Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi arddangos ei rhaglen datblygiad echddygol plentyndod cynnar arloesol mewn cynhadledd ryngwladol fawr ym Mrasil, gan dynnu sylw at sut mae mwy na 15 mlynedd o ymchwil yng Nghymru yn cael ei droi’n arfer drwy ddatblygiad proffesiynol sy’n gwella sgiliau symud, llythrennedd corfforol ac iechyd gydol oes plant.

Nalda and Amanda in front of the conference sign

Cynrychiolodd Dr Nalda Wainwright a Dr Amanda John PCYDDS yn 7fed Cynulliad y Consortiwm Ymchwil Datblygiad Echddygol Rhyngwladol (I-MDRC 7), a gynhaliwyd yn Florianópolis, Brasil. Daeth y gynhadledd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr rhyngwladol o 6 chyfandir ynghyd i archwilio sut y gellir troi gwybodaeth am ddatblygiad echddygol yn ganlyniadau gwell ar hyd oes unigolion.

Gwahoddwyd Dr Wainwright i siarad mewn symposiwm, lle rhannodd sut mae ymchwil a wnaed yng Nghymru wedi llywio’r broses o ddatblygu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o addysg symudiadau plentyndod cynnar.

Gan dynnu ar fwy na 30 mlynedd o ymchwil yn y maes, tynnodd ei chyflwyniad sylw at bwysigrwydd datblygu sgiliau symud sylfaenol yn y blynyddoedd cynnar a’r rôl y mae oedolion yn ei chwarae wrth ddarparu’r cyfleoedd a’r profiadau cywir i blant.

image of Nalda presenting at the symposium

Un ffocws allweddol oedd SKIP Cymru (Cyfarwyddyd Cinesthetig Llwyddiannus i Blant Cyn-ysgol yng Nghymru), rhaglen datblygiad proffesiynol seiliedig ar dystiolaeth sy’n arfogi athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar â’r wybodaeth a’r hyder i gefnogi datblygiad echddygol plant. 

Nododd yr ymchwil fylchau sylweddol yn sgiliau symud sylfaenol plant yng Nghymru hyd yn oed mewn lleoliadau seiliedig ar chwarae, gan ddangos nad yw cyfleoedd i chwarae ar eu pennau eu hunain yn ddigonol. Mae hefyd angen gweithgareddau addas, cyfarwyddiadau ac amgylcheddau cefnogol ar blant er mwyn datblygu sgiliau hanfodol. 

Dangosodd Dr Wainwright sut mae ymchwil PCYDDS wedi symud y tu hwnt i nodi heriau i ddatblygu a gwerthuso atebion ymarferol. Nodwedd unigryw o’r dull yng Nghymru yw rhoi ymchwil ar waith drwy ddatblygiad proffesiynol, ymyriadau blynyddoedd cynnar a chydweithio ar draws addysg, iechyd, chwaraeon a theuluoedd.

Tynnodd y cyflwyniad sylw hefyd at fentrau gan gynnwys Building Foundation for Sport a Mini Movers, sy’n dod â gwahanol sectorau at ei gilydd ac yn trawsnewid llythrennedd corfforol plant o oedran ifanc. Mae’r ap Mini Movers hefyd wedi’i gyfieithu i Bortiwgaleg a Sbaeneg Brasil, gan ymestyn cyrhaeddiad adnoddau a ddatblygwyd yng Nghymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol newydd.

Nalda's presentation

Roedd cyfraniad PCYDDS hefyd yn cynnwys cyflwyniad poster o ymchwil PhD Dr Alan Samuel i Nodweddion Newid Ymddygiad yr ap MiniMovers.

Dywedodd Dr Wainwright:

“Gyda’r dirywiad yn sgiliau echddygol plant bellach yn broblem fyd-eang, mae gwaith PCYDDS yma yng Nghymru o ddiddordeb mawr yn rhyngwladol. Rydym yn gwybod bod sgiliau echddygol yn cefnogi mwy na gweithgarwch corfforol ac iechyd yn unig, a’u bod yn effeithio ar barodrwydd am yr ysgol a chysylltiadau â niwroamrywiaeth. Gyda phwysau cynyddol ar systemau addysg ac iechyd, mae cefnogi’r sgiliau hyn yn ystod plentyndod cynnar yn bwysicach nag erioed”

Ymchwil sy’n dangos effaith barhaol

Cyflwynodd Dr Amanda John hefyd bapur yn archwilio effaith hirdymor datblygiad proffesiynol SKIP Cymru ar gymhwysedd echddygol plant.

Roedd yr astudiaeth Successful Kinaesthetic Instruction for Preschoolers (SKIP Cymru): Evaluating the Long-term Impact of SKIP Teacher Professional Development on Children’s Motor Competence, yn cymharu plant a addysgwyd gan athrawon a oedd wedi cwblhau hyfforddiant SKIP Cymru gyda’r rhai nad oedd eu hathrawon wedi derbyn hyfforddiant sgiliau echddygol arbenigol.

Amanda and Nalda showing poster presentation

Dangosodd y canfyddiadau fod plant a addysgwyd gan athrawon sydd wedi’u hyfforddi gan SKIP Cymru yn dangos cymhwysedd echddygol sylweddol well na’r rhai yn y grŵp cymharu.

Un peth pwysig i nodi; roedd athrawon yn dal i gyflwyno’r rhaglen rhwng chwech a 31 mis ar ôl cwblhau eu hyfforddiant, gan ddangos sut y gall datblygiad proffesiynol gael ei ymgorffori mewn arfer addysgu hirdymor.

Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu gwerth buddsoddi mewn athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar i wella profiadau a deilliannau symud plant, gan dynnu sylw at sut y gall ymchwil a ddatblygwyd yng Nghymru wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant.

Dywedodd Dr Amanda John:

“Dangosodd mynychu’r gynhadledd sut mae ein dull traws-sector yn unigryw yn fyd-eang. Trwy ddod ag addysg, iechyd, hyfforddwyr chwaraeon a theuluoedd at ei gilydd, gallwn drawsnewid sgiliau echddygol a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.”  


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon