Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn nodi Wythnos Brentisiaethau Cymru 2026, sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Chwefror, drwy rannu straeon ysbrydoledig am ei phrentisiaid a’i phartneriaid cyflogwyr. Bydd hyn yn tynnu sylw at yr effaith bwerus y mae prentisiaethau yn ei chael ar yrfaoedd, busnesau, ac economi ehangach Cymru. 

A smiling student standing against a glass bannister in a building.

Mae Wythnos Brentisiaeth Cymru yn ddathliad blynyddol dros wythnos gyfan sy’n dod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a rhieni ynghyd i gydnabod y rôl hanfodol y mae prentisiaethau yn ei chwarae ledled Cymru.  Yn ystod yr wythnos, bydd PCYDDS yn arddangos profiadau go iawn sy’n dangos sut mae prentisiaethau’n creu cyfleoedd, datblygu sgiliau lefel uchel ac yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy.

O dan y thema genedlaethol “Prentisiaethau.  Gwnewch Rywbeth Clyfar,” bydd ymgyrch y Brifysgol yn tynnu sylw ar brentisiaid sy’n symud ymlaen yn eu gyrfaoedd drwy ddysgu ymarferol, ochr yn ochr â chyflogwyr sy’n elwa o weithlu medrus, llawn cymhelliant sy’n barod ar gyfer y dyfodol. 

Meddai Matthew Wicker, Pennaeth Prentisiaethau yn PCYDDS: “Mae prentisiaethau yn PCYDDS yn cyfuno dysgu academaidd gyda phrofiad ymarferol yn y gweithle, gan alluogi unigolion i ennill arian wrth ddysgu ac ennill sgiliau swydd-benodol sy’n diwallu anghenion diwydiannau heddiw.   I gyflogwyr, mae prentisiaethau’n cynnig ffordd gost-effeithiol i recriwtio, datblygu a chadw talent, gan lunio sgiliau sy’n cyd-fynd â’u busnes a’u sector. 

“Drwy weithio’n agos gyda chyflogwyr ar draws ystod eang o sectorau, mae PCYDDS yn sicrhau bod ei darpariaeth brentisiaethau yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion economi Cymru.  O ddatblygu arbenigedd technegol i feithrin hyder arweinyddiaeth a phroffesiynol, mae prentisiaethau’n chwarae rhan ganolog wrth gefnogi cynhyrchiant, arloesi a llwyddiant hirdymor. 

Wrth i Gymru ddod at ei gilydd i gydnabod gwerth prentisiaethau, mae PCYDDS yn falch o hyrwyddo’r dysgwyr a’r cyflogwyr sy’n dangos pob dydd pam mae dewis prentisiaeth yn benderfyniad athrylith mewn gwirionedd.  

Yma, mae dau o’n prentisiaid yn rhannu eu teithiau dysgu :

Mae Amina Meah yn brentis ar y radd-brentisiaeth ddigidol yn y Drindod Dewi Sant ac yn astudio am radd ran-amser mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) ac yn gweithio ar yr un pryd, gan gael profiad amhrisiadwy yn y diwydiant, ac ennill cyflog.

Dywedodd Amina ei bod wedi cael ei denu at y cwrs oherwydd byddai’n ei galluogi i astudio gan weithio’n amser llawn ar yr un pryd.

Meddai: “Rwyf bob amser wedi mwynhau gweithio felly pan oeddwn yn chwilio am gwrs roeddwn bob amser yn edrych ar gyrsiau rhan-amser oherwydd roeddwn i’n gwybod y byddai hyn yn fwy addas i mi na chwrs amser llawn. Pan ddes i ar draws y radd-brentisiaeth mewn cyfrifiadura, honno oedd yr union beth roeddwn i’n chwilio amdano. Rydych yn dechrau gyda modwl ar bob llwybr a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych chi ar y llwybr iawn i chi, ond hefyd rhoddodd ddealltwriaeth i mi am lwybrau eraill megis peirianneg meddalwedd a seiberddiogelwch. 

“Ar hyn o bryd rwyf ar y llwybr systemau data a gwybodaeth, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn. Rwy’n gobeithio y byddaf yn datblygu fy ngwybodaeth am wyddor data ac yn cael gwybodaeth werthfawr ym maes gwyddor data.”

Mae Joseph Tobin,  Gradd-brentis BEng Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg  ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn cyfuno rhagoriaeth academaidd ag arweinyddiaeth ymarferol yn y diwydiant yn Tata Steel UK, gan ei nodi’n un o’r gweithwyr proffesiynol ifanc mwyaf addawol yn sector gweithgynhyrchu a pheirianneg y DU.

Ac yntau’n ddim ond 25 oed, mae llwybr gyrfa Joseph wedi bod yn rhyfeddol yn barod. Gan ymuno’n wreiddiol fel prentis labordy yn 16 oed, mae e bellach yn gwasanaethu fel Arbenigwr Cynhyrchu a Dirprwy Reolwr Cynhyrchu ar safle’r cwmni yn Llanwern. Gan gefnogi rheolaeth adran 100 o bobl sy’n cynnwys y Llinell Gorffen Modurol o’r radd flaenaf, yn ogystal â gweithgareddau anfon a derbyn coiliau, mae Joseph yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo effeithlonrwydd prosesau, diogelwch ac arferion gweithgynhyrchu cynaliadwy.

Yn weithiwr dur pedwaredd genhedlaeth o Bort Talbot, mae cysylltiad Joseph â’r diwydiant yn ddwfn.

“Mae gwneud dur wedi bod yn rhan o fy nheulu ers cenedlaethau,” meddai. “Rydw i wedi tyfu i fyny wedi fy amgylchynu ganddo, ac rwy’n angerddol am barhau â’r etifeddiaeth honno, ond hefyd am ei yrru ymlaen i ddyfodol gwyrddach, mwy arloesol.”

Dewisodd Joseph astudio’r cwrs yn y Drindod Dewi Sant i ddyfnhau ei ddealltwriaeth dechnegol a chryfhau sylfeini ei yrfa.

“Roedd y cwrs yn cynnig cydbwysedd perffaith rhwng theori academaidd a defnydd ymarferol,” meddai. “Mae’n uniongyrchol berthnasol i’m gwaith yn y diwydiant dur ac mae wedi fy helpu i gysylltu’r hyn rwy’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth â heriau go iawn y diwydiant.”

A smiling graduate dressed in protective clothing standing in a work environment.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon