PCYDDS i ddathlu Mis Gwlân gyda diwrnod agored arbennig yn archwilio hanes defaid yng Nghymru
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal diwrnod agored arbennig i ddathlu Mis Gwlân, gan gynnig cipolwg diddorol i ymwelwyr ar hanes ffermio defaid a phwysigrwydd parhaol gwlân yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs ar y testun Hanes Byr Defaid yng Nghymru gan Debby Mercer, un o raddedigion PCYDDS, perchennog defaid, ac Uwch Guradur yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol. Gan dynnu ar ei gwybodaeth helaeth am wlân a’i dreftadaeth, bydd Debby yn dod â’r pwnc yn fyw trwy arddangosfa nodedig o lyfrau prin a deunyddiau archifol o Gasgliadau Arbennig PCYDDS.
Cynhelir y diwrnod agored ddydd Mercher, 28 Hydref, am 2pm yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws PCYDDS yn Llanbedr Pont Steffan.
Meddai Debby:
” Yn llyfrgell y Brifysgol y cynhaliwyd fy arddangosfa gyntaf erioed ar wlân pan oeddwn i’n gwneud fy nhraethawd hir israddedig, felly rwy’n hapus iawn i fod yn ôl eto, yn trafod popeth am wlân, o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol”
Caiff ymwelwyr gyfle i archwilio casgliad o bamffledi yn ymwneud â gwlân sy’n dyddio o 1698 i 1772, gan daflu goleuni ar faterion hanesyddol yn cynnwys smyglo gwlân, gweithgynhyrchu gwlân a rheoleiddio prisiau gwlân.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys ffotograffau du a gwyn o Sioe Frenhinol Cymru 1986, ynghyd â delweddau atgofus o dreialon cŵn defaid Cymru a chneifio defaid o’r 1980au. Bydd samplau o wlân crai a gwlân wedi’i brosesu yn cynnig cipolwg pellach ar y deunydd naturiol amlbwrpas hwn.
Yn ogystal ag archwilio hanes cyfoethog gwlân, bydd Debby’n rhannu ei gwybodaeth am y ffyrdd arloesol y mae gwlân yn cael ei ddefnyddio ar draws ystod o ddiwydiannau heddiw, gan dynnu sylw at ei berthnasedd a’i botensial parhaus.
Meddai Nicky Hammond, Archifydd Casgliadau Arbennig PCYDDS:
“Mae gwybodaeth Debby am wlân yn hollgynhwysfawr, a’i brwdfrydedd yn heintus. Cewch agoriad llygaid i weld y myrdd o ffyrdd y defnyddir gwlân heddiw.”
Mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn gyfle diddorol i ddarganfod arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a chyfoes gwlân yng Nghymru, gan ddod â thrysorau archifol prin, treftadaeth leol a safbwyntiau newydd ar ddiwydiant traddodiadol at ei gilydd.
I wybod rhagor neu gadw lle, cysylltwch â Nicky Hammond, n.hammond@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476