Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal cynhadledd ITT Future You Cymru i’r Byd yn Arena Abertawe ar 10 Mawrth, gan ddwyn myfyrwyr, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant ledled Cymru a Gorllewin Lloegr ynghyd i archwilio gyrfaoedd mewn twristiaeth, lletygarwch a’r diwydiannau gwasanaeth a chreadigol ehangach.

A student speaking at a lectern at an event, with a screen background.

Cyflwynir ITT Future You Cymru i’r Byd sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mewn partneriaeth ag Athrofa Teithio a Thwristiaeth (ITT) ac mae’n cael ei gefnogi gan ABTA a’r Athrofa Lletygarwch (IoH).   Mae’n rhan o ystod o ddigwyddiadau a drefnir ym mhrifysgolion ar draws y DU.   Y digwyddiad yng Nghymru yw’r gynhadledd ITT Future gyntaf a drefnir gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr, gan barhau i fod yn agored i weithwyr proffesiynol y diwydiant, prentisiaid ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ar draws y sector. 

Bydd y digwyddiad diwrnod yn cynnwys dau sesiwn cynhadledd, ffair yrfaoedd ryngweithiol ac arddangosfa diwydiant, gyda ffocws cryf ar brofiad yn y byd go iawn.  Mae’r siaradwyr yn cynnwys cyn-fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar a myfyrwyr presennol, sy’n rannu mewnwelediadau ar leoliadau, ymgysylltu â diwydiant, a theithiau astudio rhyngwladol, ochr yn ochr â chyflwyniadau a arweinir gan ddiwydiant a gweithdai a gyflwynir gan fyfyrwyr. 

Denodd y digwyddiad dros 600 o gynrychiolwyr ac arddangoswyr yn 2025, gan ei wneud y digwyddiad Future You mwyaf hyd yn hyn, gyda’r trefnwyr yn anelu at ragori ar y nifer hwnnw eleni.  Mae’r digwyddiad wedi ennill Digwyddiad Myfyrwyr Gorau 2023, roedd yn ail yn 2024 a 2025 a sicrhaodd y Bartneriaeth Addysg Orau gyda’r Athrofa Lletygarwch yn 2023. Yn ogystal, Canolfan Ragoriaeth PCCYS oedd y cyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan yr Athrofa Teithio a Thwristiaeth, cerrig filltir a fydd yn cael ei dathlu yn y gynhadledd eleni. 

Mae llwyddiant y digwyddiad wedi creu cydnabyddiaeth ryngwladol i fyfyrwyr gyda gwesteiwyr y llynedd yn cael eu gwahodd i Gynhadledd Fyd-eang ITT a digwyddiadau yn Nhŷ’r Arglwyddi a’r Tŷ Cyffredin fel gwesteion y Farwnes Ayesha Hazarika a’r Arglwydd Kinnock. 

Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, mae’r digwyddiad yn addo i fod yn fwy nag erioed gyda mwy o raglenni ar draws portffolio rheoli ac iechyd y Brifysgol, yn ogystal ag athrofeydd cysylltiedig yn y diwydiannau gwasanaeth a chreadigol, gan adlewyrchu ystod eang o sgiliau a llwybrau gyrfa yn y sector. 

Y tîm trefnu eleni yw myfyrwyr blwyddyn olaf ar gyrsiau BA Rheoli Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol BA Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol - Simon Canby, Carys Davies, Charlie McDonald, Nia Moore, Elijah Thomas a Wiktoria Kuciarska - sy’n cael eu cefnogi gan eu cyd-fyfyrwyr.  

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr y Rhaglen:  “Mae ITT Future You Cymru i’r Byd yn ymwneud â rhoi’r hyder, y rhwydweithiau, a’r mewnwelediad i’r byd go iawn sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lunio gyrfaoedd ystyrlon.  Yr hyn sy’n gwneud y digwyddiad hwn yn hynod arbennig yw ei fod yn cael ei ddylunio a’i gyflwyno gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr, gyda’r diwydiant yn gweithio ochr yn ochr â nhw fel partneriaid.  Mae gweld ein graddedigion yn dychwelyd i rannu eu teithiau a gwylio’r myfyrwyr presennol yn camu i fyny fel arweinwyr, yn hynod bwerus.  Mae’r digwyddiad yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd addysg, diwydiant ac uchelgais myfyrwyr yn dod ynghyd, ac rydym yn falch i arwain y gwaith hwn yng Nghymru fel Canolfan Ragoriaeth.”

Meddai Wiktoria Kiciarska: “Bod yn rhan o ITT Future Cymru i’r Byd yn gyfle anhygoel.  Fel myfyrwyr, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i gael mewnwelediad go iawn i’r diwydiannau rydym am weithio ynddynt, ac mae’r digwyddiad yn ymwneud â chreu’r bont rhwng astudio a gyrfa.  Bydd croesawu siaradwyr a oedd yn yr un sefyllfa â ni yn ddiweddar, a gweld myfyrwyr yn ymgysylltu â chyfleoedd yn hynod werthfawr.  Rydym yn falch i gynnal digwyddiad sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, ei lunio gan ddiwydiant a’i gynllunio i ysbrydoli hyder yn y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol.” 

Llwyddiant a Dilyniant Gyrfa Cyn-fyfyrwyr  

Mae’r profiad o drefnu’r digwyddiad wedi arwain llawer o gyn-fyfyrwyr i yrfaoedd llwyddiannus yn niwydiant twristiaeth y DU a rhyngwladol, gan ddangos effaith hirdymor y fenter.  

  • Mae graddedigion 2025 yn cynnwys Scott De Lloyd, a sicrhaodd leoliad Rheolaeth mewn Hyfforddiant a drefnwyd gan PCYDDS yn Old Edward Inn yng Ngogledd Carolina, UDA; Sinead Edwards, sydd bellach yn Swyddog Cynllunio Argyfyngau Sifil a’r Heddlu gyda Heddlu Gwent; Mia Johnson, sy’n astudio MBA yn PCYDDS ar hyn o bryd, ac Ethan Scriven, sy’n gweithio fel Gweinyddwr Grantiau Travelife ABTA.
  • Mae rheolwyr myfyrwyr 2024 wedi symud ymlaen i rolau megis Rhiannon Gratix, Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau yng Ngwesty Oxwich Bay; Chloe Griffiths , Cydlynydd Cynhyrchu Digwyddiadau yn Limitless Elim; ac Elinor Haskins, Rheolwr yn Crazy Characters.
  • Mae cyn-fyfyrwyr 2023 yn cynnwys Mel Bourke, sydd bellach yn Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Levy yn Stadiwm Swansea.com a Stadiwm Caerdydd; Amy Harris, a gwblhaodd raglen raddedigion a drefnwyd gan PCYDDS yng Nghyrchfan Sonnenal yn Vail, Colorado; Amanda Lewis, Cydlynydd Digwyddiad yn 4TheRegion Abertawe; a Joshua Wilson, sydd bellach yn gweithio i Shore Excursions ar gyfer Llongau Mordeithio Enwogion a Hays Travel Belfast.  

Archebu eich lle drwy Eventbrite 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon