PCYDDS yn Lansio Ysgol y Gyfraith Abertawe i Hyrwyddo Gyrfaoedd ym Maes Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio Ysgol y Gyfraith Abertawe yn ei lleoliad SA1 newydd yn rhan o fenter strategol i hyrwyddo addysg gyfreithiol a chreu llwybrau arloesol i’r gyfraith, troseddeg a gwasanaethau brys. Mae’r Ysgol hon yn cyfuno arbenigedd academaidd, partneriaethau â chyflogwyr, a hyfforddiant ymarferol, gan gyfrannu’n sylweddol at seilwaith cyfiawnder a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe yn uno cryfderau sefydledig PCYDDS, gan gynnig rhaglenni a luniwyd gan fewnbwn cyflogwyr ac anghenion proffesiynol y byd go iawn. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod graddedigion yn ennill sgiliau ymarferol, ymwybyddiaeth o’r sector, a pharodrwydd proffesiynol ar gyfer gyrfaoedd effeithiol.
Ymhlith y rhaglenni mae llwybrau LLB ac LLM traddodiadol, graddau troseddeg wedi’u halinio â fframweithiau Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder, a llwybrau gwasanaethau brys fel y BA Arweinyddiaeth Tân ac Achub newydd, a ddatblygwyd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o ystafelloedd efelychu trochol, mannau ymarfer eiriolaeth, gweithgareddau lleoliadau trosedd, ac asesiadau ymarferol sy’n magu hyder ac yn datblygu gallu proffesiynol.
Meddai Dr Bronwen Williams, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe:
“Mae lansio Ysgol y Gyfraith Abertawe yn nodi pennod newydd gyffrous i PCYDDS. Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio gyda diwydiant ac ar gyfer diwydiant, gan sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant academaidd ac ymarferol rhagorol wrth baratoi i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon o fewn sector y gyfraith a sector cyfiawnder Cymru.”
Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor PCYDDS:
“Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus a hyderus a fydd yn cryfhau sectorau’r gyfraith, troseddeg a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Drwy ddod â’r disgyblaethau hyn at ei gilydd, rydym yn creu canolfan ragoriaeth uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar arfer sy’n cefnogi ein cymunedau ac yn cyfrannu’n sylweddol at weithlu Cymru yn y dyfodol.”
Mae lansio Ysgol y Gyfraith Abertawe hefyd yn cryfhau ymrwymiad PCYDDS i ehangu mynediad at yrfaoedd yn y gyfraith a’r gwasanaethau cyhoeddus. Drwy gynnig llwybrau hyblyg, opsiynau dysgu seiliedig ar waith, a llwybrau a achredir gan y diwydiant, nod y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd i fynd i mewn i broffesiynau sy’n chwarae rhan hanfodol yng ngwydnwch a llesiant cymunedau Cymru.
Mae cydweithredu â chyflogwyr yn parhau i fod yn ganolog i weledigaeth yr Ysgol. Mae mewnbwn rheolaidd cwmnïau cyfreithiol, gwasanaethau cyhoeddus, asiantaethau ymateb brys, a sefydliadau cyfiawnder troseddol yn sicrhau bod rhaglenni’n parhau i fod yn gyfredol, yn alinio ag arferion, ac yn ymatebol i anghenion datblygol y sector. Mae’r partneriaethau parhaus hyn hefyd yn creu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer lleoliadau, mentora, a gwaith prosiect byw sy’n dod â’r hyn y bydd myfyrwyr yn ei ddysgu yn fyw.
Ychwanegodd yr Athro Gareth Davies, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd: “Yn rhan o’i datblygiad hirdymor, bydd Ysgol y Gyfraith Abertawe yn parhau i archwilio meysydd rhaglen newydd, gan gynnwys llwybrau ôl-raddedig arbenigol a darpariaeth dysgu seiliedig ar waith ehangach. Mae gweithio’n agos ar y gwaith o ddatblygu a darparu gyda chyflogwyr, partneriaid AB a chyrff sector yn sail i ragoriaeth addysgu, a ddarperir gan ymarferwyr ac academyddion. Bydd y cyfleoedd hyn yn y dyfodol yn cryfhau seilwaith gweithlu Cymru ymhellach, gan sicrhau bod graddedigion wedi’u paratoi’n dda i gyfrannu at wasanaeth cyhoeddus, twf economaidd, a bywyd dinesig ehangach y genedl.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071