O Hyderabad i Abertawe: Taith Myfyriwr Rhyngwladol yn PCYDDS
Fel myfyriwr rhyngwladol o Hyderabad, India, mae astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn brofiad trawsffurfiol i Mukul Bakkolla.

Cwblhaodd Mukul ei addysg gynnar yn Academi’r Ivy League, cyn symud ymlaen i gwblhau’i addysg uwchradd yn Ysgol Gyhoeddus Delhi. Dywedodd Mukul fod yr ysgolion hyn wedi gosod sylfaen gref ar gyfer ei daith academaidd cyn dod i PCYDDS. Derbyniodd ysgoloriaeth i fyfyrwyr rhyngwladol o £3000 am bob un o’r tair blynedd, a oedd yn help enfawr i gefnogi’i addysg a gwneud astudio dramor yn fwy fforddiadwy.
Dewisodd Mukul astudio BA Rheolaeth Busnes Rhyngwladol ar gampws Abertawe PCYDDS oherwydd ei seilwaith cadarn, ei brisiau cystadleuol, a’i gymorth academaidd rhagorol. Ychwanega:
“Roedd e’n teimlo fel y lle iawn i gael addysg gadarn mewn amgylchedd cefnogol a fyddai’n fy helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.”
Un o hoff bethau Mukul am astudio yn Abertawe yw’r traeth a’r awyrgylch heddychlon cyffredinol. Meddai:
“Roedd e’n teimlo fel y cydbwysedd perffaith rhwng amgylchedd prifysgol bywiog a lle llonydd i ymlacio. Daeth y Mwmbwls, yn arbennig, yn un o’m hoff leoedd i wylio’r haul yn machlud. Roedd yn ffordd ddelfrydol o fwrw’ch blinder wedi diwrnod prysur o astudio, ac roeddwn i’n dwlu ar y ffordd yr oedd gan y ddinas gymaint i’w gynnig ond yn dal i gadw naws cyfeillgar, croesawgar.”
Bu’r profiad academaidd yn PCYDDS yn amhrisiadwy wrth lunio’i ddyheadau o ran gyrfa. Meddai:
“Mae fy nghwrs wedi rhoi dealltwriaeth eang i mi o lawer o agweddau ar fusnes. O gyllid i AD, marchnata, a hyd yn oed y gyfraith, rwyf wedi cael dealltwriaeth werthfawr o beth mae’n ei gymryd i adeiladu busnes llwyddiannus. Roedd y cwrs yn wir wedi fy mharatoi i ddeall yr heriau y mae busnesau’n eu hwynebu a’r atebion sy’n gallu gwneud iddyn nhw ffynnu.”
Mae Mukul hefyd wedi sicrhau interniaeth farchnata drwy’r Brifysgol, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’i nodau o ran gyrfa.
“Mae wedi bod yn brofiad gwych lle rwyf wedi ennill sgiliau ymarferol a chryfhau fy niddordeb mewn marchnata, a fydd yn werthfawr i fy ngyrfa yn y dyfodol.”
Tu hwnt i fywyd prifysgol, mae Mukul wedi cymryd at hobïau newydd, gan ddatblygu cariad at ddarllen a chymdeithasu â’i ffrindiau.
“Mae pawb yma mor gyfeillgar, ac mae’n gymaint o hwyl treulio amser gyda’n gilydd – mae’n wir yn ychwanegu at y profiad myfyriwr yn gyffredinol.”
Meddai Robyn Griffiths, Rheolwr Rhaglen BA Rheolaeth Busnes PCYDDS:
“Allwn i ddim fod yn fwy balch o Mukul Bakkolla. Mae’n wir wedi cymryd yr awenau ynghylch ei ddyfodol, gan ddangos yn union beth rydym yn gobeithio ei weld gan ein myfyrwyr Rheolaeth Busnes.
“Gydag awydd Mukul i sicrhau ei fod yn profi popeth sydd gan fyd rheoli busnes i’w gynnig iddo yn ystod ei astudiaethau, buom ni’n gweithio gyda’n gilydd i drefnu interniaeth sy’n gwneud y tro i’r dim iddo ac a oedd yn apelio at yr elfennau o gymhwyso ymarferol yr oeddwn i a Mukul wedi’u trafod yn fanwl. At hynny mae’r interniaeth eisoes wedi caniatáu iddo weithredu rhai o’r cysyniadau a’r modelau sydd wedi’u cyflwyno yn y rhaglen hyd yn hyn!
“Petai Mukul yn fusnes, mae’n eglur i’w holl ‘randdeiliaid’ nad yw’r cyfle hwn yn ymwneud ag ennill sgiliau a chwblhau aseiniadau’n unig; mae wedi’i deilwra i’w helpu i ragori ar ei lwybr gyrfa ymhell tu hwnt i’w gyfnod yn PCYDDS ac Ysgol Fusnes Abertawe. Mae stori Mukul yn enghraifft berffaith o’r modd rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn profi cyfuniad o astudio academaidd â’r math o brofiad yn y byd go iawn sy’n wir yn cyfrif.”
Wrth i Mukul adfyfyrio ar ei brofiad myfyriwr, dywedodd y byddai’n argymell PCYDDS i fyfyrwyr eraill.
“Mae’r sylw un-i-un a gawn gan ein darlithwyr yn amhrisiadwy, ac mae’r wybodaeth a gawn ymhob pwnc yn helaeth. Hefyd mae’r staff yn anhygoel o gyfeillgar a phob amser yn fodlon helpu, gan wneud yr holl brofiad prifysgol gymaint yn gyfoethocach.”
Ar ôl graddio, mae Mukul yn gobeithio gweithio ym maes marchnata neu weinyddu busnes.
“Rwyf bob amser wedi bod â chariad mawr at y pynciau hyn, a byddant yn fy helpu pan fyddaf yn dilyn fy musnes fy hun yn y pen draw. Rwy’n awyddus iawn i adeiladu rhywbeth ystyrlon ac, er bod hynny’n swnio mor uchelgeisiol, rwy’n breuddwydio am greu brand gwerth biliwn o ddoleri ryw ddiwrnod.”
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA Rheolaeth Busnes Rhyngwladol, ewch i: Rheolaeth Busnes Rhyngwladol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476