Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal cystadleuaeth FIRST Tech Challenge yn ei Hadeilad IQ ar gampws SA1 Glannau Abertawe ddydd Sadwrn 14 Mawrth, gan groesawu 150 o bobl ifanc o bob cwr o’r rhanbarth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth STEM ysbrydoledig, ymarferol.

Three students and a lecturer involved in a robotics competition.

Mae’r digwyddiad yn rhan o FIRST Tech Challenge UK, sef rhaglen roboteg genedlaethol a ddarperir gan yr elusen addysg FIRST UK. Mae’r her yn dod â myfyrwyr 12–18 oed at ei gilydd, a’r rhain yn gweithio mewn timau i ddylunio, adeiladu a rhaglennu robotiaid i gwblhau her beirianneg fyd-eang, un sy’n seiliedig ar gystadlaethau.

Trwy gynnal y digwyddiad, mae PCYDDS yn cefnogi cenhadaeth FIRST UK i bontio’r bwlch rhwng addysg a diwydiant, gan helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer dyfodol ar lun awtomeiddio, data, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol. Dros gyfnod o chwe mis, mae timau sy’n cymryd rhan yn datblygu arbenigedd technegol ochr yn ochr â sgiliau bywyd hanfodol megis gwaith tîm, datrys problemau, creadigrwydd a gwytnwch, gyda chymorth athrawon a mentoriaid diwydiant.

Yn y gystadleuaeth yn Adeilad IQ bydd timau’n rhoi misoedd o ddysgu dan arweiniad myfyrwyr ar waith, gan arddangos eu datrysiadau peirianneg a’u harloesedd mewn amgylchedd prifysgol deinamig.

Mae campws Glannau Abertawe PCYDDS yn gartref i gymuned ddigidol ac arloesi sy’n tyfu, ac mae’r brifysgol yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion, colegau a phartneriaid diwydiant i ehangu cyfranogiad mewn pynciau STEM a mynd i’r afael â bwlch sgiliau’r DU.

Dwedodd Dr Kapilan Radhakrishnan, Cyfarwyddwr Academaidd Cyfrifiadura Cymhwysol: “Mae awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol yn trawsnewid y byd ar gyflymder digynsail, ac mae gan brifysgolion gyfrifoldeb i chwarae rhan weithredol wrth baratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer y dyfodol hwnnw. 

“Wrth gynnal cystadleuaeth FIRST Tech Challenge ar ein campws yng Nglannau Abertawe, y nod yw ysbrydoli hyder, creadigrwydd ac uchelgais pobl ifanc, a dangos iddyn nhw sut mae sgiliau STEM yn cysylltu’n uniongyrchol â gyrfaoedd yn y byd go iawn. Rydyn ni’n falch o ddarparu gofod lle mae addysg, diwydiant ac arloesi yn dod at ei gilydd i helpu pobl ifanc i fod wir yn barod i’r dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon