PCYDDS yn Dathlu Llwyddiant Eithriadol yng Ngwobrau Whatuni Student Choice 2026
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu perfformiad eithriadol yng Ngwobrau Whatuni Student Choice (WUSCAs) 2026, gan gyrraedd y safleoedd uchaf mewn nifer o gategorïau allweddol ym maes profiad myfyrwyr.
Daeth PCYDDS yn:
- 1af yn y DU am Ragolygon Gyrfa
- 1af yn y DU am Neuaddau Prifysgol
- 3ydd yn y DU am yr elfen Ryngwladol
- 3ydd yn y DU am Ansawdd Darlithwyr ac Addysgu
- 5ed yn y DU am Gymorth Myfyrwyr
- 10fed yn y DU am astudiaethau Ôl-raddedig
Mae’r canlyniadau’n parhau â record gref a chyson PCYDDS o gyflawni yn y gwobrau hyn sydd dan arweiniad myfyrwyr, ac sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar adolygiadau a phrofiadau myfyrwyr.
Cydnabyddir Gwobrau Whatuni Student Choice yn eang fel un o’r dangosyddion pwysicaf o foddhad myfyrwyr mewn addysg uwch yn y DU, gan dynnu ar ddegau o filoedd o adolygiadau myfyrwyr annibynnol o bob rhan o’r sector.
Meddai’r Athro Mirjam Plantinga, Pro Is-Ganghellor PCYDDS dros Addysg:
“Mae’r gwobrau hyn yn arbennig o ystyrlon gan mai ein myfyrwyr ein hunain sy’n pleidleisio amdanynt. Maent yn gymeradwyaeth bwerus o’r profiad myfyrwyr yr ydym yn ymdrechu i’w ddarparu: un sy’n gefnogol, yn ddifyr ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn y byd go iawn.
“Rydym yn arbennig o falch o gyrraedd y brig am ragolygon gyrfa, sy’n adlewyrchu ein cydweithrediad hirsefydlog â diwydiant a chyflogwyr. Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio o amgylch anghenion cyflogwyr i sicrhau bod ein graddedigion yn ein gadael gyda’r sgiliau, y profiad a’r hyder i lwyddo yn eu gyrfaoedd.
“Rydym hefyd yn falch iawn o ddod yn drydydd am ansawdd darlithwyr ac addysgu, ac yn bumed am gefnogaeth myfyrwyr. Mae hyn yn gydnabyddiaeth glir o’n hymrwymiad i ddarparu profiad dysgu rhagorol a chefnogi pob myfyriwr i gyflawni eu potensial llawn.”
Mae’r gwobrau diweddaraf hyn yn ychwanegu at restr gynyddol o gydnabyddiaeth genedlaethol i PCYDDS, a enwyd hefyd yn Brifysgol y Flwyddyn gan y Times a’r Sunday Times am Ansawdd Addysgu yn 2026, ac a ddaeth yn 1af yng Nghymru ac yn 2il yn y DU yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn 2025. Gyda’i gilydd, mae’r cyflawniadau hyn yn amlygu ffocws parhaus y Brifysgol ar addysgu a chymorth myfyrwyr rhagorol, a chanlyniadau cadarnhaol i fyfyrwyr.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071