Skip page header and navigation

Wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) baratoi i gynnal Cystadleuaeth Sgiliau Cymru unwaith eto fis nesaf, mae’r Brifysgol yn adfyfyrio ar effaith barhaol cystadleuaeth sy’n mynd ymhell y tu hwnt i fedalau a safleoedd.

A student wearing a green apron with her creative art work.

I Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS, mae’r gystadleuaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin hyder, uchelgais a chyfleoedd hirdymor i ddysgwyr ledled Cymru – gyda’i dylanwad bellach yn fwyfwy amlwg yn y Brifysgol ei hun.

“Am y pedwerydd tro, mae PCYDDS yn falch o gynnal Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, ond mae eleni yn teimlo’n arbennig o arwyddocaol,” meddai Caroline Thraves.

“Rydym bellach yn addysgu myfyrwyr a ddaeth ar draws PCYDDS am y tro cyntaf drwy’r union gystadleuaeth hon pan oeddent yn dal i fod yn astudio mewn colegau ledled Cymru. Mae’r hyn a ddechreuodd fel her gystadleuol wedi tyfu i fod, i rai, yn llwybr tuag at addysg uwch, hyder creadigol, ac uchelgais broffesiynol.”

Mae’r daith gylch llawn honno, meddai, yn crynhoi gwir bwrpas Cystadleuaeth Sgiliau Cymru: nid yn unig i brofi gallu, ond i ddatgloi potensial.

Bydd campysau Abertawe a Chaerfyrddin PCYDDS yn croesawu cystadleuwyr o golegau ar draws De-orllewin Cymru, gan gynnwys Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Sir Gâr, Coleg Cambria, Coleg y Cymoedd, Coleg Ceredigion, Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Sir Benfro. Gan weithio mewn partneriaeth ag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Brifysgol yn cynnal ystod eang o gystadlaethau sydd wedi’u cynllunio i feincnodi rhagoriaeth yn erbyn safonau WorldSkills, wrth adlewyrchu anghenion esblygol economi Cymru.

Mae ehangder y disgyblaethau sy’n cael eu harddangos yn parhau i fod yn drawiadol. Ar 5 Chwefror, bydd cystadleuwyr yn Adeilad IQ PCYDDS yn arddangos arbenigedd technegol mewn Melino CNC, Electroneg Ddiwydiannol, Peirianneg Fecanyddol (CAD), Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen, Awtomeiddio a Roboteg Ddiwydiannol.

Ar yr un diwrnod, bydd Coleg Celf Abertawe yn dod yn fyw gydag egni creadigol, gan gynnal cystadlaethau mewn Technoleg Ffasiwn, Ffotograffiaeth, Dylunio Graffig, Tecstilau a Phatrymau Arwyneb, a Chrefft.

Yn y cyfamser, bydd Caerfyrddin, am y tro cyntaf, yn cynnal cystadlaethau yn y cyfryngau digidol, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth bop a’r cyfryngau cynhwysol ar 4 Chwefror.

“Mae’r cystadlaethau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn dod â dysgu yn fyw,” ychwanegodd Caroline Thraves.

“Maen nhw’n herio myfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion i weithio o dan bwysau, datrys problemau’r byd go iawn, a mesur eu hunain yn erbyn y safonau proffesiynol uchaf. Maent yn bosibl drwy gydweithio pwerus rhwng colegau, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a phrifysgolion, i gyd yn gweithio tuag at nod a rennir: sef datblygu gweithlu hyderus a medrus i Gymru.”

Mae cefnogi datblygiad sgiliau lefel uchel wrth wraidd cenhadaeth PCYDDS. Trwy ei darpariaeth gweithgynhyrchu creadigol ac uwch, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo nid yn unig i gydnabod rhagoriaeth, ond i feithrin arloesedd, hyblygrwydd, ac uchelgais ar gyfer y dyfodol.

Mae gwerth cyfranogiad parhaus yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn glir. Mae sgiliau yn sail i economi ffyniannus, ac mae cystadlaethau fel hyn yn codi safonau, yn magu hyder ac yn agor drysau i yrfaoedd ystyrlon. Efallai yn bwysicach oll, maen nhw’n dangos beth sy’n digwydd pan fydd cyfle yn cael ei gynnal dros amser.

“Mae’r ffaith ein bod bellach yn addysgu myfyrwyr a oedd unwaith yn sefyll ar ein lloriau fel cystadleuwyr yn dangos nad yw datblygu sgiliau yn ymyrraeth untro - mae’n daith,” meddai Caroline Thraves.

“I’r Drindod Dewi Sant, nid carreg filltir yn unig yw cynnal Cystadleuaeth Sgiliau Cymru am y pedwerydd tro; mae’n ailddatgan ein cred mewn sgiliau, mewn creadigrwydd, ac yng ngrym trawsnewidiol addysg pan fydd talent yn cael ei hadnabod yn gynnar a’i chefnogi i ffynnu.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon