Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu llwyddiant mawr  WorldSkills UK arall ar ôl i ddau brentis o’r partner diwydiant TT Electronics gymhwyso ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Melino CNC WorldSkills UK 2026.

Two apprentices in dark coloured clothing standing in a workshop.

Enillodd Finley Williams a Jaidon Bevan-German eu lleoedd ar ôl perfformiad rhagorol yn y rowndiau rhagbrofol cenedlaethol a byddant nawr yn cystadlu yn erbyn peirianwyr ifanc gorau’r DU yn y rowndiau terfynol, a gynhelir gan PCYDDS ar gampws SA1 Abertawe yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 16 Tachwedd. 

Mae’r cyflawniad yn adlewyrchu enw da PCYDDS fel arweinwyr mewn sgiliau gweithgynhyrchu uwch.  Mae’r Brifysgol, sy’n Bartner Trefnu WorldSkills UK ar gyfer Melino a Gweithgynhyrchu Haen ar Haen,  yn chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno cystadlaethau cenedlaethol sy’n arddangos rhagoriaeth dechnegol.  

Yn dilyn ei llwyddiant wrth gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Melino CNC yn 2025, mae PCYDDS unwaith eto yn croesawu talent newydd orau’r DU, wrth barhau a’i record hirsefydlog o lwyddiant myfyrwyr mewn cystadlaethau WorldSkills cenedlaethol a rhyngwladol. 

Yn ogystal, mae’r llwyddiant yn tynnu sylw at gryfder partneriaeth gynyddol PCYDDS â TT Elecronics. Mae safle’r cwmni  yn Abercynon yn cynhyrchu cydrannau peirianyddol uwch ar gyfer marchnadoedd byd eang gan gynnwys y sectorau amddiffyn a’r rheilffyrdd. 

Meddai Lee Pratt, Rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch yn PCYDDS:  “Mae gweld dau brentis Electronics TT yn cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn gyflawniad ardderchog ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad a ddangosir gan y prentisiaid eu hunain, eu cyflogwr a phawb sydd yn ymwneud a’u datblygiad. Rydym yn falch i gefnogi cystadleuwyr ar eu taith WorldSkills ac yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr yn y rownd derfynol o bob cwr o’r DU i’n campws SA1 ym mis Tachwedd.”

Meddai Nathan Hicks, Pennaeth Gweithrediadau yn TT Electronics:  “Rydym yn hynod falch o Finley a Jaidon am gyrraedd Rowndiau Terfynol Melino CNC WorldSkills UK. Mae eu cyflawniad yn dyst i’r ymroddiad, y sgil a’r penderfyniad maent wedi’i ddangos trwy gydol eu prentisiaeth, yn ogystal ag ansawdd y cymorth a ddarparwyd trwy ein partneriaeth gyda PCYDDS.  

“Mae buddsoddi mewn prentisiaid yn ganolog i’n hymrwymiad i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent beirianyddol, ac mae cyfleoedd fel WorldSkills UK yn caniatáu iddynt arddangos eu galluoedd ar lwyfan genedlaethol.  Rydym yn dymuno bob lwyddiant i’r ddau brentis yn y rowndiau terfynol ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cynrychioli TT Electronics ym mis Tachwedd eleni.”

Mae llwyddiant parhaus y Brifysgol yn WorldSkills UK yn adlewyrchu ei hymrwymiad i roi i’r myfyrwyr y sgiliau technegol lefel uchel a geisir gan gyflogwyr, ochr yn ochr ag adeiladu partneriaethau cryf sy’n cefnogi arloesi, cynhyrchiant, a dyfodol gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon