mae’r gyfres o bodlediadau wedi’u chynllunio’n fenter ar draws y Brifysgol.  Mae’n annog academyddion i arddangos eu harbenigedd i gynulleidfa llawer mwy trwy greu cynnwys y gellir ei rannu y tu hwnt i fodylau unigol, gan agor cyfleoedd am ddysgu a chydweithio rhyngddisgyblaethol.  Yn ogystal, mae myfyrwyr wedi chwarae rôl allweddol yn y prosiect, gan gyfrannu at ddatblygu cwestiynu a chymryd rhan yn y trafodaethau panel.   Mae eu cyfranogiad wedi darparu cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o’r byd academaidd a diwydiant wrth helpu i lunio cynnwys ar gyfer dysgwyr y dyfodol. 

Mae’r gyfres sydd wedi’i recordio yn Ysgol Drochi’r Brifysgol yn dangos sut y gellir defnyddio’r gofod i greu llawer mwy na chynnwys fideo o safon uchel.  Gellir datblygu pob recordiad i adnodd dysgu rhyngweithiol, wedi’i wella gyda chyfryngau gweledol, astudiaethau achos, cwisiau, a gweithgareddau digidol eraill. Mae hyn yn caniatáu i ddarlithwyr ddefnyddio’r fideos fel rhan o brofiad dysgu ehangach, gan annog myfyrwyr i ymgysylltu mewn ffyrdd amrywiol. 

Meddai Ceri Phelps, Prif Ddarlithydd a Seicolegydd Iechyd, sy’n gyfrifol am y podlediad:  “Mae’r trafodaethau rydym wedi’u cael hyd yn hyn wedi bod yn gyfareddol oherwydd eu bod wedi dod â phobl ynghyd sydd â phrofiadau a safbwyntiau eithaf gwahanol.  Fel seicolegydd, mae wedi bod yn gyfle gwych i archwilio’r heriau sy’n ymwneud â chefnogi llesiant gwaith ac ochr dynol arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau, a diwylliant trefniadol, wrth greu adnoddau y gall myfyrwyr ail-ymweld fel rhan o’u dysgu.” 

Meddai Laura Hutchings, Arweinydd Digidol Athrofa Addysg a’r Dyniaethau a threfnydd y podlediad:  “Roeddem am greu rhywbeth a fyddai’n werthfawr ymhell ar ôl i’r recordiad orffen.  Yn bwysicach fyth, roeddem am greu adnoddau y gall academyddion o bob rhan o’r Brifysgol eu defnyddio, waeth beth fo’r maes pwnc.  Nid podlediadau fideo yn unig yw’r rhain, maent yn adnoddau addysgu y gellir eu hailddefnyddio a’u gwella gyda chynnwys rhyngweithiol a’u hymgorffori i fodylau, gan helpu myfyrwyr i elwa ar arbenigedd ar draws PCYDDS.”

Meddai Simon Pritchard, Cadeirydd Manufacturing Wales:  “Mae gan brifysgolion a diwydiant gymaint i ddysgu wrth ein gilydd.  Mae cymryd rhan yn y gyfres hon wedi bod yn gyfle gwych i rannu profiadau o’r sector gweithgynhyrchu yn ogystal â chlywed safbwyntiau gwahanol o’r byd academaidd a phroffesiynau eraill.   Os yw’r sgyrsiau hyn yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer realiti’r gweithle, mae hynny’n llwyddiant gwirioneddol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon