PCYDDS ar restr fer Gwobrau’r Sefydliad Lletygarwch am y Bumed Flwyddyn yn Olynol
Unwaith eto mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ei chydnabod am ragoriaeth mewn addysg lletygarwch a digwyddiadau, ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Rhaglen Addysg Orau’r Sefydliad Lletygarwch (IoH) am y bumed flwyddyn yn olynol.
Mae’r enwebiad yn tynnu sylw at gryfder rhaglenni Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS, gyda chydnabyddiaeth arbennig am ymgysylltiad rhagorol â’r diwydiant, dulliau arloesol o ddysgu, a’r profiad pwerus yn Fflorida dan nawdd Taith, sy’n rhoi profiad rhyngwladol gwerthfawr i fyfyrwyr.
Mae Gwobrau IoH 2026 yn nodi’r flwyddyn orau erioed, a nifer anhygoel o enwebiadau yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth a chynhwysiant ar draws y sector lletygarwch byd-eang. Cyhoeddir yr enillwyr yng Nghinio a Gwobrau Blynyddol yr IoH ar 15 Mehefin 2026 yn JW Marriott Grosvenor House yn Llundain.
Meddai’r Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn PCYDDS:
“Mae cyrraedd y rhestr fer am y bumed flwyddyn yn olynol yn dipyn o gamp ac mae’n adlewyrchu angerdd, arloesedd ein tîm Twristiaeth a Digwyddiadau a’i ymrwymiad i’r diwydiant. Rydyn ni’n falch o ddarparu profiadau i fyfyrwyr sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn enwedig mentrau fel Taith Florida, sy’n rhoi iddyn nhw’r hyder, y sgiliau a’r persbectif byd-eang sydd eu hangen i ffynnu yn y diwydiannau lletygarwch a digwyddiadau.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon hefyd yn adlewyrchu cryfder ein partneriaethau â diwydiant ac ymroddiad staff sy’n ymdrechu’n barhaus i ddarparu addysg effeithiol, sy’n canolbwyntio ar yrfa. Hoffwn i ddiolch a llongyfarch y tîm cyfan am eu cyfraniad eithriadol a’u hymrwymiad parhaus i lwyddiant myfyrwyr.”
Mae rhaglenni Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS wedi adeiladu record gref o gydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Enillodd y tîm Wobr Rhaglen Addysg Orau IoH yn 2023 ac ers hynny mae wedi cyrraedd y rhestr fer dro ar ôl tro ar draws sawl categori, gan gynnwys y Rhaglen Addysgol a’r Tîm Datblygu Talent Gorau yn 2024 a 2025.
Yn ategu’r llwyddiant hwn mae gwobrau ehangach y diwydiant drwy’r Gwobrau Digwyddiadau Cenedlaethol, lle enillodd PCYDDS y Digwyddiad Myfyrwyr Gorau yn 2023 a 2024, yn ogystal â’r Rhaglen Digwyddiadau Orau yn 2024 a 2025. Mae’r Brifysgol hefyd wedi bod ar y rhestr fer nifer o weithiau ar draws categorïau sy’n cynnwys y Cwrs Digwyddiadau Gorau a Digwyddiad Rhanbarthol y Flwyddyn.
Yn ogystal, mae PCYDDS wedi ei chydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth gan yr Athrofa Teithio a Thwristiaeth, gan gryfhau ei henw da ymhellach am addysg sy’n arwain y diwydiant, ac sy’n seiliedig ar ymarfer.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071