Skip page header and navigation

Yn  ddiweddar, mae tîm  Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi darparu hyfforddiant datblygu proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar a datblygiad iaith i ymarferwyr addysg ledled Awdurdod Lleol Sir Benfro.

Natasha Young providing training session for teachers

Mae dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi addysgu effeithiol a gwella deilliannau i blant. Mae datblygiad iaith a llythrennedd, yn enwedig, yn ganolog i gynnydd addysgol plant. Mae creu amgylcheddau cyfoethog eu hiaith sy’n cefnogi chwarae, adrodd straeon a rhyngweithio ystyrlon yn cael ei gydnabod yn eang fel arfer da, er y gall y meysydd hyn fod yn anodd eu blaenoriaethu o fewn gofynion y diwrnod ysgol.

Roedd yr hyfforddiant, a gyflwynwyd gan Alison Rees Edwards a Natasha Young o PCYDDS, yn cefnogi ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, cynradd a chymorth i deuluoedd. Roedd y sesiynau yn tynnu ar ymchwil gyfredol, theori a phrofiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, gyda phwyslais cryf ar chwarae, stori a darparu cyfleoedd i blant siarad, rhyngweithio ac ymgysylltu.

teachers in a training session

Anogwyd y cyfranogwyr i ystyried dysgu o safbwynt y plentyn ac i adfyfyrio ar sut y gall amgylcheddau ystafell ddosbarth a rhyngweithiadau oedolion gefnogi datblygiad iaith. Defnyddiwyd gweithgareddau ac enghreifftiau ymarferol trwy gydol y sesiynau i ddangos dulliau sy’n effeithiol ac yn hawdd eu rheoli o fewn arfer pob dydd.

Meddai Alison Rees Edwards:

“Roeddwn yn wirioneddol falch o gael gwahoddiad i rannu ein gwybodaeth a’n hangerdd dros ddatblygu iaith gyda grŵp mor amrywiol o ymarferwyr—o athrawon a chynorthwywyr addysgu i dimau Dechrau’n Deg ledled Sir Benfro. Mae cefnogi plant ag oedi wrth ddatblygu iaith yn rhan gynyddol bwysig o’u gwaith, ac roedd yn galonogol gweld pa mor ymroddedig yw ymarferwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth yn y maes hwn.

“Mae’r rhan fwyaf o’r mynychwyr wedi mynegi pryderon gwirioneddol am fynediad cynyddol plant at ffonau symudol a dyfeisiau digidol eraill, a sut y gall hyn effeithio’n negyddol ar gyfathrebu cynnar. Gwnaeth y trafodaethau hyn ein hatgoffa pam ei bod mor bwysig paratoi ymarferwyr i greu amgylcheddau cyfoethog, ymatebol, lle mae iaith yn cael ei feithrin.

“Fe wnes i fwynhau’n fawr trafod camau normadol datblygiad iaith a thynnu sylw at y damcaniaethwyr iaith y mae eu mewnwelediadau yn parhau i siapio arfer effeithiol heddiw. Roedd yn fraint bod yn rhan o ddeialog broffesiynol mor ystyrlon, ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r cydweithwyr a’r ymarferwyr ymroddedig hyn yn y dyfodol.”

teachers in a training sessopm

Ychwanegodd Natasha Young:

“Roedd nifer dda yn bresennol yn y gweithdy Sgiliau Iaith a Chyn Darllen ac roedd lefel yr ymgysylltu drwy gydol y sesiwn yn galonogol. Roedd yn dda rhannu syniadau a strategaethau ymarferol gydag ymarferwyr sy’n amlwg wedi ymrwymo i gefnogi plant a theuluoedd gyda datblygiad iaith. Roedd yr egni yn yr ystafell wedi ei gwneud yn sesiwn wirioneddol ysbrydoledig.”

Tynnodd adborth gan gyfranogwyr sylw at werth y cydbwysedd rhwng theori, ymchwil a gweithgareddau ymarferol, yn ogystal â’r ffocws ar adrodd straeon:

I lawer o’r cyfranogwyr, roedd yn gyfle i rwydweithio, rhannu profiadau o’u harfer eu hunain ac i ddatblygu eu dysgu a’u gweithgareddau ymarferol eu hunain sy’n gysylltiedig â datblygu iaith plant, gydag un pennaeth yn disgrifio’r hyfforddiant fel un ‘o’r radd flaenaf.’

Mae’r adborth yn adlewyrchu pwysigrwydd hyfforddiant proffesiynol sy’n seiliedig ar realiti’r ystafell ddosbarth ac sy’n cynnig syniadau ac enghreifftiau ymarferol wedi’u llywio gan yr ymchwil diweddaraf.  Roedd y sesiynau’n rhyngweithiol ac yn gyfranogol, gan adlewyrchu’r disgwyliadau a nodir yn y Cwricwlwm i Gymru a CFFNMS.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru (2022) yn nodi y dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio iaith i ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi dealltwriaeth ac adeiladu perthnasoedd. Roedd yr hyfforddiant yn darparu enghreifftiau ymarferol o sut y gellir cefnogi’r cyfleoedd hyn yn effeithiol mewn ymarfer bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau neu gyfleoedd datblygu proffesiynol PCYDDS, cysylltwch ag info@uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon