“Pa gamau gweithredu cadarn y mae prifysgolion yn eu cymryd i integreiddio datblygiadau mewn digideiddio a deallusrwydd artiffisial?”
Mae’r darn meddwl hwn wedi’i dynnu o brif anerchiad a draddodwyd yn ddiweddar gan Dr Jeremy Smith, Deon Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn 10fed Cyngres Ryngwladol Cadeiryddion Scholas Occurrentes yn Rhufain.
Wrth siarad yn y Fatican ar rôl fyd-eang prifysgolion mewn oes o newid technolegol cyflym, archwiliodd Dr Smith sut y mae’n rhaid i addysg uwch ymateb i effaith gynyddol Deallusrwydd Artiffisial gyda brys a phwrpas moesol. Wrth i AI ail-lunio natur gwaith, dysgu a chymdeithas fwyfwy, mae ei fyfyrdodau’n tynnu sylw at pam mae prifysgolion bellach yn wynebu un o’r trawsnewidiadau addysgol mwyaf arwyddocaol yn ein hoes: nid yn unig i arfogi graddedigion â sgiliau digidol a sgiliau sy’n gysylltiedig â AI sy’n dod i’r amlwg, ond hefyd i ddiogelu creadigrwydd, moeseg ac ystyr dynol sydd wrth wraidd addysg.
Mae’r darn canlynol yn rhannu’r syniadau a drafodwyd yn Rhufain a’u hehangu, gan gynnig persbectif a arweinir gan werthoedd ar arwain gyda phwrpas mewn byd a yrrir gan AI.
Nid yw’r cwestiwn sydd o’n blaenau – “Pa gamau gweithredu cadarn y mae prifysgolion yn eu cymryd i integreiddio datblygiadau mewn digideiddio a deallusrwydd artiffisial?”- yn amserol yn unig. Mae’n fater brys.
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn llawer mwy na datblygiad technolegol. Mae’n trawsnewid y cyd-destunau y mae creadigrwydd dynol, cydweithredu, a chyfrifoldeb yn datblygu ynddynt. Fel prifysgolion, rhaid i ni fod yn gyfrifol am gyd-fynd â’n myfyrwyr i ddatblygu’r addasrwydd a’r sail foesegol sy’n angenrheidiol i sicrhau bod systemau AI yn gwasanaethu, yn lle llunio, ystyr a llesiant dynol.
Ar ei fwyaf sylfaenol, mae hyn yn golygu ystyried sut rydym yn paratoi myfyrwyr am rolau nad ydynt eto’n bodoli, mewn diwydiannau sy’n esblygu’n gyflymach na’n cwricwlwm, ac mewn gweithleoedd lle mae systemau deallus wedi’u hymgorffori i dasgau pob dydd.
Yn ogystal, mae’n golygu addasu sgiliau. Mae data byd-eang yn dangos bod dros 70% o gyflogwyr bellach yn blaenoriaethu ymgeiswyr gyda sgiliau AI cysylltiedig hyd yn oed mewn rolau nad ydynt yn dechnegol. O gyllid i ofal iechyd i farchnata ac addysg, disgwylir i raddedigion bod yn rhugl yn ddigidol, yn gyfforddus gyda systemau deallus, ac â’r gallu i ddatrys problemau cymhleth mewn cyd-destunau byd go-iawn. Mae rolau lefel mynediad yn y DU yn cael eu disodli fwyfwy gan swyddi sy’n gofyn am alluoedd wedi’u gwella gan AI.
Serch hynny, nid yw sgiliau AI yn unig yn ddigon. Mae gweithluoedd dal angen graddedigion sy’n gallu cyfuno rhuglder digidol gyda chryfderau dynol. Mae ein cymdeithas dal angen empathi, rhesymu moesegol a gwydnwch emosiynol.
Tra bod AI yn gallu prosesu data, cynhyrchu cynnwys, ac efelychu’r broses o wneud penderfyniadau, nid yw’n gallu (eto?) cymryd lle dyfnder profiad dynol. Ein gallu i ddychmygu, cwestiynu, ac adeiladu ystyr – mae’r rhain yn nodweddion dynol unigryw, sy’n ganolog i sut rydym yn meddwl, yn creu, ac yn gofalu am yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i fyw bywyd da.
Mae hyn yn ailddiffinio’r hyn rydym yn ei olygu wrth barodrwydd graddedigion. Nid yw’n ymwneud â hyfedredd yn unig; mae’n ymwneud â phresenoldeb pwrpas ac ystyr. Dyma’r hyn mae’n rhaid i ni geisio ei gadw a’i ddyrchafu yn ein haddysgu os ydym am sicrhau bod myfyrwyr nid yn unig yn ddefnyddwyr technoleg, ond hefyd yn feddylwyr, artistiaid, a dinasyddion sy’n gallu llunio eu pwrpas.
Er enghraifft, os ydym yn sôn am greadigrwydd mewn byd sy’n cael ei yrru gan AI, mae’r gallu i gynhyrchu syniadau gwreiddiol, cysylltu cysyniadau gwahanol, a herio rhagdybiaethau yn dod yn fwy gwerthfawr. Rhaid i’n cwricwlwm feithrin hyder, annog myfyrwyr i ddefnyddio AI nid efelychu’r hyn sy’n bodoli, ond dychmygu’r hyn a allai fod.
Fel mae myfyrdodau diweddar o’r Fatigan yn ein hatgoffa, mae deallusrwydd yn yr ystyr ddynol yn ymgorfforol, yn berthnasol ac yn foesol. Gall AI ddynwared rhai allbynnau deallusol, ond ni all feddwl, canfod, neu garu. Mae AI yn gynnyrch deallusrwydd dynol, nid ffurf artiffisial ohono. Ac er bod AI yn ffin dechnolegol newydd, mae hefyd yn dal drych i’n dynoliaeth, gan ofyn beth sy’n ystyrlon a beth sy’n werth ei ddilyn.
Mae rhai yn ymgorffori AI ar draws disgyblaethau, nid yn unig mewn cyfrifiadura, ond mewn busnes, y gyfraith, seicoleg, a’r celfyddydau; drwy ail-lunio’r cwricwlwm gydag anghenion yn y gweithle drwy raglenni a ddyluniwyd ar y cyd a dysgu drwy brofiad. Mae eraill yn meithrin dysgu ymarferol, gan gynnwys prosiectau a yrrir gan AI, efelychiadau a hacathonnau. Mae prifysgolion yn creu cymwysterau AI a micro-ardystiadau, yn aml mewn partneriaeth â chwmnïau technoleg; a chefnogi myfyrwyr nad ydynt yn rhai technegol i sicrhau bod llwyfannau AI yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Ein tasg yw nid yn unig sicrhau hygrededd academaidd, ond ymarfer stiwardiaeth foesegol o wybodaeth mewn ffyrdd sy’n cynnal urddas pob person er budd pawb. Nid yw prifysgolion yn gallu gwneud hyn gyda phwyll, ond yn hytrach drwy fod yn feiddgar, gydag ymdeimlad o frys.
Yng Nghymru, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn mabwysiadu dull rhagweithiol o integreiddio Deallusrwydd Artiffisial i addysg uwch. Ein cenhadaeth yw trawsnewid bywydau a chymunedau drwy addysg, ac mae’r genhadaeth hon yn parhau i fod yn ddigyfnewid, hyd yn oed wrth i’r offer a’r byd o’n cwmpas esblygu.
Dechreuom drwy gydnabod nad yw AI yn newid mewn technoleg yn unig; mae’n newid diwylliannol. Mae’n cyffwrdd â phob rhan o’n bywydau yn y brifysgol, o ddylunio cwricwlwm, asesu a chymorth myfyrwyr i ddatblygiad staff a strategaethau sefydliadol.
Ers dechrau 2024, rydym wedi darparu hyfforddiant wedi’i dargedi i bron i 400 o staff academaidd a phroffesiynol, gan eu helpu i ddeall offer AI cynhyrchiol fel ChatGPT a Copilot, a sut y gellir defnyddio’r rhain yn foesegol ac yn effeithiol wrth addysgu ac asesu.
Rydym wedi lansio rhaglenni llythrennedd AI i fyfyrwyr, gan ganolbwyntio ar ddefnydd cyfrifol, meddwl beirniadol a rhuglder digidol. Mae’r sesiynau hyn wedi’u hymgorffori i’r broses sefydlu, cymorth gyrfaoedd, a modylau disgyblaeth-benodol. Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi canllawiau clir ar gyfer staff a myfyrwyr ynghylch beth yw AI ac, yn bwysicach ynghylch sut i’w ddefnyddio’n foesegol, yn greadigol, ac yn feirniadol.
Nid ydym yn paratoi myfyrwyr am fyd a fydd yn cael ei lunio gan AI. Rydym yn eu haddysgu o fewn un sy’n trawsnewid yn barod, ac felly rydym yn gwneud yr hyn y gallwn i sicrhau eu bod yn seddi gyrru’r trawsnewidiad hwnnw.
Wrth wneud hyn, rydym yn ceisio amddiffyn urddas anhepgor pob cyfranogwr yn ein cymunedau dysgu. Gall offer AI gefnogi dysgu, ond rhaid iddynt beidio â chymryd lle’r amrywiaeth gyfoethog o safbwyntiau sy’n dod i’r amlwg o wahanol hanesion, diwylliannau a phrofiadau byw. Mae pob myfyriwr yn cyfrannu llais unigryw i’n dealltwriaeth ar y cyd. Ein rôl yw sicrhau bod AI yn cyfoethogi yn hytrach na lleihau’r lleisiau amrywiol yn y deialog hwn.
Mae pob asesiad yn PCYDDS wedi cynnwys canllawiau pendant ar ddefnydd a ganiateir o AI ers Medi 2024.Mae hyn yn cynnwys pynciau megis ymchwilio gydag AI, ysgrifennu gydag AI, prawf-ddarllen gydag AI, rhaglennu gydag AI, strwythuro gydag AI, a defnydd creadigol o offer AI. Nid yw hwn yn ddull sy’n addas i bawb. Mae ein harweinwyr modwl yn penderfynu beth sy’n briodol yn seiliedig ar ganlyniadau dysgu ac anghenion y diwydiant. Rhoddir disgwyliadau clir i fyfyrwyr, a chefnogir staff i ddylunio asesiadau sy’n adlewyrchu realiti byd sydd wedi’i bweru gan AI.
Yn ogystal, rydym yn adolygu ein cwricwlwm er mwyn sicrhau y caiff sgiliau sy’n gysylltiedig ag AI, megis peirianneg brydlon, moeseg ddata, a thuedd algorithmig, eu hymgorffori ar draws disgyblaethau.
Rydym wedi creu model “Dysgu-Addasu-Mabwysiadu-Datblygu” i arwain ein taith sefydliadol. Mae hyn yn golygu dysgu am offer AI, eu goblygiadau, addasu arferion presennol i integreiddio AI yn ein darpariaeth, mabwysiadu AI lle mae’n ychwanegu gwerth, ac yna ddatblygu ein hatebion sydd wedi’u gwella gan AI.
Rydym wedi penodi pencampwyr AI ar draws cyfadrannau i gefnogi arloesedd a rhannu arfer gorau. Mae digwyddiadau byw, gweithdai a sesiynau bwrdd crwn yn caniatáu i staff arddangos sut maent yn defnyddio AI i wella dysgu, gwella adborth, a chefnogi llesiant myfyrwyr. Yn ogystal, rydym yn archwilio dadansoddeg wedi’i bweru gan AI i wella cyfraddau cadw myfyrwyr, a phersonoli cefnogaeth, wrth sicrhau tryloywder a thegwch yn y ffordd y defnyddir data.
Rydym yn gwbl glir bod rhaid defnyddio AI yn foesegol ac yn deg. Mae ein polisïau yn esblygu i adlewyrchu hyn, gan gynnwys diweddariadau i hygrededd academaidd, dylunio asesiadau, a chynhwysiant digidol. Rydym yn gofyn cwestiynau strategol ar draws y brifysgol: Beth ddylai pob graddedig ei wybod am AI? Pa sgiliau fydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn marchnad swydd sy’n brysur newid? Sut rydym yn cefnogi staff i ymgysylltu’n hyderus ac yn foesegol? A yw ein systemau a’n fframweithiau ansawdd yn barod ar gyfer y newid hwn? Ac efallai, yn bwysicach fyth: beth yw goblygiadau gwneud rhy ychydig, rhy hwyr?
Rydym wedi ymrwymo i’r dull hwn sy’n canolbwyntio ar bobl, dull sy’n rhoi pobl, nid peiriannau wrth wraidd addysg. Mae hyn yn golygu dylunio systemau sy’n cefnogi ffyniant dynol, cynnal urddas, a meithrin creadigrwydd, nid effeithlonrwydd yn unig. Mae’n ymwneud â thrawsnewid bywydau drwy drawsnewid addysg, fel y mae’n nodi yng nghenhadaeth ein Prifysgol.
Mae’r cynnydd mewn AI cynhyrchiol yn her, ond mae hefyd yn gyfle. Mae’n gyfle i ailystyried sut rydym yn addysgu, sut rydym yn asesu, a sut rydym yn paratoi myfyrwyr am fyd sy’n newid yn gyflymach nag erioed o’r blaen.
Efallai nad oes gennym yr holl atebion ond rydym yn gofyn y cwestiynau cywir. Yn ogystal, rydym yn adeiladu’r sylfeini’n strategol, yn foesegol, ac yn gydweithredol am ddyfodol lle mae AI yn gwella, nid yn disodli’r gwerthoedd sydd wrth wraidd ein cenhadaeth.
Fel y Mae’r Pab Francis yn ein hatgoffa, “Yn yr oes hon o ddeallusrwydd artiffisial, ni allwn anghofio bod barddoniaeth a chariad yn angenrheidiol i achub ein dynoliaeth.”
Felly, gadewch i ni arloesi, nid yn unig gyda sgil, ond gyda doethineb y galon.
Gadewch i ni addysgu gyda dewrder, ond yn arwain gyda thrugaredd.
Gadewch i ni gofio bod dyfodol addysg yn gorwedd nid mewn algorithmau, ond mewn meddyliau a chalonnau’r rheiny sy’n dysgu.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076