Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu aelodau o CBI Cymru i’w champws yn SA1Glannau Abertawe ar gyfer ei chyfarfod Chwarter 4 Gorllewin Cymru. Trafododd y cyfarfod gryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg uwch a busnes, datblygu sgiliau at y dyfodol, a chefnogi twf economaidd ledled Cymru.

A large group of people seated around a long table.

Yn bresennol yn y cyfarfod roedd yr Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol, a oedd yn awyddus i archwilio blaenoriaethau cyffredin PCYDDS a CBI Cymru a rôl addysg a diwydiant wrth baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod yr ymweliad, aeth aelodau ar daith o amgylch Adeilad IQ y Brifysgol, gan gael cipolwg ar y cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n cefnogi dysgu, arloesi ac ymgysylltu myfyrwyr â diwydiant.

Wrth groesawu aelodau’r CBI, dywedodd yr Athro Davies: “Mae datblygu’r sgiliau a’r dalent sydd eu hangen ar gyfer economi sy’n newid yn gyflym yn flaenoriaeth a rennir i PCYDDS a CBI Cymru. Mae dod ag arweinwyr busnes ac academyddion at ei gilydd yn hanfodol os ydym am sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Roeddem yn falch iawn o gynnal yr ymweliad ac arddangos ein cyfleusterau, gan dynnu sylw at ffyrdd niferus mae PCYDDS yn cefnogi arloesi, datblygu arweinyddiaeth, a thwf economaidd ledled Cymru.”

Rhoddodd yr ymweliad gyfle i adeiladu ar y berthynas sefydledig rhwng y Brifysgol a CBI Cymru, gyda ffocws a rennir ar sicrhau bod addysg uwch a busnes yn parhau i weithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion newidiol economi Cymru.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon