PCYDDS mewn partneriaeth ag Ysgol Dyffryn Taf i Gyflwyno Prosiect Ymchwil Gofal Plant 12 awr Ysbrydoledig
Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Dyffryn Taf i gyflwyno prosiect ymchwil Gofal Plant 12 awr, gan roi profiad dysgu diddorol a throchol i 21 o fyfyrwyr Blwyddyn 10.
Yn ystod y prosiect, a gynhaliwyd o fis Ionawr i fis Mawrth, gwelwyd darlithwyr Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg PCYDDS, sef Glenda Tinney a Natasha Morgans, yn cyflwyno gwersi seiliedig ar theori sy’n gysylltiedig â maes llafur TGAU Gofal Plant. Rhoddodd y sesiynau fewnwelediad academaidd gwerthfawr wrth gyflwyno myfyrwyr i ddull addysgu mewn arddull prifysgol.
Roedd y prosiect hefyd yn cefnogi ymrwymiad PCYDDS i ehangu mynediad i addysg uwch. Trwy ymgysylltu â myfyrwyr yn gynnar, nod y rhaglen oedd dangos bod y brifysgol yn gyraeddadwy ac yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u cefndir. Fe wnaeth cwrdd â staff academaidd, profi dysgu mewn arddull prifysgol, a chael gwell dealltwriaeth o addysg uwch helpu i feithrin hyder, codi dyheadau, a chwalu rhwystrau rhag cynnydd.
Ym mis Mawrth, aeth myfyrwyr i Ysgol Goedwig yn Singleton mewn partneriaeth ag Ysgol Goedwig Abertawe Castell-nedd Port Talbot. Rhoddodd yr ymweliad brofiad uniongyrchol i fyfyrwyr o amgylchedd dysgu amgen a dangosodd sut mae addysg awyr agored yn cysylltu â theori ac arfer plentyndod, gan dynnu sylw at werth dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Daeth y rhaglen i ben gydag ymweliad â champws PCYDDS, lle cafodd myfyrwyr eu cyflwyno i fywyd prifysgol drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys cwis, trosolwg o astudio Gofal Plant yn PCYDDS, taith o’r campws ac ymweliad â’r Ystafell Drochol. Daeth y diwrnod i ben gyda seremoni raddio arbennig yn dathlu cyflawniadau’r myfyrwyr, sy’n rhywbeth y gallant gyfeirio atynt mewn ceisiadau yn y dyfodol.
Dywedodd y Darlithwyr Glenda Tinney a Natasha Morgans; “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i adeiladu cysylltiadau cryfach ag un o’n hysgolion uwchradd lleol. Roedd hefyd yn gyfle i rannu cynnwys a all gefnogi taith ddysgu y myfyrwyr ac yn tynnu sylw at sut mae astudiaethau prifysgol yn hygyrch ac yn gynhwysol i ystod o ddysgwyr.
“Roedd sesiynau rhyngweithiol yn seiliedig ar chwarae a phynciau plentyndod ac addysg eraill yn ein galluogi i rannu gyda myfyrwyr Dyffryn Taf y mathau o weithgareddau ac arddulliau dysgu sy’n adlewyrchu ein darlithoedd israddedig ein hunain hefyd.
“Roedd grŵp myfyrwyr Dyffryn Taf yn wych, yn dangos diddordeb ac yn frwdfrydig. Mae hyn wedi gwneud y misoedd diwethaf yn uchafbwynt go iawn. Roedd Natasha a finnau yn edrych ymlaen at ein sesiynau yn yr ysgol ac rydym wedi dysgu tipyn o’r profiad.
“Mae mynd allan i ysgolion lleol a sefydliadau eraill yn allweddol i ddatblygu partneriaethau â’n cymunedau lleol, a gobeithiwn y gellir datblygu’r prosiect hwn ymhellach yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Anna Stephens, Swyddog Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr, a drefnodd y prosiect: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 10, gan eu hysbrydoli i anelu at gyfleoedd addysg uwch. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r adran a’u gweld yn arddangos y dysgu sy’n digwydd yma yn y Brifysgol. Roedd y myfyrwyr o Ysgol Dyffryn Taf yn glod i’r ysgol, gan ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol drwy gydol y prosiect.”
Canmolodd Sophie Palmer, Pennaeth Iechyd a Llesiant ac Athrawes Ddosbarth yn Nyffryn Taf, y fenter hefyd: “Mae’r rhaglen wedi bod yn ardderchog, ac mae myfyrwyr wedi dychwelyd o’u hymweliad campws wrth eu bodd ac wedi’u hysbrydoli. Mae llawer eisoes wedi gwneud sylwadau ar sut yr hoffent fynychu PCYDDS yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at redeg y prosiect eto’r flwyddyn nesaf.”
Dywedodd un myfyriwr: “Mae’r cwrs hwn wedi addysgu llawer o bethau pwysig i mi ac wedi agor fy llygaid i gyfleoedd.”
Mae’r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus PCYDDS i ehangu cyfranogiad, cryfhau partneriaethau cymunedol, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071