Owen Rees wedi'i ddewis ar gyfer gosodwaith baner amlwg yn Adeilad Dinefwr PCYDDS
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod gwaith Owen Rees, myfyriwr ar y radd Meistr Darlunio, wedi’i ddewis i’w arddangos ar y faner fawr y tu allan i Adeilad Dinefwr, sy’n dathlu rhagoriaeth artistig a phŵer trawsnewidiol addysg.
Yn wreiddiol o’r Mwmbwls ac wedi’i addysgu yn Abertawe, mae Owen yn dod â phersbectif hynod bersonol a diwylliannol berthnasol i’w waith. Cafodd ei flynyddoedd cynnar eu siapio gan hinsawdd gymdeithasol a gwleidyddol Prydain yn oes Thatcher, streiciau’r glowyr, ac egni garw pync-roc - profiadau sy’n parhau i lywio ei lais creadigol.
Dechreuodd Owen ar ei daith artistig ffurfiol gyntaf ar ddiwedd y 1980au gyda chwrs Sylfaen mewn celf. Fodd bynnag, arweiniodd amgylchiadau personol iddo gamu i ffwrdd o’i astudiaethau. Ddegawdau yn ddiweddarach, wedi’i yrru gan uchelgais hirsefydlog i ddychwelyd i addysg, ail-gofrestrodd yn PCYDDS fel myfyriwr aeddfed, wedi’i ddenu gan ei hyblygrwydd a’i chysylltiad lleol cryf.
Gan gydbwyso astudio ag ymrwymiadau eraill, cwblhaodd Owen ei gwrs Sylfaen yn rhan-amser cyn symud ymlaen at radd israddedig mewn Darlunio. Arweiniodd ei ymroddiad a’i dalent at ennill gradd Dosbarth Cyntaf, carreg filltir a’i ysgogodd i ddilyn astudiaeth ôl-raddedig ac archwiliad artistig pellach.
Mae Owen yn disgrifio PCYDDS fel amgylchedd croesawgar a chynhwysol sy’n meithrin creadigrwydd a thwf. “Mae amrywiaeth y myfyrwyr, yr ymdeimlad o gymuned, a’r gefnogaeth gan staff wedi fy helpu i ganfod fy lle yn gyflym,” meddai. “Rhoddodd yr hyder i mi ymgysylltu’n llawn â’m harfer a datblygu fy hunaniaeth artistig.”
Yn ystod ei astudiaethau, cofleidiodd gyfleoedd y tu hwnt i’r stiwdio, gan gynnwys arwain gweithdai darlunio ar gyfer ceiswyr lloches a chyfrannu at frandio sioeau gradd israddedig. Gwnaeth y profiadau hyn nid yn unig gyfoethogi ei arfer creadigol ond hefyd atgyfnerthu ei ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned.
Effeithiwyd ar daith academaidd Owen hefyd gan heriau personol, gan gynnwys diagnosis o ADHD a dyslecsia. Gyda chefnogaeth gan y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a gwasanaethau prifysgol, datblygodd ddulliau newydd o ddysgu a gweithio’n greadigol. “Gyda’r rhwydwaith cymorth cywir, llwyddais i barhau i wneud cynnydd yn academaidd ac yn artistig,” meddai.
Mae ei waith dethol, The Moon and Us, yn adlewyrchu llawer o’r themâu sy’n ganolog i’w arfer ehangach: cof, ailadrodd, proses, a’r berthynas rhwng pobl a diwylliant. Gan gyfuno argraffu Risograff, collage, a thechnegau chine-collé, mae’r gwaith yn archwilio’r cydbwysedd rhwng elfennau digymell a rheolaeth, proses ac arteffact, tensiwn sydd wedi dod yn ganolog i iaith artistig Owen.
Bwriad Owen yw parhau â’i waith yng Nghymru, gan ehangu ei ymchwil, a meithrin cysylltiadau o fewn y gymuned greadigol ehangach.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071