Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod cwmni cynhyrchu amlgyfrwng, Telesgop, wedi ymuno â chymuned o fusnesau digidol a chyfryngol sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan S4C Yr Egin.

A group photo of the Telesgop staff

Wedi’i lleoli ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol, mae’r Egin yn hwb diwylliannol a chreadigol bywiog lle gall ymarferwyr ac entrepreneuriaid o ddisgyblaethau amrywiol rannu adnoddau, datblygu eu busnesau a meithrin talent. Mae’r Egin yn cynnig lleoliad delfrydol i Telesgop gysylltu â sefydliadau o’r un anian a’r 11 cwmni arall sydd eisoes wedi’u lleoli yn y ganolfan.

Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Elwen Evans CB:

“Rydym yn falch iawn o groesawu cwmni Telesgop i’r Egin. Mae’r cwmni yn uchel ei barch yn y diwydiant ac yn adnabyddus inni gyd am ei chynnyrch o safon ar gyfer radio a’r sgrin.  Maent yn ymuno â chymuned greadigol lewyrchus yr Egin sydd â chydweithio a chyd-gynhyrchu yn greiddiol iddi. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Telesgop a’i staff yn gaffaeliad mawr i’r gymuned honno ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r Brifysgol yn ehangach.”

Mae Telesgop yn gwmni profiadol sydd wedi meithrin enw da am raglenni o ansawdd uchel gydag arbenigedd mewn rhaglenni dogfen, megis Gronyn Gobaith/ Peace Particle,  Ryan Jones; rhaglenni ffeithiol arbenigol  - megis Ffermio, Cneifio; rhaglenni adloniant ffeithiol; Eisteddfod CFFI a’r Ŵyl Gerdd Dant;  a rhaglenni plant megis Fferm Fach

Mae gan Telesgop enw da hefyd ers blynyddoedd maith ym maes cynhyrchu radio, gan gynhyrchu dros 700 awr o gynnwys y flwyddyn ar gyfer rhwydweithiau’r BBC;  BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 2. 

Mae’r cynyrchiadau’n amrywio o sioeau cylchgrawn byw wythnosol fel Troi’r Tir, Y Bwletin Amaeth ac Ifan Jones Evans, Country Focus a rhaglenni dogfen fel Women in Country: Her Voice Her Story, Yfory Newydd a The Showstopper.

Mae Telesgop hefyd â phrofiad helaeth o weithio yn y maes corfforaethol ac hefyd yn cynhyrchu deunyddiau addysgol digidol. 

Gyda Chaerfyrddin a’r Egin  bellach yn bencadlys i’r cwmni mi fydd 20 o staff y cwmni yn gweithio o’r swyddfa newydd.

Meddai Ffion Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgop: 

“Mae gan Telesgop wreiddiau dwfn yng ngorllewin Cymru, gan i’r cwmni ddechrau 33 mlynedd nôl yn Llandeilo, felly mae symud ein swyddfeydd i’r Egin yn gam naturiol a chyffrous i ni. Mae’r adeilad wedi dod yn ganolfan pwysig i’r diwydiannau creadigol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned honno. I ni, mae symud yma’n fwy na dim ond newid swyddfa – mae’n gyfle i weithio ochr yn ochr â chwmnïau creadigol eraill, S4C, Prifysgol Cymru y  Drindod Dewi Sant, datblygu syniadau newydd a pharhau i greu cynnwys o ansawdd uchel o Orllewin Cymru.” 

Mae’r symudiad cyffrous hwn yn plannu Telesgop yng nghanol cymuned fywiog o arloeswyr, entrepreneuriaid ac addysgwyr, fydd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a thyfiant ar draws amrywiaeth o sectorau.

Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:

“Mae’n bleser gweld Telesgop yn ymuno â chymuned Canolfan S4C Yr Egin. Mae’r Egin yn le sy’n dod â syniadau, pobl greadigol a chyfleoedd at ei gilydd, felly mae’n braf gweld cwmni profiadol fel Telesgop yn dewis ymgartrefu yma.

“Mae cefnogi talent a busnesau ar draws Cymru gyfan yn bwysig i ni, ac mae’n wych gweld Yr Egin yn datblygu’n le sy’n creu cyfle go iawn i gwmnïau fel Telesgop ffynnu.”

Am fwy o wybodaeth am Telesgop a’u gwasanaethau, ewch i www.telesgop.cymru   

Am ragor o wybodaeth am ofodau swyddfa, cyfleusterau llogi desg a chyfleoedd i logi stafell gyfarfod, gofod cynhadledd neu adnoddau ôl-gynhyrchu yn Yr Egin, ewch i’r wefan yregin.cymru neu cysylltwch drwy anfon e-bost at helo@yregin.cymru


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon