Skip page header and navigation

Mae ymchwil Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn adlewyrchu tystiolaeth fyd-eang frawychus nad oes gan fwy na 70% o blant sgiliau symud i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

a training BFS session

Mae’r Gynghrair Fyd-eang ar gyfer Clefydau Cronig yn dangos bod hyd at 70% o farwolaethau oedolion y gellir eu hatal o glefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw (Clefydau Anhrosglwyddadwy) yn gysylltiedig â ffactorau risg sy’n tarddu o blentyndod a llencyndod. Gall ymyriadau sy’n gallu rheoli neu atal clefydau cronig mewn pobl ifanc wella canlyniadau iechyd yn ddramatig yn ddiweddarach mewn bywyd.

Dywedodd Dr Nalda Wainwright, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol PCYDDS:

“Mae’r diffyg sgiliau symud mewn plant ifanc yn fater argyfyngus. Os nad ydym yn gweithredu i wrthdroi’r duedd fyd-eang bryderus hon, rydym yn peryglu iechyd pobl yn y dyfodol.  Y newyddion da yw bod gennym ateb sy’n gweithio. Gan adeiladu ar ddegawdau o waith sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae cwrs hyfforddi PCYDDS yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i hyfforddwyr sy’n gwella sgiliau symud plant yn gyflym, sy’n golygu y gallant gael mynediad llwyddiannus a llawn mwynhad i chwaraeon.”

Gan weithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru a rhanddeiliaid chwaraeon cymunedol, mae PCYDDS wedi datblygu’r cwrs Adeiladu Sylfeini ar gyfer Chwaraeon (ASCh). Mae’r cwrs ASCh yn adeiladu ar raglen llythrennedd corfforol plentyndod cynnar hirsefydledig PCYDDS, sef SKIP-Cymru, sydd eisoes wedi dangos effaith gadarnhaol ar ganlyniadau plant drwy gefnogi gwell sgiliau symud, hyder ac ymgysylltiad.

Mae BFS yn hyfforddi hyfforddwyr i ddadansoddi sgiliau echddygol ac addasu gweithgareddau i bob plentyn gael mwynhad a llwyddiant. Nid yw’r cwrs hwn yn benodol i unrhyw un chwaraeon, ond mae’n gosod y sylfeini hanfodol sydd eu hangen ar blant i gymryd rhan mewn pob maeth o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Hyd yn hyn, mae PCYDDS wedi darparu hyfforddiant ASCh i dros 450 o hyfforddwyr ledled Cymru ac wedi cydweithio â cholegau addysg bellach i ddarparu hyfforddiant rhad ac am ddim i dros 250 o fyfyrwyr yn Ne Cymru.

Mae Chwaraeon Cymru yn hyrwyddo’r ASCh fel cwrs craidd. Mae hyn yn cefnogi’r gwaith o roi Fframwaith Sylfeini Cenedlaethol Cymru ar waith. Mae’r Fframwaith yn ganllaw arfer da i bawb sy’n darparu gweithgareddau corfforol a chwaraeon i blant 3 i 11 oed. 

Mae Dr Wainwright, a ddyfynnwyd yn y Fframwaith Sylfeini, yn tynnu sylw at bwysigrwydd y dull hwn o helpu oedolion i greu profiadau symud cadarnhaol a chynhwysol sy’n cefnogi datblygiad plant, ac nid dim ond cymryd rhan.

 “Mae’n rhaid i ni ddal cymhelliant naturiol plant tra maen nhw’n ifanc, pan fyddant yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth! Yn union fel sgiliau academaidd eraill, mae angen cyfarwyddyd sy’n briodol i’w cyfnod datblygiad a chyfleoedd i ymarfer sgiliau mewn amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer hyfedredd mewn Sgiliau Symud Sylfaenol (SSS). Mae plant sydd ag oedi yn natblygiad eu Sgiliau Symud Sylfaenol yn llai tebygol o fod yn gorfforol egnïol nawr ac yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon